Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Rydw i’n llawn gydnabod pwysigrwydd pontio didrafferth a pharhad gofal i bobl ifanc sy’n symud o’r gwasanaeth CAMHS i wasanaethau ar gyfer oedolion. Mae’r camau rydyn ni’n eu cymryd i wella’r broses o bontio wedi’u nodi yn y ddogfen 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni 2019-22', a gafodd ei diweddaru yn ddiweddar.