– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad hynny i'w wneud gan y Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Ers y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae Busnes Cymru wedi dod yn ffynhonnell wybodaeth allweddol. Nawr, yn ystod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y mis diwethaf, fe godais i'r ffaith nad yw gwefan Busnes Cymru bob amser yn darparu gwybodaeth gywir, ac mae hyn yn arwain at ddryswch ymhlith llawer o berchnogion busnes sydd dan straen. Nawr, croesawodd y Prif Weinidog yr adborth hwn ynghylch lle mae angen gwneud pethau'n well, ond mae angen rhywfaint o welliant ar unwaith. Mae gennyf i nifer o fusnesau y bu'n ofynnol iddyn nhw ddarparu gwybodaeth ychwanegol i Fusnes Cymru, ond ni chawsant gyngor ganddyn nhw ynghylch sut i wneud hynny. Pan oeddent yn ymgeisio am y grantiau cyllido a oedd ar gael, yn ystod y cyfnod cul iawn hwnnw, daeth eu hamser i ben ar ôl 20 munud ac nid oedd yn bosibl iddynt uwchlwytho dogfennau. Mae'n amlwg fod gan rai ohonyn nhw fand eang gwael ar y diwrnod a chawsant wybod ei bod yn rhy hwyr a bod y ffenestr wedi cau. Mae eraill yn cwyno ynghylch amseroedd aros hir iawn ar y ffôn. Ddoe, gofynnais i aelod o staff ffonio Busnes Cymru ac, ar ôl awr a 10 munud, fe roddwyd y gorau iddi.
Felly, er mwyn gwneud yn siŵr fod yr adroddiadau'n gywir, fel y dywedais i, rhoddodd un o fy nhîm i alwad iddyn nhw. Ond daeth y llinell i ben yn sydyn am 5 o'r gloch. Mae'n ddrwg gennyf; nid oedd yr aelod o fy staff i wedi rhoi'r gorau iddi—roedd e'n parhau i weithio, wrth gwrs. Ond daeth y llinell i ben am 5 p.m. Nid yw hynny'n foddhaol i berchnogion busnes sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd, Trefnydd. Felly, a allech chi drefnu i ddatganiad gael ei wneud am alluoedd gweithredu Busnes Cymru? Rwy'n wirioneddol gredu bod y tîm hwn yn cael ei orlethu ac, oherwydd hynny, dylem gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd yn y Senedd hon ynghylch sut yr ydych chi'n rheoli'r cyfrifoldeb enfawr am gymorth busnes, a phryd y gallwch chi agor cronfa—cronfa ystyrlon—a fydd yn helpu i wneud yn iawn am lawer o golledion busnesau fel fy rhai i, yn sicr—a gwn fod hyn yn berthnasol ledled Cymru, Llywydd; mae taer angen y cyllid cymorth hwn ar bobl. Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am godi'r mater hwnnw. Wrth gwrs, bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yn ei le y pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU. Ond rydym yn amlwg yn ymwybodol iawn nad yw pob busnes wedi gallu elwa ohono. Yr wythnos diwethaf, atebodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gwestiwn amserol am beth amser ar y mater penodol hwn, ac roedd wedi gallu nodi ei ymateb i rai o'r materion a godwyd gan Janet Finch-Saunders. Ac wrth gwrs, yfory, mae ganddo gwestiynau llafar eto yn y Siambr. Rwyf newydd edrych, ac mae nifer o gyfleoedd yno iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cymorth economaidd i fusnesau hefyd. Ac wrth gwrs, roedd adroddiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf wedi'i ddarparu gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd. Os hoffech rannu rhai o'r enghreifftiau eraill hynny gyda mi, byddwn i'n fodlon ymchwilio iddyn nhw gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Ond yn amlwg, fel pob rhan arall o'r gwasanaeth cyhoeddus, mae Busnes Cymru dan bwysau mawr ar hyn o bryd—mae'r bobl sy'n gweithio yno'n gweithio'n galed iawn, dan amodau anodd iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'r pwysau enfawr sydd arnyn nhw. Mae'n wir yn cynrychioli'r pwysau enfawr sydd ar fusnesau yng Nghymru. Ond rydym ni'n ymdrechu'n gyson i wella'r gwasanaeth a'r cynnig i fusnesau, felly bydd unrhyw sylwadau y byddai cydweithwyr fel Janet Finch-Saunders yn dymuno'u gwneud yn ddefnyddiol.
