– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw Datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ymdrin â chymwysterau yn 2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fe hoffwn i rannu fy mhenderfyniad polisi â chi ynglŷn â'r dull o ymdrin â chymwysterau yng Nghymru yn 2021. Wrth wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Cymwysterau Cymru a'r adolygiad annibynnol, dan gadeiryddiaeth Louise Casella, am eu hargymhellion a'u cyngor nhw i mi. Rwyf wedi cael fy arwain gan yr ystyriaethau yn y ddau adolygiad fel ei gilydd wrth imi ddod i'm penderfyniad i. Law yn llaw â hyn, rwyf wedi cyfarfod â phenaethiaid ac arweinwyr colegau, prifysgolion, a'r dysgwyr yn uniongyrchol i glywed eu barn nhw. Rwyf wedi edrych yn ofalus hefyd ar y dadansoddiad cynnar o oddeutu 4,000 o safbwyntiau a fynegwyd yn yr arolwg a ymgymerodd yr adolygiad annibynnol.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod na welwyd ei debyg erioed. Rwyf am roi eglurder a sicrwydd ar gam mor gynnar â phosibl, i nodi llwybr y gellir ei droedio ac, yn hollbwysig, sy'n ddull mor gadarn ag sy'n bosibl o gofio'r ansicrwydd a all fod yn y flwyddyn sydd i ddod. Unwaith eto, mae hon yn flwyddyn eithriadol, ond yn eithriadol mewn ffordd wahanol i gymwysterau yn 2020. Roedd carfannau sydd i'w harholi eleni nid yn unig yn absennol o'r ysgol a'r coleg yn ystod tymor yr haf, ond maen nhw eisoes wedi gweld anghysondebau yn eu profiad nhw o addysg yn ystod y tymor hwn hefyd.
Mewn rhai ysgolion a cholegau, mae COVID-19 wedi ei gwneud hi'n ofynnol i ddisgyblion hunanynysu am wythnosau ar y tro. Mae rhai ysgolion, ar adegau, wedi gorfod cau dros dro hyd yn oed. Mae ysgolion a cholegau eraill wedi bod yn llawer mwy ffodus hyd yn hyn, ond ni allwn ni, ni allaf i, fod yn hyderus ynghylch yr hyn wnaiff ddigwydd yn ystod gweddill y flwyddyn ysgol. A'r ansicrwydd parhaus hwn yn ogystal â sicrhau tegwch, cyfiawnder a lles i ddysgwyr sy'n llywio fy meddylfryd i o ran cymwysterau ar gyfer 2021.
Fy ystyriaeth allweddol arall i yw'r angen i neilltuo amser ar gyfer profiadau addysgu a dysgu o ansawdd da yn ystod y flwyddyn hon, i sicrhau bod yr wybodaeth gan y dysgwyr, ynghyd â'r sgiliau a'r hyder, i symud ymlaen i'w cam nesaf nhw. Rwy'n awyddus i ddysgwyr mewn ysgol neu goleg fod yn mwynhau profiadau addysgol cadarnhaol, nid dim ond yn paratoi ar gyfer asesiadau a hynny'n unig. Ar y sail hon, ac yn unol ag argymhelliad Cymwysterau Cymru a'r adolygiad annibynnol, rwy'n bwriadu dweud wrth Cymwysterau Cymru na ddylid cael arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU na Lefel AS ar gyfer 2021. Rwy'n gallu cadarnhau hefyd mai fy mwriad i yw na fydd yna unrhyw arholiadau terfynol ar gyfer disgyblion Lefel A, a fydd yn dilyn proses debyg i'r hyn a geir ar gyfer cymwysterau TGAU a Lefel AS. Rwyf wedi nodi pryderon na allwn ni ragweld beth fydd y sefyllfa o ran y feirws yn ystod yr haf ac, felly, fe allai fod yn anodd cynnal arholiadau yn ffisegol, ac mae'n wir y gallai hynny fod yn heriol. Eto i gyd, mae'n rhaid imi ailadrodd mai prif ddiben fy mholisi i yw sicrhau tegwch, ac fe fydd y cyfnodau o amser a dreulir gan ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau wedi amrywio yn aruthrol. Mae'n annheg i gredu y gellid cynnal yr arholiadau ar unrhyw sail a fyddai'n cynrychioli tegwch i bawb.
Rwyf wedi ymgynghori â phrifysgolion, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith mai eu blaenoriaeth nhw yw i fyfyrwyr fod wedi ymdrin ag agweddau hanfodol ar eu cyrsiau nhw. Maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn gyfarwydd â derbyn llawer o wahanol fathau o gymwysterau. Maen nhw'n disgwyl dull tryloyw a chadarn sy'n dangos tystiolaeth o wybodaeth a gallu dysgwr. Ac mae fy null arfaethedig i o weithredu yn gwneud yn union hynny, gan iddo gael ei gynllunio i wneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu. Yn hytrach nag arholiadau ar ddiwedd blwyddyn, rydym ni'n bwriadu gweithio gydag athrawon a darlithwyr i ddatblygu asesiadau a reolir gan athrawon. Fe ddylai'r rhain gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol, ond a gynhelir yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth athrawon. Fe fydd gan athrawon hyblygrwydd o ran yr amser mwyaf addas i ymgymryd â nhw, yng nghyd-destun amserlenni'r canlyniadau. Fy nisgwyliad i yw y bydd y rhain yn sail i ganlyniadau sy'n cael eu cynnal mewn canolfannau, yn gysylltiedig â dull cenedlaethol cyffredin, gan sicrhau cysondeb ledled Cymru. Fy mwriad i yw i hyn fod yn berthnasol i gymwysterau TGAU, Lefel AS a Lefel A a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru. Fe fydd y dull arfaethedig o ymdrin â hyn yn cael ei ddatblygu gan arweinwyr ysgolion a cholegau, ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gyfarwyddo gan Cymwysterau Cymru a CBAC. Wrth ddatblygu'r cynnig ynglŷn â chanlyniadau wedi eu seilio ar ganolfan, rydym ni'n bwriadu dysgu o brofiadau 2020 ac fe gaiff ei lywio gan ail gam gwaith yr adolygiad annibynnol hefyd. Fy mwriad i o ran polisi yw y bydd dull cyffredin o weithredu ledled Cymru drwy gyfrwng CBAC, gan ddarparu tryloywder a thrylwyredd i sicrhau prifysgolion a cholegau o'n dull ni o weithredu.
