1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2020.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lacio cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghaerffili? OQ55845
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. O 9 Tachwedd, bydd dinasyddion Caerffili yn helpu i ymdrin â coronafeirws trwy gyfres newydd o reolau cenedlaethol. Ni ofynnwyd mwy gan bobl mewn unrhyw fan yng Nghymru nag yng Nghaerffili, a diolchaf i bawb sydd wedi gwneud cymaint o ymdrech i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel ac yn iach.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog unwaith eto am gydnabod yr ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud, yn hwy na neb arall yng Nghymru, yng Nghaerffili, a gwnaed llawer iawn o gynnydd gennym ni yn gynnar o ran atal twf y feirws yn ein cymunedau. Mae llawer o bobl yn anfon negeseuon e-bost ataf i nawr ac yn gofyn cwestiynau am frechlyn. Clywsom newyddion ddoe am gynnydd a wnaed gan Pfizer a brechlyn posibl. Rwyf i o'r farn bod angen i ni drin y cyhoeddiad hwn gyda gofal, ac mae'n rhaid i ni bwysleisio'r ffaith bod yn rhaid i bobl barhau i gadw at y cyfyngiadau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith er mwyn diogelu'r GIG ac achub bywydau. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynlluniau sydd ganddo i baratoi Cymru ar gyfer brechlyn posibl? Pa gyfathrebiad y mae wedi ei gael gyda Llywodraeth y DU, a sut y gallai hyn ein helpu, gyda'r ymataliad gofalus hwnnw ar waith, yn y dyfodol?
Diolchaf i Hefin David am hynna, Llywydd. A gadewch i mi ddechrau drwy gysylltu fy hun â'i sylwadau agoriadol. Rwy'n credu bod llawer i bryderu yn ei gylch o ran y ffordd fuddugoliaethus y mae rhai rhannau o'r wasg adain dde yn y Deyrnas Unedig wedi adrodd am gyhoeddiad Pfizer. Wrth gwrs, mae i'w groesawu bod cam 3 eu treial wedi bod yn llwyddiant, ond nid dyna ddiwedd y stori o gwbl. Mae camau pellach pwysig iawn y mae'n rhaid eu cymryd cyn y gallai'r brechlyn hwnnw, neu unrhyw un o'r 11 brechlyn arall sy'n destun treialon cam 3, gael eu rhyddhau yn y pen draw, ac rwyf i'n wirioneddol benderfynol nad yw pobl yng Nghymru yn cymryd y neges anghywir o'r hyn a oedd yn cael ei ddweud ddoe. Byddwn yn ymladd coronafeirws gyda'r arfau presennol sydd ar gael i ni am fisoedd lawer i ddod, ac, er ein bod ni'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd brechlyn ar gael, mae angen i ni fod yn ofalus yn y ffordd yr ydym ni'n mynd ati a pheidio â pherswadio pobl i ymddwyn fel pe byddai coronafeirws ar ben a bod cymorth ar fin cyrraedd. Nid yw'n mynd i fod felly o gwbl.
Yn y cyfamser, mae gennym ni gytundeb â Llywodraeth y DU. Roedd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, mewn cyfarfod gyda Gweinidogion iechyd eraill ledled y Deyrnas Unedig, ddydd Iau yr wythnos diwethaf, yn cytuno ar gyfres drwyadl o fesurau. Byddwn yn cael ein cyfran boblogaeth o unrhyw frechlyn pan fydd wedi'i gymeradwyo yn briodol ac ar gael. Bydd y gwaith o gynllunio ar gyfer ei storio a'i ddosbarthu yn nwylo Llywodraeth Cymru ac, o ran brechlyn Pfizer, mae hwnnw'n gyfrifoldeb arbennig o bwysig gan fod hwn yn frechlyn y gellir ei storio yn briodol dim ond ar dymheredd isel dros ben, yn wahanol iawn i'r ffordd y bydd y rhai sydd wedi bod i gael eu brechiad rhag y ffliw mewn meddygfa deulu yn ei weld yn cael ei storio mewn oergell gyffredin ac yn gwbl ddiogel yn y modd hwnnw. Nid yw brechlyn Pfizer yn ddim byd tebyg i hynny o gwbl, ac mae'r materion logistaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yn