Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 4 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:49, 4 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr iawn, a dwi'n sylweddol, a hithau'n newydd i'r rôl, ei bod hi'n annheg, o bosib, disgwyl cynlluniau concrit gan y Gweinidog, ond mae hi'n amlwg bod delio efo sgil-effeithiau'r pandemig yn mynd i fod angen ymdrech enfawr a hefyd, dwi'n meddwl, newid radical yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl.

Mae nifer o adroddiadau pwyllgor, ac ati, dros y blynyddoedd wedi awgrymu mai un o’r prif broblemau efo gwasanaethau iechyd meddwl ydy bod pobl yn aml yn cael eu troi i ffwrdd am nad ydyn nhw’n cael eu hystyried eto i fod yn ddigon sâl a wedyn mae problemau yn cael cyfle i fynd yn waeth. Ydy'r Gweinidog yn cydnabod y broblem honno, a sut mae hi'n bwriadu newid y ffordd o ddelio efo hynny a sicrhau ymyrraeth gynharach?