Gan droi at gymwysterau galwedigaethol, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r tirlun cymwysterau galwedigaethol yn wahanol. Fe gaiff swm sylweddol o ddysgu galwedigaethol ei gyflwyno ar sail mewn ac allan, gyda dysgwyr yn dechrau arni gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol a gymerir gan ddysgwyr yng Nghymru ar gael yng ngwledydd eraill y DU hefyd. Ar gyfer sicrhau cysondeb, rwyf i wedi gofyn i Cymwysterau Cymru weithio'n agos gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau dull pragmatig sy'n gweithio er budd dysgwyr ac sy'n rhoi eglurder iddyn nhw ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Fe gyhoeddwyd canllawiau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol fis diwethaf, sy'n nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu cymhwyso wrth wneud addasiadau mewn ymateb i effaith COVID-19. Mae hyn yn golygu y bydd archwiliadau sydd wedi eu hamserlennu ar gyfer cymwysterau galwedigaethol ar gyfer cyfres yr haf yn parhau er mwyn cynnal dull cyson ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Serch hynny, fe fydd fy swyddogion i a Cymwysterau Cymru yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rheoleiddwyr cymwysterau eraill yng ngoleuni'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd.
Heddiw, rwyf hefyd yn sefydlu grŵp cynghori dylunio a darparu o blith arweinwyr ysgolion a cholegau, y rheoleiddiwr a'r corff dyfarnu. Geraint Rees fydd cadeirydd y grŵp hwn ac fe'i cefnogir gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Ni fydd y grŵp yn ymhél ag atebolrwydd sefydliadau unigol, atebolrwydd yr ysgolion, y rheoleiddiwr na'r corff dyfarnu, ond fe fydd yn datblygu cynigion polisi ar gyfer ein dull gweithredu ni, gan gynnwys cynigion manwl ar gyfer yr ystod o brosesau asesu ac apelio. Fe fydd rheoleiddiwr a chorff dyfarnu Cymru yn cynnig arbenigedd i'r grŵp ynglŷn ag asesu, ac rwy'n disgwyl gallu ystyried a chadarnhau cyfeiriad ein polisi erbyn diwedd mis Rhagfyr ar gyfer rhoi amser i'w weithredu o fis Ionawr ymlaen. Fe fydd y grŵp wedyn, yn ystod y flwyddyn, yn fy nghynghori i ar gyflawni'r pecyn gwaith hwn ac rwy'n disgwyl gweld ein blaenoriaethau cydraddoldeb ni wrth galon y cyfan.
Dirprwy Lywydd, mae hon yn parhau i fod yn flwyddyn heriol iawn. Rwyf wedi pennu llwybr heddiw sy'n tynnu'r pwysau oddi ar ddysgwyr ac yn rhoi amser clir i addysgu a dysgu. Rwy'n gofyn i'n hysgolion ni, ein colegau ni, ein cyrff cymwysterau ni a'r sector addysg yn fwy eang weithio ar y cyd ac yn gydweithredol drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein dysgwyr a'u galluogi nhw i fwrw ymlaen yn hyderus. Diolch yn fawr.
A gaf innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i Louise Casella a Cymwysterau Cymru am y cyngor y maen nhw wedi ei roi i'r Gweinidog ynglŷn â hyn? Mae'n rhaid imi ddechrau, serch hynny, drwy ddweud, er fy mod i'n deall eich safbwynt chi'n llwyr o ran dymuno cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ychydig yn gynharach heddiw fel y bydd ysgolion yn deall mai hon yw'r ffordd yr ydych chi'n bwrw ymlaen â hi, rwy'n siomedig iawn ei bod yn ymddangos bod y Sunday Times wedi cael gafael ar y stori hon o leiaf 48 awr cyn ei chyflwyno ar lawr y Siambr hon. Y sibrydion yw bod hynny o ganlyniad i gyfweliad bythefnos yn ôl, ond efallai y gwnewch chi egluro hynny, Gweinidog, oherwydd yn amlwg—[Torri ar draws.] Wel, yn Aelod hir sefydlog o'r wrthblaid, roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi inni wneud datganiadau o'r fath ar lawr y Siambr.
Beth bynnag am hynny, rwy'n falch o'ch clywed chi'n dweud bod hon yn flwyddyn eithriadol. Ni fyddwn i'n dymuno ffoi oddi wrth benderfyniad heddiw oherwydd ei fod yn gosod cynsail, pan mae'n amlwg mai ymateb yw hwn i gyfres benodol o heriau. Mae'r coronafeirws, wrth gwrs, yn mynd i fod gyda ni hyd y gellir rhagweld, ond ni ddylai'r ymateb iddo fod yn gylch parhaus o gau grwpiau blwyddyn neu ysgolion hyd yn oed. Felly, efallai mai fy nghwestiwn cyntaf, rwy'n credu, fyddai a ydych chi'n dadlau dros roi blaenoriaeth i blant ac athrawon wrth gynnig y brechlyn newydd. Nawr, mae'n amlwg fy mod i'n deall mai dyddiau cynnar iawn yw hi o ran cyflwyniad y brechiadau, ond efallai y gwnewch chi roi ychydig o ddealltwriaeth i ni o'ch barn chi am hynny i sicrhau bod tarfu fel hyn yn cael ei gyfyngu yn y dyfodol, oherwydd rwyf i o'r farn mai'r hyn a ddatgelodd yr adolygiadau hyn yw nad yw addysg yn y cartref na dysgu cyfunol yn cyfateb o gwbl i ddysgu mewn ysgol mewn gwirionedd.
Fe gafodd yr anghysondeb o ran profiad pobl ifanc, a'n hathrawon hefyd, a bod yn deg, yn y cyfnod hwnnw pan oedd yr ysgol ar gau—fe'i nodwyd i bob pwrpas yn eich penderfyniad chi heddiw yn brif reswm dros ddiddymu arholiadau fel yr ydym ni'n meddwl amdanynt. Ac yn hytrach na'r ansicrwydd ynghylch y sefyllfa y byddwn ni ynddi yn yr haf, mae'n ymddangos mai'r hyn a welwyd yn barod a fu'n ysgogydd i hyn. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi cytuno ar gynnig Cymwysterau Cymru o ran dewis amgen i arholiadau cyn belled ag y bydd yna elfen allanol yn hyn, sydd, yn fy marn i—. Mae gosod yr asesiadau hyn yn allanol a'u marcio nhw'n allanol yn rhoi cyfradd o gydraddoldeb iddyn nhw, rwy'n credu, â'r arholiadau traddodiadol yr ydym ni'n fwy cyfarwydd â nhw. Felly, wrth ddewis y ffordd hon ymlaen, pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi i gynnwys yr asesiadau hyn o ran cydraddoldeb y gellir ei nodi â'r hyn sydd wedi bod o'r blaen ac felly'n cefnogi'r ddadl a wnes i gynne o ran cael cyfradd o gydraddoldeb rhwng blynyddoedd?
Ac er bod hyn yn ymwneud â thegwch, cyfiawnder a lles i ddysgwyr, fel yr oeddech chi'n ei ddweud yn eich datganiad heddiw, faint o ystyriaeth a roddwyd i les athrawon hefyd? Oherwydd yn bersonol rwyf i o'r farn fod gan yr athrawon ddigon ar eu plât ar hyn o bryd yn ceisio dal i fyny, ac yn ymdrin â pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm, a'r peth olaf sydd ei angen arnyn nhw nawr, yn fy marn i, yw treulio amser yn cymryd rhan fawr yn nyluniad system gymedroli. Felly, pa mor ddylanwadol oedd sylw Cymwysterau Cymru ynglŷn â sefydlu system gymedroli gadarn, o ystyried y tro hwn ei bod hi bron yn amhosibl gwneud hynny? Ond pe bai amser i gyflwyno system gymedroli ar gyfer graddau a aseswyd yn ganolog, ai hwnnw fyddai eich dewis chi wedi bod? Fe fyddwn i'n falch o glywed eich syniadau cynnar chi ynglŷn â sut rydych chi'n credu y gallai athrawon reoli asesiadau yn y stafell ddosbarth os bydd yn rhaid cau ysgol, ar adeg dyngedfennol, naill ai'n gyfan gwbl neu ei bod yn rhaid anfon grŵp blwyddyn adref. Nid wyf i'n gweld hyn yn gweithio ar-lein mewn gwirionedd, felly beth yw'r dewis arall ar gyfer hynny, os oes gennych chi flwyddyn ysgol heb fod mewn sefyllfa i gael asesiad yn y stafell ddosbarth a reolir gan athrawon?
Rwy'n credu bod angen imi ofyn rhywbeth ichi am Lefel A. Rwy'n deall y rheswm a roddoch i egluro pam na fydd myfyrwyr Lefel A yn sefyll arholiad o unrhyw fath, ac rwy'n deall yr hyn y dywedasoch am y prifysgolion yn adrodd eu bod nhw wedi arfer â phethau o'r fath, ond pa gyngor a fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd chi ynghylch sicrhau bod prifysgolion yn cadw eu gair yn hyn o beth? A oes unrhyw syniadau gennych o ran sut y mae eu penderfyniadau nhw—haf nesaf fydd hi, onid e—yn debygol o gael eu monitro i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw at eu gair?
Ac yna'n olaf ynglŷn â chymwysterau galwedigaethol, rwy'n falch iawn eich bod chi wedi crybwyll y rhain. Rwy'n gwybod mai darlun llawer mwy cymhleth yw hwn gan ei fod yn ddarlun o'r DU, fwy neu lai. Tybed a wnewch chi ddweud wrthyf sut ymateb a fu i ganllawiau'r DU a gyhoeddwyd tua mis yn ôl, a hefyd, i sgwario'r cylch hwn, beth yw sefyllfa myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol mewn colegau yn bennaf—fe fyddan nhw wedi bod yn yr union sefyllfa o ran tarfu â'r rhai sy'n astudio ar gyfer cymwysterau cyffredinol, ac eto i gyd y rhagdybiaeth yw y byddan nhw yn sefyll arholiadau yn yr haf. Felly, pam mae arholiadau ar gyfer y myfyrwyr hyn yn deg pan nad ydyn nhw'n deg i fyfyrwyr Lefel A? Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau yna? A gaf i ddechrau drwy ddweud nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon o gwbl o ran y cyfweliad a roddais i i'r Sunday Times? Mae'r Aelod yn llygad ei lle, fe gynhaliwyd y cyfweliad hwnnw bythefnos yn ôl. Nid wyf i'n deall yn iawn pam wnaeth y Sunday Times oedi cyn cyhoeddi'r cyfweliad, ac fe'i rhoddwyd i'r papur hwnnw mewn ymateb i gyhoeddi dwy gyfres o gynghorion a roddwyd i mi, a'r hyn a roddwyd i'r papur oedd disgrifiad o hynny, oherwydd nid oedden nhw'n deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfres o gynghorion. Roedd cyhoeddi'r cyfweliad hwn y tu hwnt i'm rheolaeth i, ond fe allaf i eich sicrhau chi nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon mewn unrhyw ffordd, ac fel yr ydych chi wedi darllen, os ydych chi wedi darllen y stori yn y Sunday Times, roedd yna lawer iawn o ddyfalu, rhywfaint o hynny'n amlwg iawn, o gofio'r tebygrwydd rhwng y ddwy gyfres o gynghorion o ran—[Anghlywadwy.]—ac roedd y stori'n anghywir o ran y penderfyniad a wneuthum i o ran Lefel A. Felly, rwy'n awyddus i dawelu meddwl y Siambr nad oedd hynny'n golygu unrhyw amharch, ac fe ddysgais innau wers yn hynny o beth.