Trefnydd, mae gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gyfraddau uchel iawn o COVID-19, ac mae gan Ferthyr y gyfradd uchaf yn y DU. O ystyried y ffigurau hyn, ni allaf i ddeall pam nad ydym wedi gweld mesurau diogelu ychwanegol yn ein hysgolion, lle mae lledaeniad asymptomatig yn digwydd. Pam nad oes mygydau yn yr ystafell ddosbarth? Beth sy'n cael ei wneud i leihau'r risg o ledaenu ar gludiant i'r ysgol? Sut rydym yn atal plant rhag trosglwyddo COVID-19 i'w perthnasau sy'n agored i niwed? A fyddai profion wythnosol mewn ysgolion, yn ogystal â'r gymuned ehangach, yn gwneud synnwyr, o ystyried ei fod yn digwydd yn Lerpwl, lle mae'r cyfraddau'n is nag sydd gennym ni yma? Mae'r farn bod y cyfnod atal byr ar ben ac y gallwn ni i gyd ddychwelyd i normalrwydd yn awr yn beryglus mewn ardal fel y Rhondda, lle'r ydym yn gweld ein hysbyty lleol yn llawn o welyau gofal dwys ac yn clywed sôn am wasanaethau iechyd yn cael eu tynnu'n ôl eto. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu pa fesurau cymorth ychwanegol a chyllid y byddai modd eu darparu i'r ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o COVID 19, ac a gawn ni'r datganiad hwnnw fel mater o frys, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd?
Diolch am godi'r mater hwnnw. Roedd y cyntaf yn ymwneud yn benodol â'r cymorth a'r cyngor sy'n cael eu darparu i ysgolion, ac roedd cyfres o gwestiynau eithaf manwl yno, felly gofynnaf i i'r Gweinidog Addysg ysgrifennu atoch gyda mwy o wybodaeth am y canllawiau sy'n cael eu darparu i ysgolion mewn cysylltiad â chyfarpar diogelu personol ac ymdrechion eraill i gadw plant a'u teuluoedd yn ddiogel, a'r rhesymeg sy'n sail i'r cyngor yr ydym wedi'i ddarparu ar y materion hynny. Yn amlwg, bydd sawl cyfle i holi'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd am y materion penodol o ran y gymuned y mae Leanne Wood yn cyfeirio ati ac yn ei chynrychioli.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad addysg. Yn gyntaf, datganiad am brydau ysgol am ddim yn ehangu i wyliau ysgol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ar y Nadolig a'r Pasg eleni, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno drwy'r amser, yn hytrach na dim ond fel rhywbeth untro. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers cael fy ethol. A hefyd, pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i ehangu cymhwysedd darpariaeth prydau ysgol am ddim? I lawer o blant, dyma eu prif bryd bwyd am y diwrnod.
Yn ail, hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar addysgu gartref, i gynnwys awdurdodau lleol yn defnyddio dull cydgysylltiedig ledled Cymru o ymgysylltu â'u cymuned addysgu gartref leol sy'n datblygu gwasanaethau ac sy'n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch, ac a fydd yn meithrin perthynas gadarnhaol rhwng awdurdodau lleol a'r gymuned addysgu gartref ac yn trefnu pethau fel cael mynediad i ganolfannau arholiadau— nid eleni, mae'n amlwg, ond mewn blynyddoedd arferol—i'r rhai sydd wedi cael eu haddysgu gartref.
