Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:58, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedoch chi wrth Rhun ap Iorwerth am ymgyrch Amser Newid. Roeddwn hefyd yn falch o glywed yr hyn a ddywedoch chi am beidio â gwneud trallod yn fater meddygol heb fod angen. Yn y rhanbarth y mae'r ddwy ohonom yn ei gynrychioli, yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin, mae prosiect arloesol iawn ar y gweill gan y mudiad gwirfoddol, Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin, lle mae meddygon teulu'n presgripsiynu cymorth gan yr elusen honno i blant a theuluoedd, ac ystod eang o gymorth na allaf fanylu arnynt yma. Hoffwn eich gwahodd, Weinidog—. Nid wyf yn credu y gallwn ymweld ar hyn o bryd gan na fyddai'n briodol, ond tybed a fyddech yn cytuno i gyfarfod â Tracy Pike, y prif weithredwr, sydd wedi datblygu'r model gwirioneddol arloesol hwn lle mae'r meddygon teulu'n presgripsiynu nid yn unig sesiynau cwnsela ond ystod eang o gymorth cymdeithasol i deulu. Mae'r canlyniadau cychwynnol wedi bod yn galonogol tu hwnt, a hoffwn feddwl bod hwnnw'n fodel posibl y gellid ei ddatblygu a'i ddarparu mewn mannau eraill—partneriaeth ddefnyddiol iawn rhwng arian sector cyhoeddus drwy'r bwrdd iechyd lleol, drwy'r meddygon teulu ac arloesedd trydydd sector. Felly, os ysgrifennaf atoch ynglŷn â'r mater hwnnw, Weinidog, a fyddech yn ystyried cyfarfod gyda Tracy a'i thîm i weld a oes gwersi y gellid eu dysgu o'r gwaith arloesol hwn i gymunedau mewn rhannau eraill o Gymru?