Part of the debate – Senedd Cymru am 8:16 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Rwy'n galw ar Aelodau i wrthod gwelliannau 138 i 141, sy'n golygu mai dim ond pan oedd y prif gyngor dan sylw wedi cyflwyno cais i ddiddymu y byddai modd ailstrwythuro awdurdod lleol. Mae'n rhaid bod lle i Weinidogion Cymru ymyrryd os oes tystiolaeth nad yw prif gyngor yn gynaliadwy ac efallai mai budd gorau trigolion lleol yw diddymu'r cyngor hwnnw ac ailstrwythuro'r ardal.
Er ei bod yn annhebygol iawn y bydd y mater hwn yn codi, o ystyried y cyfleoedd i gefnogi ac ymyrryd o dan Ran 6 o'r Bil, mae'n ddoeth darparu ar gyfer sefyllfa lle y gallai Gweinidogion wynebu'r angen i gymryd y cam terfynol a defnyddio'r pŵer ailstrwythuro. Nid oes ond angen i mi dynnu sylw'r Aelodau at amgylchiadau dros y ffin, lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU ar ganol diddymu Cyngor Sir Swydd Northampton, sydd â phroblemau mor ddwfn fel mai'r unig ateb yw diddymu'r cyngor sir i saith rhanbarth a dau gyngor unedol newydd yn eu lle.
Mae pŵer y Gweinidog wedi'i lunio'n ofalus fel mai dim ond mewn ffordd amserol ac ystyriol y mae modd ei ddefnyddio a lle bod tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwybodus nad yw'r cyngor dan sylw yn gynaliadwy. Mae'r pŵer yn un angenrheidiol, ac rwy'n ailadrodd fy nghais i Aelodau wrthod y gwelliannau hyn.
Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yn dechnegol. Mae gwelliant 44 yn dechnegol ac yn mewnosod diffiniad 'dogfennau' at ddibenion Rhan 7 o'r Bil. Mae gwelliannau 39 i 43 a 73 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn sicrhau y caiff Gweinidogion Cymru, wrth ystyried a ddylai swyddogaeth prif gyngor gael ei throsglwyddo, gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu dogfennau ac, yn achos gwelliant 73, ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sy'n uno neu ailstrwythuro ddarparu unrhyw ddogfennau i bwyllgor pontio y gofynnir, yn rhesymol, amdanyn nhw.
Mân welliant technegol yw gwelliant 73 sy'n dileu rhag dod i rym gyfeiriad at derm nad yw'n ymddangos yn Rhan 7 o'r Bil.
Yn olaf, mae gwelliant 78 yn darparu na fydd geiriau penodol yn adran 140, sy'n ymwneud ag ailstrwythuro yn unig, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn yn gyson â gweddill y darpariaethau yn Rhan 7 sy'n ymwneud ag ailstrwythuro. Diolch.