Diolch i Mike Hedges am godi'r ddau fater pwysig hyn y prynhawn yma. Fel y dywed, mae ef wedi bod yn eiriolwr dros ddarparu prydau ysgol am ddim y tu allan i'r tymor ers amser maith. Rwy'n falch iawn nad oedd angen i Lywodraeth Cymru ymateb i ymgyrch gan Marcus Rashford i wneud y peth iawn. Gwnaethom ni'r peth iawn amser maith yn ôl, ar ddechrau'r pandemig hwn. O ran y dyfodol, byddai cynyddu'r niferoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn golygu newid y meini prawf cymhwysedd, a gallai hynny o bosibl olygu cynyddu'r trothwy incwm ar gyfer y rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol ac sydd hefyd eisiau hawlio prydau ysgol am ddim i'w plant. Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu cadw'r trothwy fel y mae tan ddiwedd y cyfnod cyflwyno credyd cynhwysol, ond mae'n amlwg y byddwn ni'n parhau i adolygu hynny.
Fel y dywedodd Mike Hedges, mae mor bwysig bod gan rieni sy'n addysgu eu plant gartref berthynas dda â'r awdurdod lleol yn yr ardal y maen nhw'n byw ynddi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £400,000 i awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21 i roi cymorth i deuluoedd sy'n addysgu gartref. Mae hynny wedi'i ddyrannu ar sail pro rata, yn seiliedig ar nifer y plant yn yr awdurdod sy'n hysbys eu bod yn cael eu haddysg yn y cartref, fel y cawsant eu hadrodd i ddata cyfrifiad blynyddol ysgolion ar lefel disgyblion. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r wybodaeth honno ond, fel y dywed Mike Hedges, mae sicrhau bod lefel dda o ymddiriedaeth rhwng y ddwy blaid yn gwbl hanfodol.
Trefnydd, a gaf i ofyn am eich cymorth wrth geisio mynd i'r afael ag ansawdd yr atebion y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i Aelodau? Cefais rai ymatebion yn ôl yr wythnos diwethaf a chefais wybod bod Gweinidogion yn mynd i ysgrifennu ataf gyda'u hatebion nhw ar ôl eistedd arnyn nhw am tua 10 diwrnod i bythefnos. Roeddent yn gwestiynau eithaf syml. Roedd un yn gofyn o ble y daeth y data ym mriff y Prif Weinidog a oedd yn cymharu Torfaen ag Oldham. Nawr, byddwn i wedi tybio, o gofio iddo sôn am hynny yn ei friff i'r wasg, y byddai'r wybodaeth honno ar gael yn rhwydd, oherwydd mae'n amlwg bod modd ei chroesgyfeirio. Ni allaf weld pam y byddech chi'n eistedd ar ateb am 10 diwrnod ac yna'n dweud eich bod yn mynd i ysgrifennu at yr Aelod. Ac roedd yr ail gwestiwn yn deillio o sesiwn friffio'r Gweinidog Iechyd ar 26 Hydref—y briff i'r wasg, oherwydd mae'n ymddangos mai dyna lle mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn cael eu gwybodaeth y dyddiau hyn—o ran gwelyau gofal critigol. Fe gyfeiriodd at y gwelyau gofal critigol ychwanegol a fyddai ar gael i GIG Cymru, a gofynnais i gwestiwn syml: a allai nodi ym mhle y byddai'r gwelyau gofal critigol hyn yn cael eu dyrannu a pha fyrddau iechyd fyddai'n elwa o'r gallu ychwanegol? Unwaith eto, cefais i ateb arall yn dweud y byddent yn ysgrifennu ataf gyda'r ateb pan oeddent yn teimlo y gallent wneud hynny.
