Grŵp 9: Cyd-bwyllgorau corfforedig — pan na fo cais wedi ei wneud (Gwelliannau 164, 120, 121, 122, 125, 126, 167, 127, 128, 129, 130, 131, 133, 135, 173, 175)

– Senedd Cymru am 7:24 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:24, 10 Tachwedd 2020

Grŵp 9 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp hynny yn ymwneud â chyd-bwyllgorau corfforedig pan na fo cais wedi ei wneud. Gwelliant 164 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant hynny a'r grŵp.

Cynigiwyd gwelliant 164 (Delyth Jewell).

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 7:24, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n awyddus i gyflwyno gwelliannau i ddileu pŵer y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae rhai o'r gwelliannau hynny wedi eu cyflwyno gan Mark Isherwood, felly mae ein gwelliannau ni yn welliannau canlyniadol i'r rhai hynny, ond fe'u cyflwynwyd gyda'r un bwriad polisi ac, wrth gwrs, maen nhw wedi'u drafftio gan y gwasanaethau cyfreithiol yn y fan yma. Mae hyn yn adlewyrchu ein safbwynt fel plaid na ddylid gorfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Rydym ni o'r farn y byddai pŵer o'r fath yn mynd yn rhy bell i roi pŵer gweinidogol i ailysgrifennu ôl troed rhanbarthol llywodraeth yng Nghymru heb y lefel o graffu yr hoffem ni ei gweld. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog fod hwn yn bŵer cyfyngedig iawn sydd wedi ei gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Fodd bynnag, er ein bod yn derbyn yr eglurhad hwnnw, rydym ni'n credu y dylai fod yn bosibl i awdurdod lleol dynnu ei hun allan o'r trefniadau hyn heb gael ei orfodi i mewn iddynt. Ac felly, byddwn ni'n cefnogi ein gwelliannau ni a gwelliannau Mark Isherwood yn yr adran hon. Diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 7:25, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gwelliannau 120, 121, 122, 125, 126, 127, 128, 129, 130, 133 a 135 yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud, fel yr ydym newydd ei glywed gan ein cyd-Aelod ym Mhlaid Cymru.

Yn ystod trafodion Cyfnod 1, codwyd pryderon gan nifer o randdeiliaid ynglŷn â'r mater hwn. Er enghraifft, penderfynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nodi bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol. Hefyd, awgrymodd cymdeithas prif swyddogion awdurdodau lleol y byddai mandadu cyd-bwyllgorau corfforedig yn 'wrthgynhyrchiol', gan gwestiynu a oedd angen ôl troed gorfodol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.

Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrwng i lywodraeth leol i raddau helaeth ac mai mater i lywodraeth leol yw penderfynu sut y maen nhw'n rheoli ac yn trefnu eu trefniadau a'u cydweithrediadau rhanbarthol. Fodd bynnag, mae'r gallu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig yn tanseilio'r ddadl hon, ac nid yw pryderon rhanddeiliaid a godwyd drwy gydol y gwaith craffu ar y Bil wedi cael sylw. O ystyried eu swyddogaeth o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—fel y gwyddoch, clymblaid sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd, busnes a'r byd academaidd.

Mae ein gwelliannau ni, felly, yn dileu darpariaethau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru orfodi creu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 7:27, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae arnaf i ofn fy mod yn gwrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn—hynny yw, gwelliannau 120 i 131, 133, 135, 164, 167, 173 ac 175. Nid wyf yn bwriadu siarad am bob gwelliant yn ei dro, ond fe wnaf sôn am yr egwyddor sydd, yn fy marn i, yn sail i'r gwelliannau hyn, sef yr egwyddor honno o bwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan nad oes cais wedi'i wneud gan lywodraeth leol.

Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed i'n sôn am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig droeon ac mae'r model hwn yn un yr wyf i wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddatblygu ers imi ddechrau yn y swydd hon. Nid wyf yn cytuno â'r cynnig y dylid dileu adrannau 73 a 74; rwy'n credu bod hynny yn elfen allweddol o'r darpariaethau hyn. Fy uchelgais wrth greu cyd-bwyllgorau corfforedig oedd darparu gwell cyfrwng ar gyfer cydweithredu mewn llywodraeth leol, gyda manteision gallu cyflogi staff a dal cyllidebau, ond hefyd i alluogi defnyddio un cyfrwng cyson ar gyfer y cydweithio hwn, yn hytrach na threfniadau ar wahân ar gyfer gwahanol swyddogaethau. Rwy'n credu bod llywodraeth leol yn rhannu'r uchelgais hwn.

Fy nod yw symleiddio darpariaeth a oedd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth yn gysylltiedig â chydweithrediad un diben, megis cyd-awdurdodau trafnidiaeth a phaneli cynllunio strategol, a'i wneud yn un trefniant rhanbarthol sy'n gallu edrych ar y swyddogaethau cysylltiedig hyn yn gyfannol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig bod gan Weinidogion Cymru y gallu i greu cyd-bwyllgorau corfforedig i ddisodli'r strwythurau deddfwriaethol presennol hyn. Rwyf wedi bod yn eglur mai pŵer cyfyngedig iawn yw hwn, wedi'i gyfyngu i feysydd lle mae trefniadau gweithio rhanbarthol eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth neu mewn ymarfer. Mae'r rhain yn feysydd lle ceir consensws bod gweithio ar y raddfa hon yn gwneud synnwyr, gan gyfochri dulliau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir i ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf lleol. Ar y sail hon, felly, rwy'n annog yr Aelodau'n gryf i wrthod pob gwelliant yn y grŵp hwn. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn gynharach yn y ddadl ac yng Nghyfnod 2, mae'r Gweinidog wedi gwneud pwyntiau am ganlyniadau anfwriadol a allai fod i rai gwelliannau, ac roeddwn wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rwyf yn derbyn pwynt y Gweinidog yn y fan yma ei bod yn ddigon posibl mai bwriad y pŵer cyfyngedig hwn i orfodi awdurdodau lleol yw ei ddefnyddio mewn ystyr gyfyngedig iawn. Ond, unwaith eto, byddwn i'n gwneud yr un pwynt i'r Gweinidog am ganlyniadau anfwriadol a allai ddigwydd oherwydd hyn. Ac oherwydd y goblygiadau llym a sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn eu cael, byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau ein hunain i bleidlais a byddwn ni'n cefnogi'r rhai a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, fel y dywedais yn gynharach. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:30, 10 Tachwedd 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 164? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais, felly, ar welliant 164. O blaid 18, chwech yn ymatal, 26 yn erbyn.

Gwelliant 164: O blaid: 18, Yn erbyn: 26, Ymatal: 6

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2641 Gwelliant 164

Ie: 18 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw