Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:47, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wrth i ganlyniadau economaidd y cyfyngiadau symud ddatblygu, pan fydd ffyrlo yn troi'n ddiswyddiadau, pan fydd gwyliau morgais yn dod i ben, a phan fydd dirwasgiad yn digwydd, credwn ei bod yn rhesymol disgwyl trallod parhaus a dirywiad clinigol sylweddol yn iechyd meddwl rhai pobl, ond mae hefyd yn rhesymol disgwyl y bydd y dirwasgiad economaidd yn cael effeithiau hirdymor wedi'u disgrifio'n dda ar iechyd meddwl.