2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cyfyngiadau symud cenedlaethol ar iechyd meddwl a lles pobl yng nghanolbarth Cymru? OQ55773
Rydym yn monitro effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant drwy amrywiaeth o arolygon a thystiolaeth arall. Ar 9 Hydref, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig manwl yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i ymateb i effeithiau'r pandemig sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Nodais hefyd y cyllid a gyhoeddwyd gennych y bore yma. Darllenais ddatganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £3 miliwn o gyllid ychwanegol. Byddwn yn hoffi meddwl efallai bod fy nghwestiwn, a gyflwynwyd yr wythnos ddiwethaf, ac a ofynnwyd heddiw, wedi helpu i ysgogi'r cyhoeddiad hwnnw am gyllid. A gaf fi ofyn, Weinidog, sut y cyrhaeddoch chi'r ffigur hwnnw o £3 miliwn? A ydych yn credu—? A oes gennych dystiolaeth y gallwch ei darparu i sicrhau bod hwn yn swm digonol ar gyfer y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, i'r rheini yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol yn wir, gan y pandemig? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n byw yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru, ac rwy'n meddwl tybed sut y gallwch sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a chyllid grant yn cyrraedd y rheini sy'n byw yn y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru, gan gynnwys y sefydliadau trydydd sector ac elusennol sy'n gwneud gwaith rhagorol yn darparu cymorth iechyd meddwl yn yr ardaloedd hyn.
Diolch, Russell. Hoffwn ddweud yn glir fod unrhyw gyllid rydym yn ei gyhoeddi yn awr yn ychwanegol at y swm blynyddol o £700 miliwn rydym yn ei wario. Mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar hynny. Rydym yn gwario mwy o arian ar iechyd meddwl nag ar unrhyw elfen arall yn y GIG, ac felly mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at yr hyn a oedd eisoes yn ei le. Ac mae'r cyllid rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn ychwanegol at y cyllid rydym eisoes wedi'i gyhoeddi yn ystod y pandemig hwn. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi awgrymu y byddwn yn gwario mwy o arian ar gymorth haen 0 a haen 1, oherwydd mai'r rheini yw'r ymyriadau lefel isel sy'n arbed yr arian i chi yn nes ymlaen. Ac felly dyna yw'r arian ychwanegol rydym wedi'i gyhoeddi heddiw—dyna yw rhywfaint ohono. Yn wir, caiff y rhan fwyaf ohono ei wario ar yr ymyrraeth lefel isel honno. Rydych yn llygad eich lle: bydd hwnnw ar gael i sefydliadau ym Mhowys ac mewn mannau eraill. Fe fyddwch yn ymwybodol mai'r person sy'n arwain ar hyn yw prif weithredwr y bwrdd iechyd ym Mhowys y cefais gyfarfod â hi yr wythnos diwethaf, am mai hi yw'r arweinydd ar iechyd meddwl ar gyfer Cymru gyfan, a gallwch fod yn dawel eich meddwl fod pryderon cymunedau gwledig yn sicr yn flaenoriaeth iddi.
Diolch, Weinidog.