Wel, oherwydd bod y ddau achos yn awgrymu bod gwybodaeth wedi'i defnyddio mewn sesiwn friffio i'r wasg gyhoeddus, er i'r wasg yn hytrach nag i Aelodau'r Senedd hon, byddwn i wedi tybio y byddai'n gymharol hawdd i Lywodraeth Cymru ddarparu'r atebion hynny. Mae'n dangos dirmyg llwyr i Aelodau'r sefydliad hwn nad yw'r atebion hyn yn cael eu darparu mewn modd amserol. Rwy'n derbyn yn llawn y gallai fod angen mwy o amser pe bai modd ei ehangu i fod yn ateb o sylwedd, ond rwyf wedi rhoi dau achos ichi yna o gwestiynau cymharol syml y byddai wedi bod yn bosibl eu hateb yn rhwydd, oherwydd mae'r wybodaeth eisoes wedi'i defnyddio mewn sesiynau briffio i'r wasg gyhoeddus. Felly, yn eich swydd fel trefnydd busnes y Llywodraeth, a gaf i ofyn am eich cymorth wrth geisio egluro sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wella eu ffordd o fynd i'r afael ag ymatebion i Aelodau seneddol Cymru yn y sefydliad hwn?
Rwy'n nodi pryderon Andrew R.T. Davies y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn hurt awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn eistedd ar atebion. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio o amgylch y cloc, yn llythrennol, i geisio mynd i'r afael â phandemig byd-eang a goblygiadau hynny yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud ein gorau i ddarparu atebion mewn modd amserol. O ran y ddau gwestiwn yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, mae'n amlwg y ceisiaf i sicrhau bod ateb yn dod cyn gynted ag sy'n bosibl. Fel y dywedais, rwyf wedi nodi eich sylwadau, ond rydym ni'n gwneud ein gorau glas i ddarparu atebion cyn gynted ag y gallwn ni.
Gweinidog, rydym ni mewn cyfnod mor rhyfedd ar hyn o bryd, ac nid yw digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel rhag effeithiau'r mesurau coronaferirws, ond mae'n bwysig edrych tua'r dyfodol gyda rhywfaint o obaith. Felly, rwy'n diolch i'r beiciwr brwd Geraint Rowlands am ei awgrym, sydd wedi fy arwain i ofyn a gawn ni ddadl ar gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru yn y dyfodol? Ac yn benodol, gyda'r tair ffordd sy'n croestorri ei gilydd ac yn dringo o'r Rhondda, yr Afan a chymoedd Ogwr dros y Bwlch—sy'n llythrennol yn hollol syfrdanol—a'r Rhigos anhygoel yn cael ei gynnwys ar ben hynny, fel amffitheatr ôl-rewlifol naturiol, sy'n cyfrannu at yr effaith weledol a'r apêl i wylwyr digwyddiadau beicio, yn agos at ardaloedd poblog lleol, a gawn ni yn y dyfodol gynnig gwneud hyn yn rhan o gam epig Cymru o Daith Feicio Prydain, Gweinidog? Gadewch inni gael dadl ar hynny.
Diolch i Huw Irranca-Davies am ein hatgoffa bod angen rhywbeth arnom ni i gyd, mewn gwirionedd, i edrych ymlaen ato yn y cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu bod Cymru, cyn y pandemig, yn gwneud gwaith gwych yn rhoi ei hun ar y map fel man pwysig i gynnal digwyddiadau mawr a digwyddiadau rhyngwladol pwysig. Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, ein bod ni wedi cynnal camau o Daith Dynion a Merched Prydain ers 2010, a, thros y blynyddoedd, cafodd camau'r ras eu cynnal ledled Cymru. Mae swyddogion yn Digwyddiadau Cymru yn gweithio'n agos nawr gyda threfnwyr y ras i sicrhau bod dosbarthiad daearyddol teg ledled y wlad. Ond gallaf i sicrhau Huw Irranca-Davies y bydd swyddogion yn edrych ar yr awgrym a gyflwynwyd ganddo heddiw i gynnal cam yn yr ardaloedd a awgrymodd, sydd, fel y dywed, yn llwybrau heriol iawn, ac yn amlwg maen nhw'n rhan o'r Dragon Ride llwyddiannus iawn hefyd, sef un o'r digwyddiadau hynaf a mwyaf eiconig o'i fath ledled y DU. Felly, gallaf i sicrhau Huw Irranca-Davies y bydd swyddogion yn ymchwilio i'r awgrym hwnnw.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â rhaglen Dechrau'n Deg. Mae rhywun amlwg ym Mhort Talbot wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch hyfywedd y rhaglen i'r dyfodol. Nid yw cyfleusterau gofal plant ym Mhort Talbot wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau eu tâl nhw am ddarparu gofal dros y pedair blynedd diwethaf, gyda llawer o ddarparwyr yn datgan bod y sefyllfa yn mynd yn anghynaladwy erbyn hyn. Ni all y rhaglen fodoli oni bai am y darparwyr hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn cytuno bod busnes yn haeddu cael tâl sy'n ddigonol am y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig, yn enwedig gan fod darparwyr gofal plant wedi cael eu taro'n arbennig o galed gan y pandemig. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog Iechyd neu ei ddirprwy yn rhoi datganiad i'r Siambr hon ynglŷn â dyfodol rhaglen Dechrau'n Deg ac a fydd darparwyr yn gweld unrhyw gynnydd yn eu harian nhw. Diolch yn fawr.
