Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod wedi cytuno i'w chwota brechlynnau, os hoffech chi, gael ei bennu ar sail cyfran boblogaeth gan mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng hynny a chyfrifo ar sail rhywbeth sy'n debycach i fformiwla yn seiliedig ar anghenion. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol, Prif Weinidog, bod Cymru, yng nghyd-destun COVID, yn fwy agored i niwed gan ei bod hi'n hŷn, yn fwy sâl ac yn dlotach na'r cyfartaledd. Felly, a fyddwch chi'n dadlau'r achos i'n dyraniad adlewyrchu cyfran fwy na chyfran poblogaeth ar y sail hon?

Ac o ran y mater blaenoriaethu yr ydych chi newydd gyfeirio ato a'r drefn flaenoriaethu dros dro a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar 25 Medi, y dywedasoch y byddem ni'n ei dilyn yn fras, a ydych chi wedi ystyried dulliau eraill o flaenoriaethu, er enghraifft offeryn rhagfynegi risg Rhydychen, sy'n trefnu'r boblogaeth yn ôl rhestr ehangach o ffactorau risg? Yn arbennig, a fyddwch chi'n rhoi blaenoriaeth i gyflwyno'r brechlyn mewn cymunedau y mae'n amlwg eu bod yn fwy tebygol o gael eu heintio, yn bennaf ar gyfer ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol uchel, y cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac ardaloedd â lefelau uwch o haint?