Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. Rwy'n cymeradwyo'r cyhoeddiad a wnaed heddiw hefyd—y buddsoddiad mewn iechyd meddwl a gyhoeddwyd gennych y prynhawn yma. Rwy'n bryderus am etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ac sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID, nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o'r blaen ac sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng COVID hwn. A gaf fi ofyn i chi a ellir rhoi mwy o arian i linell gymorth CALL i gefnogi'r bobl hynny? Beth arall rydych yn ei wneud i helpu pobl nad ydynt, o bosibl, eisiau mynd at eu meddyg teulu gyda'u problem iechyd meddwl oherwydd nad ydynt erioed wedi gorfod gwneud hynny o'r blaen? Pa gamau sy'n cael eu cymryd yn y meysydd hynny, os gwelwch yn dda?