COVID-19 a Thwristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:25, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rydych yn llygad eich lle, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd ymwelwyr i'r sector twristiaeth, boed yn ymwelwyr dydd neu’n ymwelwyr sy'n dod i aros am dair noson neu fwy, gan wneud cyfraniad sylweddol mewn cyfnod o weithgarwch economaidd. Rydych yn gwbl iawn i bwysleisio'r berthynas agos rhwng prif ganolfannau poblogaeth y gogledd-orllewin a'r de-orllewin, ac yn wir, canolbarth a de-ddwyrain Lloegr ar y diwydiant twristiaeth.

Rydym bellach yn agosáu at sefyllfa lle ceir gwell dealltwriaeth, gobeithio, rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a'u Llywodraethau a Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth ddatganoledig Lloegr yn y cyd-destun hwn, ynghylch y mesurau sydd angen eu rhoi ar waith. Ac wrth inni wneud cynlluniau, o fewn cyfyngiadau'r pandemig echrydus hwn, ar gyfer adfer yr economi ymwelwyr i rywbeth tebyg i'w chyflwr blaenorol, mae'n amlwg fod angen inni wneud hyn ar sail y DU yn ogystal ag ar sail Cymru. Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n rhannu cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd â fy nghymheiriaid twristiaeth yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs, yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Lloegr.