Grŵp 7: Aelodau a swyddogion awdurdodau lleol (Gwelliannau 119, 80, 75)

– Senedd Cymru am 6:36 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:36, 10 Tachwedd 2020

Grŵp 7 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud ag aelodau a swyddogion awdurdodau lleol. Gwelliant 119 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno'r gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp o welliannau. Mark Isherwood. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mark Isherwood, a wnewch chi ddad-dawelu eich hun, neu a wnaiff rhywun eich dad-dawelu? Ie. Dyna ni.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i'n aros am y botwm 'dad-dawelu', a gyrhaeddodd o'r diwedd. Diolch.

Cynigiwyd gwelliant 119 (Mark Isherwood).

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:36, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gwelliant 119 yn ceisio ailgyflwyno darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau baratoi a chyhoeddi trefniadau ar gyfer system rheoli perfformiad y prif weithredwr. Mae'n ymddangos bod llawer o ddryswch ynghylch beth yw ystyr 'system rheoli perfformiad', ond mae'n ymwneud mewn gwirionedd â chefnogi gweithwyr ar bob lefel i'w buddiant cyffredin nhw a'ch buddiant cyffredin chi. 

Yn ystod trafodion Cyfnod 2, fe wnaeth gwelliannau Llywodraeth Cymru ddileu'r ddyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad prif weithredwr y cyngor. Dadleuodd y Gweinidog mai'r rheswm am hyn oedd bod pryderon wedi eu codi ynglŷn â'r potensial i'r ddarpariaeth roi trwydded i faterion perfformiad a gallu unigol gael eu cynnal yn gyhoeddus. Ac, wrth gwrs, byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn canolbwyntio ar sut y bydd trefniadau rheoli perfformiad prif weithredwr yn cael eu cynnal. Mae'n ei gwneud yn glir bod systemau rheoli perfformiad yn ymgorffori, ond nad ydyn nhw wedi eu cyfyngu i, arfarniadau blynyddol, a bod yn rhaid i'r system rheoli perfformiad ar gyfer prif weithredwyr ystyried dulliau priodol eraill.

Mae systemau rheoli perfformiad yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad. Fodd bynnag, dim ond os ydyn nhw'n ymgorffori pob cyflogai, gan gynnwys eu prif weithredwyr y maen nhw'n wirioneddol effeithiol. Mae'r arfer da hwn o ran rheoli adnoddau dynol, drwy ddiffiniad, yn cael ei gynnal yn breifat yn rhan o broses barhaus lle mae arfarniadau yn chwarae rhan fach yn unig ac yn gipolwg ar amser penodol. Mae sefydliadau sy'n methu â darparu'r systemau rheoli perfformiad hyn yn methu â chefnogi, ysgogi a grymuso eu gweithwyr trwy gydnabod yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud yn dda, ond hefyd cytuno â nhw beth y mae angen ei wneud yn wahanol ac yna eu cefnogi i gyflawni hynny. Felly, mae'r gwelliant hwn yn hanfodol i fwriadau datganedig y Bil hwn, a byddai peidio â chynnwys hyn yn niweidiol i unrhyw gyflogai mewn unrhyw sefydliad yr effeithir arno felly. 

Photo of Julie James Julie James Labour 6:39, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae arnaf i ofn na allaf i gefnogi gwelliant 119, sy'n ymwneud â rheoli perfformiad prif weithredwyr. Cafodd y ddyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli perfformiad prif weithredwr y cyngor ei dileu o'r Bil yng Nghyfnod 2. Gwnaed y penderfyniad i ddileu'r darpariaethau ar ôl gwrando'n ofalus ar y dystiolaeth a gafodd ei darparu yn ystod Cyfnod 1. Mynegodd Solace a CLlLC bryder mawr ynghylch lefel y rhagnodi yn y ddarpariaeth, a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan drafodaethau pellach gyda'r rhanddeiliaid hyn cyn Cyfnod 2. Fel y nodais yng Nghyfnod 2 yn y pwyllgor, byddwn i'n disgwyl i'r dull hunanasesu a phanel asesu newydd o ymdrin â pherfformiad a llywodraethu a nodir yn y Bil archwilio arweinyddiaeth y sefydliad a'i effeithiolrwydd. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant.