Fe soniodd yr Aelod am y brechlyn, ac rwy'n deall pam, oherwydd mae hon wedi bod yn flwyddyn sobr o ddigalon i bob un ohonom ac felly mae hyd yn oed y llygedyn hwn o oleuni ynglŷn â'r posibilrwydd y caiff brechlyn ei gyflwyno yn rhywbeth yr ydym i gyd yn awyddus i ddal ein gafael ynddo o dan yr amgylchiadau. Dirprwy Lywydd, rwy'n amau ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am y doniau anhygoel hynny ledled y byd sydd wedi gweithio mor galed i geisio datblygu'r brechlyn hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn rhaid inni bwyllo ychydig bach. Mae llawer i'w wneud eto, ac mae maint y sialens o ran dosbarthu, hyd yn oed os byddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa lle gellir dosbarthu brechlyn, yn wirioneddol heriol, ac fe amlinellodd y Prif Weinidog rai o'r rhain yn gynharach.
O ran cyflwyno'r brechlyn hwnnw, yn amlwg, rydym ni'n cael ein harwain gan y pwyllgor sy'n rhoi cyngor i Lywodraethau ledled y DU ynghylch defnyddio brechlyn yn briodol, ac mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd, ond, yn amlwg, fe fydd aelodau'r gymdeithas sy'n agored i niwed, os bydden nhw'n gweithio ym myd addysg neu'r tu allan i fyd addysg, rwy'n siŵr, yn cael blaenoriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n edrych arno hefyd yw cyfundrefnau profi eraill ar gyfer cefnogi addysg a helpu i leihau'r tarfu ac mae hynny'n llawer mwy blaenllaw yn ein hystyriaethau ni, oherwydd mae honno'n sefyllfa sy'n llawer mwy tebygol y gallwn ni weithredu yn gynt arni yng Nghymru yn hytrach nag aros am y brechlyn.
Roedd Suzy Davies yn dweud bod y penderfyniad heddiw yn amlygu heriau dysgu cyfunol, a'n dull ni o gefnogi dysgwyr sy'n eu cael eu hunain y tu allan i'r ysgol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod y sefyllfa honno'n amrywio, ac rydym yn parhau i weithio gyda'r sector addysg i ddatrys amrywioldeb hynny. Dim ond yr wythnos diwethaf, yn ystod y cyfnod atal byr, rwy'n ymwybodol bod rhai ysgolion wedi cyflwyno eu hamserlen gyfan drwy wersi byw; nid oedd ysgolion eraill mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cyfaddef—a phe bai hi wedi gwrando ar y pennaeth a oedd yn siarad ar Radio Wales y bore yma—hyd yn oed pan fo'r dysgu cyfunol hwnnw o'r ansawdd gorau, nid yw hynny'n cymryd lle cael bod mewn ysgol. A'r broblem sy'n fy wynebu i, a'r broblem y mae ein hathrawon a'n myfyrwyr ni'n ei hwynebu, yw na allwn ni warantu faint o amser y byddan nhw'n ei dreulio yng nghwmni eu hathrawon. Rydym eisoes wedi gweld llawer iawn o amrywioldeb. Mae rhai plant, fel y dywedais i, yn ffodus iawn, heb gael eu heffeithio ac maen nhw wedi gallu bod yn yr ysgol drwy'r amser. Mae plant eraill—myfyrwyr y bûm i'n siarad â nhw—wedi colli pedair wythnos eisoes oherwydd gorfod ynysu gan eu bod nhw mewn swigen a oedd wedi bod ag achos cadarnhaol o'r feirws. Felly, nid—. Rwy'n cytuno bod angen inni wneud yn well o ran dysgu cyfunol, ond nid dyna'r rheswm am ysgogi hyn heddiw o reidrwydd.
O ran natur yr asesiadau, mae'n bwysig iawn fod yna amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer asesu plant. O ran natur a nifer yr asesiadau, y grŵp dylunio a chyflwyno a fydd yn rhoi ystyriaeth i hynny, fel mewn ymateb i argymhelliad adroddiad Louise Casella, gan ddysgu gwersi'r llynedd yn sgil peidio â gwneud unrhyw beth i'r system, ond mewn gwirionedd gan weithio gyda'r system i greu system sydd mor gadarn a chyfartal a theg â phosibl ac sy'n wir ymwybodol o'r pwysau gwaith ar athrawon. Mae yna gydbwysedd i'w ganfod o ran grymuso athrawon yn y broses hon, a chredwch chi fi, maen nhw'n dymuno cael eu grymuso, ac mae llawer ohonyn nhw'n awyddus i ymgymryd â'r gwaith, ond, yn ogystal â hynny, i ystyried y pwysau anhygoel sydd arnyn nhw eisoes wrth gadw'r drysau ar agor, ac mae'r cydbwysedd hwnnw i'w ganfod yn yr hyn y gall aelodau eraill o'r sector addysg ei wneud yng Nghymru i'w cefnogi nhw yn y gwaith hwn.
Fe soniodd yr Aelod am yr hyn sy'n digwydd hefyd os bydd grŵp allan o'r ysgol. Wel, fe fydd yr asesiadau a bennir yn allanol ar gael i ysgolion, ond yr ysgolion a fydd yn penderfynu, pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny, pryd y dylid cynnal yr asesiadau hyn, felly mae yna rywfaint o hyblygrwydd yn hyn o beth a ddylai roi ystyriaeth i rai o'r heriau o ran iechyd y cyhoedd y gallwn ni fod yn eu hwynebu. O ran prifysgolion, fe fynegodd y prifysgolion yn eglur iawn i mi beth oedd eu blaenoriaethau nhw. Yn gyntaf, addysg, addysgu a dysgu yw hynny, a sicrhau bod yr wybodaeth a'r cysyniadau allweddol ym meddiant y myfyrwyr i ganiatáu iddyn nhw fod yn llwyddiannus pan fyddan nhw'n cyrraedd y brifysgol. Ac felly roedd gwneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu yn bwysig iawn iddyn nhw; mae'r system hon yn caniatáu inni wneud hynny. Yr elfen bwysig arall oedd bod sicrwydd cydraddoldeb, a bod ein rheoleiddiwr yn fodlon i roi eu henwau nhw wrth y cynigion hyn, a honno, unwaith eto, yw'r system y gwnaethom ni ymgyrraedd ati.
O ran cymwysterau galwedigaethol, nid ydym yn yr un sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol, o ystyried eu natur nhw, sef bod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr Cymru, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn dilyn cymwysterau sy'n cael eu rhannu â gweddill y DU, ac nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn cael eu rheoleiddio gan ein rheoleiddiwr ni ein hunain. Felly, ni allaf i orchymyn rheoleiddiwr mewn gwlad arall i weithredu mewn ffordd arbennig. Ond dyna pam y bydd ein rheoleiddiwr ni'n parhau i weithio gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd, i sicrhau tegwch yn y sectorau galwedigaethol hefyd, lle nad oes gennym ni reolaeth ar gymwysterau ein rheoleiddiwr ni.
Dwi yn croesawu'r newyddion yma. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwneud yr achos dros ddileu arholiadau'r haf ers misoedd bellach. Mi fydd y cyhoeddiad yma yn rhyddhad i bobl ifanc, i rieni ac i ysgolion ledled Cymru. Mi fyddai hi wedi bod yn amhosib cynnal arholiadau allanol mewn modd fyddai'n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd trefniadau amgen yn eu lle ac na fydd angen gwneud newidiadau disymwth funud olaf, fel y digwyddodd yr haf diwethaf, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr iawn. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth roi ei phobl ifanc dan bwysau sylweddol diangen, fel y gwnaethpwyd yr haf diwethaf. Byth eto roi cymhwyster cyn llesiant. Byth eto greu cymaint o bryder i filoedd o bobl ifanc Cymru.
Felly, dwi yn croesawu'r newyddion, ond mae gen i bryderon a llawer iawn o gwestiynau am y trefniadau amgen sydd i'w rhoi ar waith. Rydych chi newydd gyhoeddi gwybodaeth am gymwysterau galwedigaethol, ac y bydd yna arholiadau diwedd blwyddyn i'r cohort yma o fyfyrwyr. Ac unwaith eto, mae'r myfyrwyr yma—y bobl ifanc yma—yn cael eu gadael i lawr, achos maen nhw'n cael eu heffeithio yn union yr un peth â disgyblion eraill Cymru, ac mi fyddwn i yn eich annog chi yn gryf i gadw hyn dan adolygiad manwl a chadw golwg barcud ar y sefyllfa.
A gaf i droi at y trefniadau asesu newydd—y profion a'r asesiadau allanol—ar gyfer TGAU, AS a lefel A? Pam wnaethoch chi benderfynu bod yn rhaid cael asesiadau allanol, sef asesiadau sydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol? Dwi wedi cael etholwr prynhawn yma yn cysylltu ac yn gofyn hyn: beth ydy'r gwahaniaeth rhwng asesiadau dan amodau arholiad sydd wedi eu cynllunio gan fwrdd arholi o'i gymharu â sefyll arholiadau o dan yr hen drefn? Mae'r etholwr yma yn dweud bod y gair 'canslo' yn rhoi camargraff llwyr, ac mai arholiadau drwy'r drws cefn fydd yn digwydd efo'r asesiadau allanol yma, felly hoffwn i gael eich barn chi am hynny. Pam ddim gosod y tasgau'n fewnol a'u safoni yn allanol? Oni fyddai hynny yn ffordd decach ymlaen, o gofio bod addysg ein pobl ifanc ni yn cael ei amharu arni yn waeth mewn rhai mannau lle mae'r haint yn uchel, a bod y bwlch digidol hefyd yn creu sefyllfa anghydradd, sef yr un dadleuon, mewn gwirionedd, dros ganslo arholiadau? Onid ydy'r rheini yn berthnasol i brofion allanol hefyd?
Fe fydd pobl eisiau gwybod faint o brofion fydd yna a faint fydd gwerth y profion tuag at y cymhwyster terfynol, ac mi fydd yna gwestiynau hefyd ynglŷn ag aseiniadau—yr aseiniad lle mae disgybl yn cael y cwestiwn ymlaen llaw ac arholiad ar ddiwedd y dydd. Ai hynny fydd yn digwydd efo aseiniadau? A fydd yna aseiniad ym mhob pwnc ac a fyddan nhw'n seiliedig ar y fanyleb gyfan ym mhob pwnc? Nifer o gwestiynau, a dwi'n gwybod eich bod chi'n nodi bod grŵp wedi cael ei sefydlu i bennu y manylder yma ynglŷn â'r trefniadau asesu amgen. Mae yna lawer iawn o waith i'w wneud a thrafodaethau manwl a thechnegol i'w cael, ac mae hi yn bwysig bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud o safbwynt faint o'r trefniadau sy'n digwydd yn fewnol, yn yr ysgolion, a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill. Mi fyddai'n dda cael gwybod prynhawn yma beth ydy union amserlen y grŵp yma.
Rydym ni'n disgwyl penderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn. Gobeithio na fydd yna ddim llusgo traed. Mae'n rhaid caniatáu i ysgolion roi'r trefniadau priodol yn eu lle ac i ddisgyblion gael deall sut y byddan nhw'n cael eu hasesu, achos tra bo ansicrwydd yn parhau mi fydd athrawon a disgyblion yn parhau i fod yn bryderus. Llawer o fanylion i'w trafod, felly, a'u cytuno, ac mi fyddaf i'n parhau i gyfrannu'n adeiladol at y trafodaethau, ac mi fyddaf i, bob tro, yn mynnu mai lles plant a phobl ifanc fydd canolbwynt pob penderfyniad gan y Llywodraeth hon.
Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiynau yna. Fe ddechreuodd drwy ddweud ei bod hi'n credu y dylid bod wedi diddymu'r arholiadau cyn hyn. Wel, polisi Plaid Cymru yw cael gwared ar arholiadau, ac mae hwnnw'n bolisi cwbl ddilys i'w gael. Nid yw'n bolisi yr wyf i'n cytuno ag ef; rwyf i o'r farn fod arholiadau yn rhan bwysig o'n system addysg ni. Pe bawn i'n credu bod modd cynnal arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, fe fyddwn i wedi eu cynnal nhw eleni. Nid penderfyniad hawdd i ni heddiw oedd eu diddymu nhw.
