Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Yn sicr, Llywydd, ein nod fydd gweithio gyda'n heddluoedd a'n hawdurdodau lleol, gan ddysgu'r gwersi o'r dyddiau diwethaf. Wrth gwrs, roeddem ni mewn cyfnod atal byr yma yng Nghymru, a ychwanegodd haen arall at gymhlethdod hyn, ond byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr. Fel y dywedais, mae gennym ni gyfres ragarweiniol o adroddiadau gan bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, byddwn yn casglu gwybodaeth gan ein hawdurdodau lleol hefyd, a chawn weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud, gan gydweithio, i gynllunio a pharatoi ar gyfer rhannau eraill o'r flwyddyn pan fydd tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio yn eang.