Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Weinidog, y mis diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ein dilyniant i'n hadroddiad pwysig 'Cadernid Meddwl' ac rydym yn aros yn eiddgar am eich ymateb i'n hargymhellion a ddiweddarwyd. Credaf fod yr adroddiad yn nodi trywydd clir ar gyfer y newidiadau y gwyddom fod eu hangen ar frys i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Er y bu rhywfaint o gynnydd sydd i'w groesawu'n fawr ar y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, mae cryn dipyn o waith i'w wneud i sicrhau diwygiadau iechyd a gofal cymdeithasol sydd mor hanfodol ar draws y system. A fyddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod y pandemig COVID yn golygu bod angen cyflawni'r argymhellion hyn ar fwy, nid llai, o frys, ac a fyddech yn cytuno ein bod yn gwybod beth sydd angen digwydd ac mai'r flaenoriaeth ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad hwn yw ffocws di-baid ar gyflawni?