Felly, nid wyf i o'r un farn gyffredinol â hi ynglŷn ag arholiadau, ond mae'n amlwg i mi, o dan ein hamgylchiadau presennol, a chyda'r ansicrwydd parhaus ynghylch beth allai'r sefyllfa fod o ran iechyd y cyhoedd dros y gaeaf, na ellir cyflwyno arholiadau mewn ffordd deg a chyfartal, ac rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn cyn gynted ag yr oeddwn i'n gallu gwneud felly. Mae'n gwbl bosibl y bydd rhai yn fy meirniadu i gan ddweud y dylwn i ddal fy ngafael ac aros i weld sut aeaf fydd hwn, ond, pe byddwn i wedi gwneud hynny, fe fyddai hynny wedi arwain at ragor—nid o ddryswch, ond rhagor o ofid wrth i fyfyrwyr ac athrawon geisio marchogaeth dau geffyl, gydag un ceffyl yn credu bod arholiad am ddigwydd ac felly'n dysgu'r holl ffeithiau ac yn paratoi am arholiad, a'r ceffyl arall yn asesu a phrofi'n barhaus, heb wybod o un wers i'r llall pa ddarn o waith fyddai'r darn o waith i'w ystyried gan arholwr allanol o bosibl. Dyna sy'n rhoi straen ar ein plant a'n hathrawon ni, ac rydym wedi gwneud penderfyniad heddiw i roi eglurder llwyr, fel y gall ein holl amser a'n sylw ni droi nawr at brofiadau addysgu a dysgu gwirioneddol gadarnhaol.
O ran cymwysterau galwedigaethol, rwy'n deall bod y sefyllfa yn un anodd a gwahanol ar gyfer y myfyrwyr hynny, ond, fel yr oeddwn i'n egluro i Suzy Davies, nid wyf i mewn sefyllfa i roi cyfarwyddiadau i wahanol reoleiddiwr, ac felly—. Ond fe allaf i roi'r sicrwydd y byddwn ni'n cadw, fel gyda Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad agos gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau nad yw'r myfyrwyr hynny o dan anfantais.
O ran yr hyn a ddisgrifiodd yr Aelod yn 'brofion', nid profion yw'r rhain ac rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus iawn gyda'r derminoleg yn hyn o beth. Asesiadau yw'r rhain a ddarperir ar gyfer ysgolion gan CBAC. A pham hynny? Wel, mae yna ddau reswm pwysig iawn. Rydym newydd glywed gan Suzy Davies am bwysau gwaith ar athrawon. Mewn gwirionedd, mae cael corff allanol sy'n dod â'r capasiti a'r adnodd ychwanegol hwnnw i mewn i'r system yn golygu nad oes yn rhaid iddyn nhw gynllunio'r asesiadau hyn. Fe fydd rhywun arall yn gwneud y gwaith hwnnw drostyn nhw. Ac mae honno'n un ffordd o dynnu'r baich oddi ar y proffesiwn addysgu. Yr ail reswm yw bod cysondeb cenedlaethol ar gael wedyn sy'n ein galluogi ni i gymedroli, oherwydd fe ofynnir i bob plentyn gwblhau tasg gymharol yn yr un modd yn y stafell ddosbarth honno.
Felly, o ystyried cymedroli a sicrhau bod sgôr o A yn Llandudno yn gwbl gyfystyr â sgôr A yng Nghaerdydd, yna fe ellir gwneud hynny ar sail yr un dasg yn union sy'n cael ei chyflawni o fewn y dosbarth, gan sicrhau'r cysondeb cenedlaethol hwnnw. Ac yn ail hefyd sicrhau bod—. Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi darllen yn fanwl trwy'r dadansoddiad o waith ynglŷn â chymwysterau o ran effeithiau graddau a asesir mewn canolfannau ar gydraddoldeb, sef pen ein taith ni'r haf diwethaf. Roedden nhw'n codi rhai materion difrifol iawn ynglŷn â materion cydraddoldeb, ac felly mae cael rhywfaint o unffurfiaeth yn y system hon yn sicrhau bod y bobl hynny sydd â phryderon am ragfarn anymwybodol ac ati—fe ellir mynd i'r afael â'r pryderon hynny. Hefyd, mae hyn yn caniatáu inni gael llwybr i'r system arholi ar gyfer ein harholwyr annibynnol ni.
Yn gynharach, fe ofynnodd Suzy Davies imi am ddatganiad—o, mae'n ddrwg gen i, Mike Hedges oedd yn gofyn am ddatganiad—am blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. Nawr, y llynedd, roedd hi'n anodd iawn gallu ymateb i ymgeiswyr annibynnol. Ar ôl cytuno'n genedlaethol ar dasgau a gynlluniwyd gan ein bwrdd arholi ni i blant eu cyflawni, mae hynny'n cynnig llwybr inni ar gyfer rhai o'r ymgeiswyr annibynnol hynny i allu ennill gradd eleni mewn ffordd nad oedd yn bosibl iddyn nhw heb fod yn rhan o ganolfan asesu ffurfiol. Felly, mae hyn yn gyfle inni fynd i'r afael ag anghenion y myfyrwyr hynny hefyd, ac rydym yn ceisio gwneud cyfiawnder â phob dysgwr sydd gennym yn ein system ar hyn o bryd.