Diolch am godi'r mater penodol hwn. Wrth gwrs, drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ystod o gymorth, y bu modd i ddarparwyr gofal plant gael gafael arno—sy'n amrywio o dalu am leoedd nad oedd plant yn eu defnyddio ar gyfer sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn para i fod yn hyfyw, i ddarparu grantiau ar gyfer rhannau o'r sector hefyd. Ond yn amlwg, unwaith eto, nid yw'n bosibl inni gyrraedd pob darparwr unigol, felly fe fyddai o werth mawr pe byddai Caroline Jones yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am yr achosion penodol hynny y mae hi'n gyfarwydd â nhw ym Mhort Talbot er mwyn i hynny lywio'r ystyriaeth a roddir i gefnogaeth i'r sector wrth inni symud ymlaen.
Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd—rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi yn y fan hon heddiw i glywed y cais. Mae'r cyntaf yn ymwneud â chofrestru athrawon mewn ysgolion annibynnol. Rwy'n gwybod i hynny gael ei godi gyda chi'n weddol ddiweddar, ond gan ei fod yn fater o ddiogelu ac rydych chi'n brwydro'n gryf iawn o ran diogelu yng nghyd-destun elfen addysg cydberthnasau a rhywioldeb y cwricwlwm, rwy'n credu y byddai'n dra defnyddiol i'r Senedd gael deall pam na roddir lle mwy blaenllaw ar yr agenda i'r dasg hon sy'n llawer haws.
Ac yna, yn ail, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sefydlu athrawon, gan ein bod ni'n clywed yn aml iawn y ceir gwendid o ran addysgu, ac rwy'n siŵr nad amharodrwydd athrawon i fod yn athrawon da yw achos hynny.
Ac yna os caf i ymestyn hyd at un arall, fe fyddwn i wrth fy modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar danau naddion pren. Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers inni glywed am broblemau mawr yn fy rhanbarth arbennig i, ond fe gawsom ni addewid bryd hynny am newidiadau i reoliadau a fyddai'n grymuso naill ai'r awdurdodau cynllunio neu Gyfoeth Naturiol Cymru, ac felly fe hoffwn i wybod beth sydd wedi digwydd yn hyn o beth mewn gwirionedd. Diolch.
Fel yr oeddech chi'n dweud, mae'r Gweinidog Addysg yn bresennol i glywed eich ceisiadau am ddatganiad ar reoleiddio a chofrestru athrawon mewn ysgolion annibynnol a'r materion o ran sefydlu athrawon y gwnaethoch chi eu disgrifio hefyd. Ac mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwylio ar Zoom, ond fe wnaf innau ymdrech i siarad â hi hefyd a cheisio'r wybodaeth ddiweddaraf honno i chi ynglŷn â thanau naddion pren.
Diolch yn fawr iawn, Trefnydd.