Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r adroddiad yma ar ein cynllun ieithoedd swyddogol ni ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Mawrth 2020. Yn unol â’r drefn arferol, mae’r adroddiad wedi’i gwblhau ers mis Mehefin eleni, ond, wrth gwrs, mae amgylchiadau wedi ein hatal rhag cynnal y ddadl tan rŵan. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar ein gwaith ni fel Comisiwn dros y flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd, yn bwysig iawn, iawn, wrth gwrs, yn nodi’r adegau hynny lle nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sydd wedi’u pennu yn y cynllun.
Mi wnaethom ni gyflawni llawer yn ystod y flwyddyn. Efallai mai un o’r prif uchafbwyntiau oedd cynnal arolwg o sgiliau iaith Gymraeg staff Comisiwn y Senedd. Mi allwch weld y manylion yn yr adroddiad ei hun, ond mi oedd hi'n galonogol iawn gweld dros 80 y cant o’r rheini wnaeth ymateb i’r arolwg yn nodi bod rhywfaint o sgiliau iaith Gymraeg ganddyn nhw—y sgiliau hynny yn amrywio o lefel Cymraeg cwrteisi i siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae o'n brawf, dwi'n meddwl, bod ein system recriwtio, sydd yn seiliedig ar y matrics sgiliau iaith, yn gweithio. Heb os, mae hyn, dwi'n meddwl, yn adlewyrchiad llawer mwy cywir o’r continwwm ieithyddol sy’n bodoli yng Nghymru rŵan na’r hen ddull deuaidd o ddisgrifio unigolion un ai fel siaradwyr Cymraeg neu yn ddi-Gymraeg. Ac mae’n brawf hefyd, dwi'n meddwl, o lwyddiant ein darpariaeth hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg, efo’r niferoedd sy’n derbyn cymorth i ddysgu, neu i wella eu sgiliau, yn cynyddu yn flynyddol. Mi fydd yr wybodaeth sydd wedi dod i law drwy'r arolwg yn cryfhau ein gwaith parhaus ni ar gynllunio capasiti a sicrhau bod y sgiliau cywir yn y mannau cywir ar draws y sefydliad.
Datblygiad nodedig arall yn ystod y flwyddyn oedd llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn y Senedd a Chomisiynydd y Gymraeg. Wrth gwrs, mae’r ffaith bod gennym ni ein Deddf ein hunain yn golygu nad ydym ni'n atebol i Gomisiynydd y Gymraeg, ond yn hytrach yn atebol i’r 60 Aelod etholedig o’r Senedd hon trwy gynnal dadl flynyddol yn y Cyfarfod Llawn, a thrwy adborth barhaus gennych chi am ein gwasanaethau. Ond, dwi'n meddwl, mae sefydlu’r memorandwm wedi golygu ein bod ni yn gallu cynnal perthynas efo'r comisiynydd, ac, yn bwysicach, yn golygu ein bod ni’n cryfhau ein gallu i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf ym maes cynllunio ieithyddol a darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru, ac yn rhannu'n harferion da ninnau efo eraill hefyd.
Mi fyddai'n od iawn taswn i ddim yn cyfeirio at y sefyllfa o ran pandemig y coronafeirws yn yr ychydig eiriau yma hefyd. Mi gafodd y cyfnod clo gwreiddiol ei gyflwyno tua diwedd y cyfnod adrodd. Mae'r ffaith ein bod ni yma yn cymryd rhan mewn dadl arall drwy gyfrwng rhithiol yn dystiolaeth o'r arloesedd gafodd ei gyflwyno yn y Senedd o ganlyniad i'r cyfyngiadau, ac yn rhan ganolog o'r arloesedd hwnnw, wrth gwrs, oedd yr angen i sicrhau ein bod ni'n gallu cario ymlaen i weithredu yn ddwyieithog yn y byd rhithiol, neu'n ddiweddarach y byd hybrid newydd yma.
Wrth i’r adroddiad gael ei ddrafftio, roeddem ni eisoes ymysg y deddfwrfeydd cyntaf i gynnal Cyfarfodydd Llawn yn rhithwir a hynny yn gwbl ddwyieithog. Rydym hefyd wedi cynghori nifer helaeth o sefydliadau ar draws Cymru ar ddefnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae wedi bod yn braf cael siarad efo balchder am ein profiadau mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd, fel cadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a dwi'n gwybod bod staff y Comisiwn wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd. Mi fyddwn ni'n sicr yn dysgu o’r profiadau rydym ni wedi byw drwyddyn nhw ac yn chwilio am gyfleoedd newydd hefyd i ddefnyddio technoleg i wella ein gwasanaethau dwyieithog. Ac mi gawn ni sôn mwy am hynny, dwi'n siŵr, yn ein hadroddiad blynyddol nesaf.
Un o'r pethau dwi yn eiddgar i'w wneud wrth symud ymlaen ydy dysgu mwy am beth sy'n ysgogi dewis o iaith gan Aelodau a'u staff yng ngwaith y Senedd. Mae'r adroddiad yn nodi rhywfaint o leihad yn nefnydd y Gymraeg. Dwi'n falch bob amser yn gweld Aelodau yn rhoi tro ar ddefnyddio'r Gymraeg yng ngwaith y Senedd, ond dwi'n meddwl bod angen gweithio ar bob lefel i sicrhau bod unrhyw rwystrau i ddefnydd y Gymraeg, p'un ai'n fater o hyder, yn fater o ddefnydd technoleg, yn fater o ddefnydd o gyfraniadau'r Senedd, ar y cyfryngau ac yn y blaen, yn cael eu goresgyn. Mae yna le pwysig, ac mae eisiau inni gydnabod hynny, i'r Senedd yma fel model rôl ieithyddol i Gymru, yn parchu dewis iaith pobl, ond yn annog pobl wrth gwrs i wneud yn fawr o'r ffaith ein bod ni'n sefydliad sydd yn gweithredu yn ddwyieithog.
I edrych tua’r dyfodol, felly, i gloi, rydym ni'n tynnu at ddiwedd y pumed Senedd ac mi fydd yr amser sy'n weddill yn gyfle i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod ni wedi cyflawni ein holl amcanion ac ar gynllunio ar gyfer y chweched Senedd, wrth gwrs. Rydym ni eisoes wedi dechrau adolygu’r cynllun presennol i ddeall beth sy’n gweithio’n dda ac ym mha feysydd mae angen gwella. Mi hoffwn i annog Aelodau i gyfrannu at y gwaith hwnnw pan fydd y Comisiwn yn ymgynghori.