Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Nodais hefyd y cyllid a gyhoeddwyd gennych y bore yma. Darllenais ddatganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £3 miliwn o gyllid ychwanegol. Byddwn yn hoffi meddwl efallai bod fy nghwestiwn, a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf, ac a ofynnwyd heddiw, wedi helpu i ysgogi'r cyhoeddiad hwnnw am gyllid. A gaf fi ofyn, Weinidog, sut y cyrhaeddoch chi'r ffigur hwnnw o £3 miliwn? A ydych yn credu—? A oes gennych dystiolaeth y gallwch ei darparu i sicrhau bod hwn yn swm digonol ar gyfer y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, i'r rheini yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol yn wir, gan y pandemig? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n byw yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru, ac rwy'n meddwl tybed sut y gallwch sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a chyllid grant yn cyrraedd y rheini sy'n byw yn y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru, gan gynnwys y sefydliadau trydydd sector ac elusennol sy'n gwneud gwaith rhagorol yn darparu cymorth iechyd meddwl yn yr ardaloedd hyn.