Iechyd Meddwl a'r Cyfyngiadau Symud

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:00, 4 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr, Hefin, a diolch am ofyn dau gwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg heddiw. Mae'r pandemig a'r cyfyngiadau wedi effeithio arnom ni i gyd mewn rhyw ffordd neu gilydd, ond rŷn ni'n cydnabod yr effaith ychwanegol sydd wedi bod ar iechyd meddwl a lles. O ganlyniad i hyn, rŷn ni wedi buddsoddi dros £9 miliwn ychwanegol i gefnogi cymorth i iechyd meddwl, ac i ymateb i'r newidiadau yn y maes yma.