Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig yna? Rwy'n credu bod ei ddisgrifiad ohono fel llygedyn o obaith yn un da, gan fy mod i'n credu mai dyna ydyw. Mae yn obeithiol ac mae angen ychydig o obaith arnom ni yn y cyfnod anodd hwn, ond mae'n rhaid i ni beidio â'i orliwio ychwaith. Swyddfa'r prif swyddog meddygol yng Nghymru sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer unrhyw frechlyn a fydd yn dod ar gael i ni. Roedd y prif swyddog meddygol yn rhan o hyn mor bell yn ôl â mis Mehefin, ac roedd yn gohebu â'n byrddau iechyd ym mis Gorffennaf i wneud yn siŵr bod cynlluniau ar waith.
O ran y mater o storio, Llywydd, rwy'n credu mai ein disgwyliad ar hyn o bryd os mai brechlyn Pfizer fyddai ar gael yn gyntaf, gyda'r angen i'w storio islaw -75 gradd canradd, yna byddem ni'n defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i Wasanaeth Gwaed Cymru, sydd â chyfleusterau ac mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n gallu cadw pethau yn oer ar y tymheredd hwnnw. Ond ceir cymhlethdodau. Fy nealltwriaeth i o'r brechlyn hwn yw mai dim ond ar bedwar achlysur y gellir ei dynnu allan o'r oergell cyn nad oes modd ei ddefnyddio mwyach. Felly, ceir rhai cyfyngiadau gwirioneddol yn gysylltiedig ag ef. Mae'n rhaid ei roi ddwywaith, fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, bob tair wythnos, ac nid yw'n dod yn effeithiol tan yr wythnos gyntaf ar ôl rhoi ail ddos y brechlyn. Felly, dyna gyfres arall o gymhlethdodau anodd. Nid ydym ni'n gwybod eto pa un a fydd yn effeithiol ai peidio mewn pobl hŷn, ac mae honno yn her arbennig ar hyn o bryd gan mai cynllun Cymru, sy'n debyg iawn i gynlluniau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yw dechrau gyda grwpiau blaenoriaeth a dechrau gyda staff blaenoriaeth sy'n gallu rhoi'r brechlyn. Felly, ein bwriad yw y byddem ni'n dechrau gyda brechwyr profiadol, pobl sy'n gwneud hyn drwy'r amser, ac yna byddem ni'n ehangu y tu hwnt i hynny. Felly, mae hynny o ran darparu'r brechlyn.
O ran pwy fydd yn cael y brechlyn, tan y byddwn ni'n sicr—yn fwy sicr nag yr ydym ni ar hyn o bryd—ynghylch pa grwpiau yn y boblogaeth y bydd y brechlyn penodol hwn yn effeithiol ar eu cyfer, yna rydym ni'n debygol o ddechrau gyda staff gofal iechyd, staff gofal cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod gweithwyr rheng flaen sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl â coronafeirws yn cael eu brechu, ac yna, os yw'n effeithiol mewn pobl hŷn, yna preswylwyr cartrefi gofal a phobl yn ddiweddarach yn eu bywydau fydd yn cael y flaenoriaeth nesaf. Felly, system flaenoriaeth yw hi; bydd yn dibynnu ar ba mor gyflym y bydd y brechlyn ar gael. Byddwn yn cael cyfran boblogaeth ohono yma yng Nghymru, ond ceir llawer o gwestiynau na fyddwn ni'n gwybod yr atebion iddyn nhw eto, ac wrth i'r atebion hynny ddod i'r amlwg, byddwn yn gallu cadarnhau'r rhaglen a fydd gennym ni ar gyfer darparu'r brechlyn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn gyntaf.