O ran eu nifer a'u natur nhw, mater i'r grŵp fydd hynny. Fe allem ni weld—. Fe allen nhw fy nghynghori i y bydd nifer y tasgau yn amrywio yn ôl natur y cwrs a astudir. Wrth siarad â phrifysgolion, er enghraifft, roedden nhw'n pryderu llawer am fathemateg a myfyrwyr a oedd yn awyddus i fynd ymlaen i astudio am radd sy'n gysylltiedig â mathemateg—ac am sicrhau bod yr holl sail sylfaenol yn cael ei gosod i ganiatáu iddyn nhw allu llwyddo yng ngham nesaf eu gyrfaoedd nhw. Felly, efallai y bydd y grŵp yn argymell dulliau ychydig yn wahanol, yn ôl y pynciau, ond mater iddyn nhw yw hynny, ac mae'n bwysig iawn cydnabod y bydd penaethiaid a darlithwyr ac arweinwyr colegau sydd ar y rheng flaen yn mynd i'r afael â'r materion hynny ac fe fydd y ffordd orau o wneud hynny mewn ffordd deg yn hysbys iddyn nhw. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith hwnnw, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr, ac felly fe allwn ni ddechrau cyflwyno'r rhaglen waith hon ym mis Ionawr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n mawr groesawu'r gallu i gael eglurder gwirioneddol nawr, er mwyn i'n pobl ifanc ni a'n hathrawon wybod i ble y byddan nhw'n mynd a beth i'w anelu ato ar ddiwedd y flwyddyn. Mae gennyf i hefyd—. Gyda phrofiad o fod wedi dysgu mewn ysgolion cyfun, colegau addysg bellach a phrifysgolion, rwy'n gwybod fod yna lawer iawn o brofiad o fewn y proffesiwn i allu cynnal asesiadau fel hyn, cael cymedroli allanol, a sicrhau bod cysondeb a thegwch yn berthnasol ledled y pynciau i gyd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd o'n plaid ni'n fawr iawn.
Rwyf i'n awyddus i ofyn ychydig o gwestiynau am Lefel AS, efallai—rydym wedi sôn am Lefel A ac rydym wedi sôn am gymwysterau TGAU, ond beth am flwyddyn 10 a blwyddyn 12? Sut fydd hyn yn effeithio ar eu hastudiaethau nhw ar gyfer y flwyddyn ganlynol yn 2022, fel eu bod nhw hefyd yn gwybod a'u hathrawon nhw'n gwybod beth fydd eu targedau nhw ar gyfer yr arholiadau hynny? Oherwydd fe fydd hynny'n hanfodol i'r grwpiau hynny o fyfyrwyr. Mae'n wir y bydd yna darfu. Mae gennyf hyder llwyr yn y dull cyfunol o ddysgu, ond mae angen inni hefyd edrych ar yr asesiadau hynny, yn enwedig o ran gwaith galwedigaethol, lle ceir asesiadau a gynhelir mewn canolfannau sy'n seiliedig ar asesiadau ymarferol, y mae'n rhaid eu cynnal ar y safle. Sut ydych chi wedi datrys y trefniant hwnnw i sicrhau, os bydd yna darfu, y gall y myfyrwyr y mae angen iddyn nhw fod ar y safle ar gyfer gwaith ymarferol wneud hynny ac y bydd y profion neu'r asesiadau hynny'n cael eu cynnal?
A wnewch chi ddweud wrthyf hefyd, yn glir, ynglŷn â hyfforddi athrawon i sicrhau eu bod nhw'n gwbl ymwybodol ac yn deall yn union beth yw eu swyddogaeth nhw yn hyn? Oherwydd rwy'n tybio, pan fyddwch chi'n siarad am asesiad a bennwyd yn allanol a marcio allanol, mai'r hyn fydd yn digwydd mewn gwirionedd yw y gallai athrawon fod yn gwneud y gwaith marcio yn seiliedig ar gynlluniau marcio a bennwyd yn allanol, ac fe gaiff hynny ei gymedroli drwy samplu. Oherwydd, fel arall, byddai angen i'r arholwyr allanol neu gymedrolwyr allanol wneud llawer o waith i archwilio popeth a chymedroli'r cyfan yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mae yna wahaniaeth yn hynny o beth. A allwch wneud yn siŵr fod yna eglurder y byddan nhw'n cael eu hasesu gan yr athrawon i ddechrau, yn seiliedig ar gyfres allanol o gynlluniau marcio, ac yna y byddan nhw'n cael eu samplu a'u cymedroli ledled Cymru i sicrhau cysondeb?
Diolch yn fawr iawn i David Rees am ei gwestiynau ef. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod ni'n ceisio cynllunio system sy'n gyfarwydd i'r athrawon. Nid dyma'r amser i greu ffyrdd newydd sbon o wneud pethau, a ninnau'n cydnabod y straen aruthrol sydd ar athrawon, ysgolion a cholegau unigol ar hyn o bryd. Felly, cynnal asesiadau, tasgau o'r math hwn ac asesu parhaus—mae'r prosesau hyn yn gyfarwydd i'r ysgolion ac mae'r ysgolion yn eu deall nhw'n iawn. Felly, ni ddylai fod angen i ysgol ymgyfarwyddo â system gwbl newydd a gwahanol—mae'r egwyddorion yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma yn hysbys ac yn cael eu deall yn iawn gan y gweithlu addysgu.
O ran arholiadau ymarferol, David, rydych chi'n iawn. Ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol, mae'r gallu i ddangos eich sgil technegol, eich arbenigedd a'ch gallu chi i ymgymryd â'r gwaith hwnnw'n rhan hanfodol o ennill eich achrediad ar gyfer ymuno â phroffesiwn. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y dysgwyr hynny wedi cael blaenoriaeth ar ddiwedd y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf y llynedd i'w cael nhw yn ôl i'w colegau o flaen neb arall i'w galluogi nhw i orffen eu hastudiaethau. Ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n colegau a'n darparwyr addysg sy'n seiliedig ar waith i sicrhau bod pob cam yn cael ei gwblhau i ganiatáu i fyfyrwyr orffen ac ennill cymhwyster sy'n eu galluogi i naill ai symud ymlaen i astudio ymhellach neu fynd ymlaen i'r byd gwaith.
