Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:44, 4 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Gwn fod llawer o waith yn cael ei wneud mewn perthynas â gofal mewn argyfwng, ac mae grŵp sicrwydd wedi'i sefydlu, yn cynnwys yr heddlu, ac roeddwn yn ddigon ffodus i allu trafod y materion sy'n ymwneud â gofal mewn argyfwng gyda hwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn sicrhau bod y concordat sydd wedi'i gynnig yn cael ei ystyried yn fanwl nawr, ac rwy'n siŵr fod rhai o'r materion rydych wedi'u nodi, sy'n ymwneud â sicrhau bod y gwahanol wasanaethau'n siarad â'i gilydd, yn ymwybodol o'r hyn y mae'r gwasanaethau eraill yn ei wneud ac yn gallu cael gafael ar y wybodaeth honno a allai fod o ddefnydd o dan amgylchiadau o'r fath. Felly, byddaf yn edrych i weld a oes cyfeiriad at y mater rydych wedi'i amlinellu yn y concordat a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan y grŵp gofal mewn argyfwng hwnnw.