– Senedd Cymru am 8:15 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 12, ac mae'r grŵp yma'n ymwneud ag ailstrwythuro awdurdodau lleol. Cant tri deg wyth yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Mark Isherwood i gyflwyno gwelliant 138 ac eraill. Mark Isherwood.
Diolch. Wel, unwaith eto, mae hyn yn ceisio bwrw ymlaen â'r agenda lleoliaeth a chymuned, gan roi pobl yn gyntaf, felly mae gwelliannau 138, 139, 140 a 141 yn dileu darpariaethau'r Bil sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ailstrwythuro prif ardaloedd heb gael cais i wneud hynny. Diben y gwelliant hwn yw atal uno cynghorau yn erbyn dymuniadau'r cynghorau hynny. Ni allaf i ddychmygu pa fath o arweinyddiaeth wleidyddol a fyddai eisiau'i wneud fel arall. Mae'n rhaid ailstrwythuro cynghorau gyda chefnogaeth a chyfranogiad llawn y cynghorau dan sylw mewn modd cwbl dryloyw a democrataidd, neu fel arall ni fydd yn cyflawni. Felly, byddaf i'n symud ymlaen i argymell yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Rwy'n galw ar Aelodau i wrthod gwelliannau 138 i 141, sy'n golygu mai dim ond pan oedd y prif gyngor dan sylw wedi cyflwyno cais i ddiddymu y byddai modd ailstrwythuro awdurdod lleol. Mae'n rhaid bod lle i Weinidogion Cymru ymyrryd os oes tystiolaeth nad yw prif gyngor yn gynaliadwy ac efallai mai budd gorau trigolion lleol yw diddymu'r cyngor hwnnw ac ailstrwythuro'r ardal.
Er ei bod yn annhebygol iawn y bydd y mater hwn yn codi, o ystyried y cyfleoedd i gefnogi ac ymyrryd o dan Ran 6 o'r Bil, mae'n ddoeth darparu ar gyfer sefyllfa lle y gallai Gweinidogion wynebu'r angen i gymryd y cam terfynol a defnyddio'r pŵer ailstrwythuro. Nid oes ond angen i mi dynnu sylw'r Aelodau at amgylchiadau dros y ffin, lle mae Gweinidogion Llywodraeth y DU ar ganol diddymu Cyngor Sir Swydd Northampton, sydd â phroblemau mor ddwfn fel mai'r unig ateb yw diddymu'r cyngor sir i saith rhanbarth a dau gyngor unedol newydd yn eu lle.
Mae pŵer y Gweinidog wedi'i lunio'n ofalus fel mai dim ond mewn ffordd amserol ac ystyriol y mae modd ei ddefnyddio a lle bod tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwybodus nad yw'r cyngor dan sylw yn gynaliadwy. Mae'r pŵer yn un angenrheidiol, ac rwy'n ailadrodd fy nghais i Aelodau wrthod y gwelliannau hyn.
Mae gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn yn dechnegol. Mae gwelliant 44 yn dechnegol ac yn mewnosod diffiniad 'dogfennau' at ddibenion Rhan 7 o'r Bil. Mae gwelliannau 39 i 43 a 73 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn sicrhau y caiff Gweinidogion Cymru, wrth ystyried a ddylai swyddogaeth prif gyngor gael ei throsglwyddo, gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu dogfennau ac, yn achos gwelliant 73, ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sy'n uno neu ailstrwythuro ddarparu unrhyw ddogfennau i bwyllgor pontio y gofynnir, yn rhesymol, amdanyn nhw.
Mân welliant technegol yw gwelliant 73 sy'n dileu rhag dod i rym gyfeiriad at derm nad yw'n ymddangos yn Rhan 7 o'r Bil.
Yn olaf, mae gwelliant 78 yn darparu na fydd geiriau penodol yn adran 140, sy'n ymwneud ag ailstrwythuro yn unig, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn yn gyson â gweddill y darpariaethau yn Rhan 7 sy'n ymwneud ag ailstrwythuro. Diolch.
