COVID-19 a Thwristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:24, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae twristiaeth wedi cael ergyd fawr yn yr ychydig fisoedd diwethaf, am resymau amlwg. Er ei bod yn anochel y byddai’r pandemig yn tarfu'n ddrwg ar y sector, rwy'n poeni am yr effeithiau hirdymor. Yn draddodiadol, mae twristiaeth wedi bod yn rhan fawr o economi Cymru, ac rydym am iddi wella ar ôl y sioc a gafodd eleni, ond bydd yn anodd denu twristiaid i Gymru, yn enwedig o Loegr, os yw pobl o dan yr argraff nad oes croeso iddynt yma, ac os yw pobl o dan yr argraff fod ffin galed wedi ymddangos rhwng Cymru a Lloegr. Ac yn sicr, ffurfiwyd canfyddiad o'r fath, i raddau, yn 2020. Felly, sut gallwn ddileu'r canfyddiad hwn pan fydd y pandemig wedi llacio'i afael a phan fyddwn eisiau gweld y bunt dwristaidd o Loegr unwaith eto?