Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Mae gwelliant 119 yn ceisio ailgyflwyno darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau baratoi a chyhoeddi trefniadau ar gyfer system rheoli perfformiad y prif weithredwr. Mae'n ymddangos bod llawer o ddryswch ynghylch beth yw ystyr 'system rheoli perfformiad', ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â chefnogi gweithwyr ar bob lefel i'w buddiant cyffredin nhw a'ch buddiant cyffredin chi.
Yn ystod trafodion Cyfnod 2, fe wnaeth gwelliannau Llywodraeth Cymru ddileu'r ddyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad prif weithredwr y cyngor. Dadleuodd y Gweinidog mai'r rheswm am hyn oedd bod pryderon wedi eu codi ynglŷn â'r potensial i'r ddarpariaeth roi trwydded i faterion perfformiad a gallu unigol gael eu cynnal yn gyhoeddus. Ac, wrth gwrs, byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn canolbwyntio ar sut y bydd trefniadau rheoli perfformiad prif weithredwr yn cael eu cynnal. Mae'n ei gwneud yn glir bod systemau rheoli perfformiad yn ymgorffori, ond nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu i, arfarniadau blynyddol, a bod yn rhaid i'r system rheoli perfformiad ar gyfer prif weithredwyr ystyried dulliau priodol eraill.
Mae systemau rheoli perfformiad yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad. Fodd bynnag, dim ond os ydyn nhw'n ymgorffori pob cyflogai, gan gynnwys eu prif weithredwyr y maen nhw'n wirioneddol effeithiol. Mae'r arfer da hwn o ran rheoli adnoddau dynol, drwy ddiffiniad, yn cael ei gynnal yn breifat yn rhan o broses barhaus lle mae arfarniadau yn chwarae rhan fach yn unig ac yn gipolwg ar amser penodol. Mae sefydliadau sy'n methu â darparu'r systemau rheoli perfformiad hyn yn methu â chefnogi, ysgogi a grymuso eu gweithwyr trwy gydnabod yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud yn dda, ond hefyd cytuno â nhw beth y mae angen ei wneud yn wahanol ac yna eu cefnogi i gyflawni hynny. Felly, mae'r gwelliant hwn yn hanfodol i fwriadau datganedig y Bil hwn, a byddai peidio â chynnwys hyn yn niweidiol i unrhyw gyflogai mewn unrhyw sefydliad yr effeithir arno felly.