A yw Mark Isherwood eisiau ymateb i'r ddadl?
Yn fyr iawn, dim ond o ran y sylwadau a wnaeth y Gweinidog am ein gwelliannau. Diben y gwelliannau hyn yw peidio ag atal ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru pan fydd awdurdod lleol yn anghynaliadwy neu ddim yn gynaliadwy—i'r gwrthwyneb; byddem ni'n annog mwy o hynny pan fydd angen ymyrraeth a chefnogaeth ar gyngor, nid fel cosb, ond fel cyfle i fynd i'r afael â materion er budd y naill ochr a'r lle eto. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau na all Gweinidogion Cymru ymyrryd i ailstrwythuro prif ardaloedd heb gefnogaeth a chyfranogiad y cynghorau dan sylw mewn modd tryloyw a democrataidd. Rwy'n credu ein bod ni'n cyfuno dau fater sydd ar wahân. Nid dyna yw ein bwriad. Ein bwriad, fel yr wyf i wedi'i ddweud, yw hyrwyddo'r agenda lleoliaeth yn ysbryd tryloywder a phartneriaeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 138? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 138. Cau'r bleidlais. O blaid 12, ymatal 12, 27 yn erbyn. Gwelliant 138 wedi'i wrthod.
Gwelliant 139 yn enw Mark Isherwood.
Cynnig.
Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 139. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 15 yn ymatal, 27 yn erbyn, felly mae gwelliant 139 wedi ei wrthod.
Gwelliant 140 yn enw Mark Isherwood.
Cynigiwyd.
Ydy, mae'n cael ei gyflwyno. [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae'n cael ei wrthwynebu. Agor y bleidlais ar welliant 140. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 15 yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae 140 wedi'i wrthod.
Gwelliant 169 yn enw Delyth Jewell.
Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 169. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 170 yn enw Delyth Jewell.
Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar 170. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 170 wedi'i wrthod.
Gwelliant 39 yn enw'r Gweinidog.
Cynnig.
Yn cael ei gyflwyno. A oes gwrthwynebiad i welliant 39? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 39. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly mae gwelliant 39 wedi'i gymeradwyo.
Gwelliant 141 yn cael ei gyflwyno yn enw Mark Isherwood.
[Gwrthwynebiad.] Yn cael ei wrthwynebu. Felly, agor y bleidlais ar welliant 141. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 141 wedi'i wrthod.
Gwelliant 171 yn enw Delyth Jewell.
Yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais, felly, ar welliant 171. Cau'r bleidlais. O blaid naw, tri yn ymatal, 39 yn erbyn, felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
Gwelliant 71 yn enw'r Gweinidog.
Cynnig.
A oes gwrthwynebiad i welliant 71? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 71. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae gwelliant 71 wedi'i gymeradwyo.
Oherwydd eu natur, yn unol â Rheol Sefydlog 12.40, dwi'n cynnig bod gwelliannau 58 i 43, sy'n ymddangos yn olynol ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli, yn cael eu gwaredu mewn un bleidlais. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Felly, Gweinidog, ydych chi'n dymuno cynnig gwelliannau 58 i 43?
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliannau 58 i 43? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliannau 58 i 43. Cau'r bleidlais. O blaid 44, pedwar yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, mae'r gwelliannau o 58 i 43—y bloc yna—wedi'u cymeradwyo.
Y bleidlais nesaf, felly, yw gwelliant 172.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 172. Cau'r bleidlais. O blaid 18, mae yna dri yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, mae 172 wedi'i wrthod.
Gwelliant 44, y Gweinidog.
Cynnig.
Mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 44? [Gwrthwynebiad.] Oes. Agor y bleidlais ar welliant 44. Cau'r bleidlais. O blaid 44, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi'i gymeradwyo.