Mae'r gwelliannau yr wyf i wedi eu cyflwyno yn y grŵp hwn yn fân ac yn dechnegol. Mae gwelliant 75 yn mireinio'r cyfarwyddyd sy'n nodi, o fewn y testun sy'n cael ei ddiwygio, y dylid mewnosod y diwygiadau y darperir ar eu cyfer gan baragraff 6 o Atodlen 8, ac mae gwelliant 80 yn dileu diwygiad canlyniadol i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy'n ddiangen yn sgil adran 54. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mark Isherwood, a ydych chi'n dymuno ymateb i'r ddadl?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Ydw, os gwelwch yn dda.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Iawn, cariwch ymlaen felly.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Dad-dawelu. Iawn. Wel, cyn cael fy ethol i'r Senedd, treuliais dros ddau ddegawd yn rheoli timau o bobl o fewn strwythurau rheoli perfformiad. Roedd hyn yn hynod o ysgogol iddyn nhw. Fe wnaeth fy helpu i yn fawr, fel rhywun a oedd yn eu rheoli o'r tu ôl, i gydnabod nad oedd gen i'r holl ddoethineb na phŵer, ond y gallem ni, gyda'n gilydd, wireddu cryfderau pawb er budd ein gilydd ac yn unol â'n nodau corfforaethol cyffredin. Dyna sut y mae'r sefydliadau gorau ym mhob sector yn gweithio. Mae er budd yr holl weithwyr. Ac yn fy sefydliad i, fel ym mron pob sefydliad arall y gwnes i ddod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys pan oeddwn i'n aelod gwirfoddol o fwrdd sefydliadau allanol ar sail ddi-dâl, roedd y prif weithredwr bob amser yn rhan o'r broses honno, ac yn ddiolchgar amdani, gan ei bod yn galluogi problemau i gael eu datrys cyn iddyn nhw fod yn ddifrifol, ac yn sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng y cyflogai ar bob lefel a'r rhai hynny a oedd yn rheoli gyda nhw i sicrhau bod llywodraethu corfforaethol yn cyflawni ei botensial mwyaf, yn mynd i'r afael â phroblemau yn gyflym, ond, yn fwy perthnasol, yn cynorthwyo pobl i dyfu, datblygu, gweithredu'n effeithiol, â phwerau dirprwyedig gwirioneddol, ond yn atebol yn y ffordd iawn i'w cydweithwyr a'u cymheiriaid a'r rhai hynny a oedd yn gweithio gyda nhw ar bob lefel.

Rwy'n synnu'n fawr ac wedi siomi'n fawr efallai na fydd Aelodau yn deall bod y system hon yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad, ac mai cyfyngu ar berfformiad y sefydliad hwnnw yw peidio â'i gael, ni waeth pa mor dda y mae'r bobl sydd ynddo.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 10 Tachwedd 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 119? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe wnawn ni bleidleisio ar 119. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 27 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod. 

Gwelliant 119: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2632 Gwelliant 119

Ie: 20 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 3 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:43, 10 Tachwedd 2020

Gwelliant 80 yw'r gwelliant nesaf, yn enw'r Gweinidog.

Cynigiwyd gwelliant 80 (Julie James).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:43, 10 Tachwedd 2020

Wedi'i gyflwyno. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 80? [Gwrthwynebiad.] Oes—gwrthwynebiad gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais, felly. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 80: O blaid: 44, Yn erbyn: 0, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2633 Gwelliant 80

Ie: 44 ASau

Absennol: 9 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 7 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:45, 10 Tachwedd 2020

Ac ar hynny, fe gymerwn ni egwyl fer, ac fe wnawn ni sorto unrhyw broblemau technegol allan, ac fe gaiff Aelodau rhyw gymaint o amser. Fe wnawn ni geisio ailgychwyn mewn 20 munud, tua 7.05 p.m.. Diolch, bawb.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:45.

Ailymgynullodd y Senedd am 19:09, gyda'r Llywydd yn y Gadair.