Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig — pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:29 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 7:29, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn gynharach yn y ddadl ac yng Nghyfnod 2, mae'r Gweinidog wedi gwneud pwyntiau am ganlyniadau anfwriadol a allai fod i rai gwelliannau, ac roeddwn wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rwyf yn derbyn pwynt y Gweinidog yn y fan yma ei bod yn ddigon posibl mai bwriad y pŵer cyfyngedig hwn i orfodi awdurdodau lleol yw ei ddefnyddio mewn ystyr gyfyngedig iawn. Ond, unwaith eto, byddwn i'n gwneud yr un pwynt i'r Gweinidog am ganlyniadau anfwriadol a allai ddigwydd oherwydd hyn. Ac oherwydd y goblygiadau llym a sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn eu cael, byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau ein hunain i bleidlais a byddwn ni'n cefnogi'r rhai a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, fel y dywedais yn gynharach. Diolch.