real iawn, ond maen nhw wedi bod yn cael eu paratoi ers misoedd lawer, a phan fyddwn ni'n cyrraedd pwynt lle ceir brechlyn sy'n wirioneddol ddiogel a'i fod yn hysbys bod hynny'n wir ac i'w ddefnyddio yn y boblogaeth, yna byddwn wedi paratoi ac yn barod i wneud hynny yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, ydy, mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr am y brechlyn, ond, fel y dywedwch, mae angen i bobl barhau i ymddwyn yn ddoeth, ac mae'n amlwg mai diogelwch sy'n dod gyntaf. Ond mae gen i gwestiwn i chi na wnes i ei wneud mor eglur ag y dylwn fod wedi ei wneud yr wythnos diwethaf, mae'n debyg, ac mae hwnnw yn ymwneud â phêl-droed. Felly, mae'n effeithio ar glybiau sydd wedi cysylltu â mi o Gaerffili, Dwyrain De Cymru ac, wrth gwrs, mae'n effeithio ar Gymru gyfan. O ran y rheol o gael 30 yn yr awyr agored ar ôl y cyfnod atal byr, mae'n amlwg—rwy'n gefnogwr pêl-droed, felly rwy'n gwybod—11 bob ochr mewn gêm bêl-droed. Ond yn y rheol o 30, mae gennych chi 11 bob ochr os yw timau pêl-droed eisiau chwarae yn erbyn ei gilydd, un eilydd bob un, un rheolwr ac un hyfforddwr, ac yna mae digon o le i ddyfarnwr a swyddog cymorth cyntaf. Nid oes lle i lumanwyr ac, yn amlwg, nid oes lle i ragor o eilyddion. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed, Prif Weinidog, gan fod hynny yn iawn ar gyfer ymarfer, ac mae'n iawn, mewn ffordd, ar gyfer gemau cyfeillgar, ond yn dipyn o straen gyda dim ond un eilydd, os yw ein clybiau yn mynd i ddechrau eu tymor—maen nhw wedi dechrau arno yn Lloegr, dim ond ar seibiant maen nhw—os ydyn nhw'n mynd i ddechrau ar eu tymhorau yma yng Nghymru, sut ydych chi'n cynnig eu bod nhw'n gwneud hynny os yw'r rheol o 30 yn amlwg yn golygu y cawn nhw gael y bobl hynny ar y maes yn unig, ond ni allan nhw gael y llumanwyr a phopeth o'r math hwnnw? A fydd rhyw fath o hyblygrwydd i sicrhau y cawn nhw ddechrau eu tymor? Tybed a allech chi ei egluro ychydig yn fwy i mi, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, neu ymchwilio i'r mater. Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n deall y cyfyngiadau sy'n bodoli pan fydd gennych chi uchafrif o bobl sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiad wedi'i drefnu yn yr awyr agored, ond mae'r rheolau yno am reswm. Y bygythiad mwyaf yr ydym ni i gyd yn ei wynebu yw ailymddangosiad coronafeirws, a bwriad y nifer o 30 yw ceisio cyfyngu'r risgiau sy'n dod gyda phobl yn cyfarfod mewn unrhyw gyd-destun yn yr awyr agored. Ac er ei fod yn her, ac rwy'n deall pam mae'r cyfyngiadau hyn yn real i bobl y mae'n rhaid iddyn nhw drefnu'r gweithgareddau hynny—maen nhw yno am reswm da a phwysig iawn, a dim ond pan fyddwn ni'n fwy ffyddiog ein bod ni'n atal y feirws yma yng Nghymru mewn gwirionedd y bydd modd cynnig unrhyw hyblygrwydd pellach.
Nawr, rydym ni'n parhau i drafod y pethau hyn drwy'r amser gyda'r cyrff llywodraethu, ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at yr adeg pan fyddwn ni'n gallu cynnig mwy i bobl sy'n rhoi o'u hamser, yn rhoi eu hymrwymiad i drefnu timau a gwneud yn siŵr y caiff pobl ifanc yn arbennig gymryd rhan ynddyn nhw. Ond nid ydym wedi cyrraedd yr adeg honno. Rydym ni ar adeg pan fo gennym ni fwy o bobl o hyd yn ein hysbytai heddiw a mwy o bobl mewn gofal critigol nag oedd gennym ni yn ôl ym mis Mai eleni. Felly, tan ein bod ni wedi cyrraedd yr adeg honno pan fo pethau yn gwella ac yn gwella'n sylweddol, rydym ni wedi cynllunio'r system mewn modd cystal ag y gallwn ni ac mae'n rhaid i ni ofyn i bobl allu gweithredu yn unol â hi.