Part of the debate – Senedd Cymru am 7:35 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Wel, mae gwelliannau 123 a 124 yn ceisio mewnosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud a chyhoeddi canllawiau ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig gyflawni ei swyddogaeth llesiant economaidd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig er mwyn sicrhau atebolrwydd a thryloywder wrth iddyn nhw gyflawni eu swyddogaethau, yn ogystal â chynnwys pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi ei lleoli yn y gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau. Yr agosaf y mae'r penderfyniadau hyn at bobl, y cymunedau a'r rhanbarthau, a'r pellaf o reolaeth ganolog, gorau oll fydd y canlyniad i'r bobl a'r cymunedau dan sylw.
Mae gwelliant 132 yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gyhoeddi adroddiad blynyddol sydd i'w osod gerbron Senedd Cymru a'r cynghorau cyfansoddol sy'n rhan o'r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae'n rhaid i'r adroddiad amlinellu nifer o bethau, gan gynnwys yr hyn y mae'r pwyllgor wedi ei gyflawni ar gyfer y maes lle mae'n arfer ei swyddogaethau, cynllun tymor canolig a hirdymor y pwyllgor ar gyfer sut y mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau a threfniadau'r pwyllgor o ran rheoli ei faterion ariannol. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cryfhau'r trefniadau ar gyfer craffu ar gyd-bwyllgorau corfforedig, sicrhau atebolrwydd a thryloywder a chynnwys pobl leol a sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned.
Mae gwelliant 134 yn ceisio sicrhau bod pobl leol a sefydliadau lleol sydd wedi eu lleoli yn y gymuned yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau cyd-bwyllgorau corfforedig. Yn ystod Cyfnod 1, cododd rhanddeiliaid bryderon am y diffyg darpariaethau ar gyfer ymwneud yn lleol â chyd-bwyllgorau corfforedig. Er enghraifft, rhannodd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon ynghylch y ddarpariaeth gyfyngedig ar gyfer trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sydd:
yn groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad at y broses o wneud penderfyniadau yn lleol a chael cymryd rhan yn hynny.
Mae'r gwelliant hwn felly yn ymgorffori egwyddorion cysylltiad a chyfranogaeth o fewn y Bil. Mae dulliau cysylltu yn cynnwys gweithio gyda phobl yn gynharach, helpu i nodi materion ac atebion posibl a'u cynorthwyo i barhau i gymryd rhan drwy gydol prosesau dylunio, gweithredu a gwerthuso. Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd y Gweinidog na fyddai hi'n derbyn y gwelliant hwn, gan, fel y dywedodd:
mai'r rheoliadau fydd yn manylu ar sut y dylai cyd-bwyllgor corfforedig weithredu.'
Dywedodd:
Rwy'n credu felly ei bod yn fwy priodol i'r materion a godwyd gan y gwelliant gael eu hystyried yn rhan o'r gwaith o baratoi rheoliadau corfforaethol y cydbwyllgor.
Fodd bynnag, fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2:
Rydym ni yn clywed llawer o iaith gadarnhaol erbyn hyn gan aelodau o bob plaid am faterion fel cyd-gynhyrchu, grymuso cymunedau, ymgysylltu â dinasyddion, ond mewn gwirionedd, mae'n brin ar lawr gwlad.
Felly, mae'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau bod egwyddorion cyd-gynhyrchu yn cael eu hymgorffori'n llawn ar wyneb y Bil er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforaethol gyflawni cyfranogiad pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol.
Mae gwelliannau 149 a 150 wedi eu drafftio i adlewyrchu pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n bwysig i hyder y cyhoedd yn y modd y defnyddir arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud darpariaeth o'r fath drwy reoliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae swyddfa'r archwilydd cyffredinol wedi datgan bod defnyddio'r dull hwnnw yn creu perygl o gymhlethdod a dryswch ac y byddai darparu ar gyfer y gofyniad hwn drwy'r Bil yn sicrhau bod darpariaethau archwilio llywodraeth leol yn cael eu cydgrynhoi mewn un lle i gynorthwyo dehongli a chynnal llyfr statud sydd wedi ei strwythuro'n dda. Unwaith eto, dyma'r cyrff y dylem ni fod yn cymryd arweiniad ganddyn nhw,ac nid cyflwyno arweiniad iddyn nhw, ar y materion penodol hyn. Diolch. Diolch.