Part of the debate – Senedd Cymru am 7:31 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Technegol yw gwelliant 19 ac mae'n mewnosod diffiniad o 'ddogfennau' at ddibenion Rhan 5 y Bil. Mae gwelliannau 31 a 32 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn mireinio'r ddarpariaeth bresennol i ddarparu, wrth wneud rheoliadau, y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau, cyd-bwyllgorau corfforedig ac yn y blaen ddarparu dogfennau yn ogystal â gwybodaeth.
Mae gwelliant 20 yn darparu mwy o eglurder ynghylch yr ystod o sefyllfaoedd lle y gellir defnyddio'r pwerau presennol yn adran 82 i wneud darpariaeth atodol. Mae gwelliant 21 yn ganlyniadol i'r gwelliant hwn ac mae'n dileu is-adran sydd wedi'i gwneud yn ddiangen.
Mae gwelliannau 22 i 30 yn darparu y gellir defnyddio pwerau presennol i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon yn gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â symud staff, eiddo, hawliau cysylltiedig ac yn y blaen hefyd os bydd swyddogaeth yn peidio â chael ei harfer gan gyd-bwyllgor corfforedig ac yn hytrach yn cael ei harfer gan berson arall.
Yn olaf, o ran gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, mae gwelliant 76 yn dileu diwygiad canlyniadol i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, nad oes ei angen gan fod Deddf 2005, i bob pwrpas, wedi'i diddymu gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gan droi at welliannau 123 a 124, sy'n ymwneud â'r swyddogaeth llesiant economaidd, bydd y swyddogaeth llesiant economaidd yn galluogi'r cyd-bwyllgorau corfforedig hynny y mae'r swyddogaeth wedi ei chaniatáu iddynt, mewn rheoliadau, i wneud unrhyw beth sy'n debygol yn eu barn nhw o hybu neu wella llesiant economaidd yr ardal. Mae gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad o gyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy, er enghraifft, y cytundebau dinas a'r cytundebau twf. Yn rhan o'r uchelgais a rennir i symleiddio trefniadau rhanbarthol a chyfochri swyddogaethau strategol allweddol ar lefel ranbarthol, rwy'n gobeithio y bydd rhanbarthau yn trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ar ôl eu sefydlu. Nid yw'n fwriad i gennyf i ddechrau gorchymyn sut y mae llywodraeth leol yn cyflawni ei swyddogaethau economaidd drwy gyd-bwyllgorau corfforedig na thrwy unrhyw drefniant arall. Os bydd angen, mae'n ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig, o dan adran 85 y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni yn gysylltiedig â'u gweithrediadau gan gynnwys eu swyddogaethau. Yn ogystal â hyn, bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar y modd o arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Ar y sail hon, nid oes angen gwelliannau 123 a 124 ac nid wyf i'n eu cefnogi.
Er fy mod i'n cydnabod y bwriad y tu ôl i welliannau 132 a 134, rwy'n gofyn i'r Aelodau eu gwrthod. Mae'r Bil yn nodi'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd manylion sut y byddan nhw yn gweithredu, gan gynnwys materion fel y rhai a gwmpesir gan y gwelliannau hyn, yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Fel yr wyf i wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu drafft, a ddechreuodd yn gynnar ym mis Hydref, fy mwriad yw sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, pan fo'n bosibl, i'r un ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth debyg ag a gymhwysir ar hyn o bryd i lywodraeth leol. Er enghraifft, drwy reoliadau, byddem yn ceisio cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r dyletswyddau cyfranogiad y cyhoedd a gynhwysir yn Rhan 3 y Bil hwn. Bydd hyn yn darparu ar gyfer yr adroddiadau blynyddol a'r gofynion cyfranogiad y mae'r gwelliannau hyn yn eu ceisio.
Rwyf hefyd yn gwrthod gwelliannau 149 a 150 ar yr un sail. Bwriedir i gyd-bwyllgorau corfforedig fod yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu a gynhwysir yn Rhan 6 y Bil, ynghyd â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a deddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â llywodraethu ariannol. Bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd a geisir gan y gwelliannau hyn ac yn sicrhau bod gan gyd-bwyllgorau corfforedig y trefniadau llywodraethu a rheoli ariannol priodol ar waith, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan gorff cyhoeddus. Ar y sail hon, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 123, 124, 132, 13, 149 a 150. Diolch, Llywydd.