Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Rydyn ni’n disgwyl i’r holl fyrddau iechyd gynnal gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol a monitro newidiadau o ran anghenion iechyd meddwl yn sgil effaith y pandemig. Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig eu bod nhw'n ymateb wedyn i’r newidiadau hynny. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi cynlluniau i wneud hyn yn ei adroddiadau fframwaith gweithredol ar gyfer chwarter 3 a 4.