Part of the debate – Senedd Cymru am 8:50 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Yn fyr, diolch. Mae'r sector llywodraeth leol yr wyf i'n ymgysylltu ag ef yng Nghymru wedi bod yn dweud wrthyf ers tro byd am y gost ychwanegol gronnol y bu'n rhaid iddyn nhw ei hysgwyddo o ganlyniad i bolisïau neu ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru heb eu hariannu neu heb eu hariannu'n ddigonol. Nid sylw ynghylch rhinwedd neu ddiffyg rhinwedd y ddeddfwriaeth yw hynny; mae'n ymwneud â'u gallu i gyflawni hynny heb beryglu gwasanaethau eraill. Cyfeiriodd y Gweinidog, yng Nghyfnod 2, fel y dywedais i, wrth iddi wrthod gwelliant cyfatebol, at y cyllid y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei gael neu'n ei gael mewn grantiau penodol. Pe byddai hi wedi dweud wedyn y byddem yn archwilio methodoleg i sicrhau bod cynghorau yn cael iawndal llawn am gost net wirioneddol gweithredu'r mesurau hyn, ni fyddem wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Ond nid dyna sut yr ydym ni'n cofio hyn yn datblygu. Mae hwn yn ddarn mawr o ddeddfwriaeth llywodraeth leol a fydd â chostau cychwynnol sylweddol ac o bosibl costau tymor hwy i'r teulu llywodraeth leol ledled Cymru, a dylai ein gwelliannau sefyll yn unol â hynny.