Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Mae hynny'n swnio'n dda i mi, rhaid imi ddweud. Rwy'n barod iawn i weld sut y gallwn gael meddygon teulu i bresgripsiynu pethau nad ydynt o reidrwydd yn feddygol bob amser. Meddyg teulu yw fy ngŵr, a gwn ei fod wedi bod yn presgripsiynu chwaraeon ers sawl blwyddyn, er enghraifft, ac ymarfer corff, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers amser maith. Rwy'n awyddus i weld hynny'n cael ei ehangu i feysydd eraill—pethau fel y celfyddydau a chyfleusterau eraill. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â systemau a rhwydweithiau cymorth, a rhoi cymorth ychwanegol i bobl. Yn fwyaf arbennig, roedd rhai pobl yn cael trafferth ar eu pen eu hunain mewn teuluoedd, o dan bwysau aruthrol, ac mae rhannu'r baich hwnnw'n gallu bod yn ddigon weithiau i roi pobl mewn lle gwell.