Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Wel, diolch yn fawr iawn, Angela. Fel rhywun y mae ei phlentyn wedi mynd i'r brifysgol eleni, rwy'n un o'r bobl hyn sy'n ymwybodol iawn o'r math o bwysau sydd ar lawer o fyfyrwyr sydd i ffwrdd oddi cartref am y tro cyntaf.
Hoffwn ei gwneud yn glir fod pob prifysgol wedi ymrwymo yn 2019 i newid sylweddol mewn perthynas ag iechyd meddwl, a chyflwynwyd cynigion lle'r oedd yn ofynnol i bob prifysgol gyflwyno strategaethau iechyd a llesiant. Felly, mae pob un o'r rheini wedi dod i law, ac felly dylent fod yn dilyn rhaglen eisoes. Nawr, yr hyn nad ydym wedi'i wneud, fel yr awgrymwch, yw nodi methodoleg a phethau ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod newydd ddarparu £10 miliwn ychwanegol i'r maes hwn. Nawr, gallem fod wedi eistedd o gwmpas a dweud, 'Gadewch i ni nodi methodoleg'; roeddem yn credu ei bod yn bwysicach sicrhau'r cyllid er mwyn gwneud yn siŵr—. Rydym mewn cyfnod o argyfwng; mae'n rhaid inni gael yr arian i'r rheng flaen cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym wedi gwneud yr un peth mewn perthynas â chymorth i weithwyr iechyd. Mae gennym yr arian yno, heb y dystiolaeth weithiau fod yna broblem enfawr. Dim ond dyfalu y bydd yna broblem fawr rydym ni, ac rydych yn llygad eich lle ei bod hi'n debygol fod angen i ni gael methodoleg yn sail iddo nawr, fel y gallwn ystyried a ydym yn gwneud y peth iawn. Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau yma, gan fod CCAUC wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn, ond mae'n debyg mai'r hyn y gallem ei wneud yw dysgu ychydig mwy o arferion gorau i weld beth sy'n gweithio mewn un brifysgol ac a allwn gyflwyno hynny yn y prifysgolion eraill. Felly, diolch ichi am y cwestiwn hwnnw.