TAW ar Gyfarpar Diogelu Personol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:27, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar 30 Hydref i ofyn i'r penderfyniad i ail-gyflwyno TAW ar gyfarpar diogelu personol clinigol o 1 Tachwedd gael ei ailystyried ar frys.