Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Dad-dawelu. Iawn. Wel, cyn cael fy ethol i'r Senedd, treuliais dros ddau ddegawd yn rheoli timau o bobl o fewn strwythurau rheoli perfformiad. Roedd hyn yn hynod o ysgogol iddyn nhw. Fe wnaeth fy helpu i yn fawr, fel rhywun a oedd yn eu rheoli o'r tu ôl, i gydnabod nad oedd gen i'r holl ddoethineb na phŵer, ond y gallem ni, gyda'n gilydd, wireddu cryfderau pawb er budd ein gilydd ac yn unol â'n nodau corfforaethol cyffredin. Dyna sut y mae'r sefydliadau gorau ym mhob sector yn gweithio. Mae er budd yr holl weithwyr. Ac yn fy sefydliad i, fel ym mron pob sefydliad arall y gwnes i ddod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys pan oeddwn i'n aelod gwirfoddol o fwrdd sefydliadau allanol ar sail ddi-dâl, roedd y prif weithredwr bob amser yn rhan o'r broses honno, ac yn ddiolchgar amdani, gan ei bod yn galluogi problemau i gael eu datrys cyn iddyn nhw fod yn ddifrifol, ac yn sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng y cyflogai ar bob lefel a'r rhai hynny a oedd yn rheoli gyda nhw i sicrhau bod llywodraethu corfforaethol yn cyflawni ei botensial mwyaf, yn mynd i'r afael â phroblemau yn gyflym, ond, yn fwy perthnasol, yn cynorthwyo pobl i dyfu, datblygu, gweithredu'n effeithiol, â phwerau dirprwyedig gwirioneddol, ond yn atebol yn y ffordd iawn i'w cydweithwyr a'u cymheiriaid a'r rhai hynny a oedd yn gweithio gyda nhw ar bob lefel.
Rwy'n synnu'n fawr ac wedi siomi'n fawr efallai na fydd Aelodau yn deall bod y system hon yn hanfodol i waith effeithiol unrhyw sefydliad, ac mai cyfyngu ar berfformiad y sefydliad hwnnw yw peidio â'i gael, ni waeth pa mor dda y mae'r bobl sydd ynddo.