O ran hyfforddiant, yn amlwg, fe fydd yna angen hyfforddiant a'n disgwyliad ni yw mai mater o bob un yn torchi ei lewys fydd hi yn y senario hwn. Felly, fe fyddem ni'n disgwyl i'n gwasanaethau rhanbarthol gwella ysgolion ni, yn ogystal â CBAC, allu darparu hyfforddiant a chyngor i ysgolion ynghylch sut y dylen nhw weinyddu unrhyw asesiadau yn y dosbarth, ac, fel yr oeddech chi'n dweud, unrhyw gynlluniau o ran marcio, nid yn unig ar gyfer yr asesiadau a asesir yn allanol, ond, mewn gwirionedd, y broses gymedroli gyfan a neilltuo graddau, oherwydd mae hwnnw'n waith anodd a heriol iawn. Y llynedd, y feirniadaeth oedd—a hynny'n gwbl briodol—na roddwyd y cyfle hwnnw ar waith i roi'r cymorth hwnnw i ysgolion. Cafodd yr ysgolion eu gadael i fwrw ymlaen fwy neu lai ar eu pennau eu hunain. Ac mae angen inni ddysgu'r gwersi a sicrhau bod seilwaith yno o ran yr ysgolion y tro hwn i gefnogi'r gwaith o wireddu a gweithredu'r system hon. Diolch.
Gweinidog, diolch am y datganiad hwn a'r eglurhad heddiw. Rwy'n credu y bydd yna rai yn eich barnu chi am beidio â phwyllo digon, ac fe fydd yna eraill yn dweud eich bod wedi cymryd gormod o bwyll. Rwyf i o'r farn eich bod wedi gorfod gwneud penderfyniad, rydych wedi edrych ar y dystiolaeth ac wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen, ac roedd yn rhaid dod i farn ynglŷn â hynny. Bellach o leiaf mae gennym sicrwydd ac eglurder i fyfyrwyr ac athrawon a phenaethiaid ac uwch staff. Felly, diolch i chi am yr hyn a gawsom heddiw.
A gaf i ofyn ichi, beth fydd y cynigion hyn yn ei olygu, wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno, i'r disgyblion a'r myfyrwyr hynny sydd eisoes dan anfantais addysgol, naill ai oherwydd eu profiad blaenorol nhw o addysg, neu'r amgylchiadau ar yr aelwyd, ac yn y blaen? A fydd y cynigion hyn, wrth iddyn nhw gael eu datblygu gan y grŵp a sefydlwyd gennych chi, yn eu galluogi nhw nid yn unig i weithio'r un mor gyflym ond i ddal i fyny os ydyn nhw wedi colli tir? A gaf i ofyn hefyd a fydd yna hyblygrwydd i unrhyw garfannau neu unrhyw unigolion sydd wedi eu heffeithio, naill ai nawr neu dros y misoedd nesaf, gan COVID, sy'n parhau i fod gyda ni? A fydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran dyddiadau ac amseroedd addysgu ac asesu—cyfyngedig fel y mae'n rhaid i hynny fod—er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cwrs a chael canlyniadau da ar y diwedd?
Ac yn olaf, wrth gwrs, nid ydym ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth, Gweinidog. Tybed pa drafodaethau sy'n digwydd gyda chymheiriaid yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, ond hefyd â'n cymdogion Ewropeaidd cyfagos, gan gynnwys yn Iwerddon, fel y gallwn ni rannu profiadau, dysgu gwersi, a chynllunio'r ffordd orau ymlaen gyda'n gilydd, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Diolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies. A gaf i ddweud, drwy gydol y pandemig hwn, pa bortffolio bynnag y cewch chi eich hunan ynddo, nid oes unrhyw benderfyniadau yn hawdd eu gwneud? Mae pob penderfyniad sy'n dod ger fy mron i, neu gerbron unrhyw gyd-Aelodau eraill, ymhell o fod y sefyllfa orau y byddem ni'n dymuno bod ynddi. Ac mae hyn yn heriol iawn, iawn, gan ei bod yn heriol iawn i fod allan yno yn ein hysgolion a'n colegau ni ar hyn o bryd. Nid wyf i'n credu y dylem fod dan unrhyw gamargraff pa mor anodd a heriol yw hyn. Ni allaf i ragweld yr hyn a all ddigwydd yn y misoedd o'n blaenau ni, ond os gwelwn ni'r tarfu a welsom hyd yn hyn yn cael ei ailadrodd, yna, yn amlwg, nid yw'n deg o gwbl.
Eich cwestiwn chi o ran sut y gallwn helpu myfyrwyr i ddal i fyny. Rydych chi wedi gweld yn y cyngor gan Cymwysterau Cymru, sy'n mynegi nad swyddogaeth system gymwysterau, ac nad yw'n bosibl chwaith i system gymwysterau, fynd i'r afael â'r mater sylfaenol sydd gennym dan sylw yma, sef y tarfu enbyd ar ein haddysg. Ni all y system gymwysterau ynddi hi ei hun, ar ei phen ei hun, lenwi bwlch y gwersi hynny a gollwyd. Yr hyn y mae'n rhaid i'r system gymwysterau ei wneud yw adlewyrchu amgylchiadau'r addysg a roddir ar hyn o bryd. Ac mae gennym ni fentrau polisi eraill a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gennych chi. Mae bron yn amhosibl i'r system gymwysterau wneud hynny, ond mae angen inni ei wneud mor deg ag y gallwn ni o dan yr amgylchiadau, ac rwyf i o'r farn mai dyna a wnaethom ni heddiw.
Bydd, fe fydd yna hyblygrwydd ynghylch amseru yw'r ateb i'ch cwestiwn chi. Mae hyn yn ymwneud â grymuso ein penaethiaid ni, ein huwch dimau rheoli ni, a'n hathrawon dosbarth ni i gynnal asesiadau ar yr amserau mwyaf cyfleus iddyn nhw a'u carfan nhw.
Ac o ran y trafodaethau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, wel, ni yw'r rhan olaf o'r Deyrnas Unedig i wneud penderfyniad ynglŷn â 2021. Rydym wedi cael ein barnu oherwydd hynny, ond mae hyn wedi ein galluogi ni i roi ystyriaeth wirioneddol i'r hyn sydd wedi digwydd ac i gyngor yr adolygiad annibynnol. Nid wyf yn feirniadol o'r Gweinidogion Addysg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig am ddewis dulliau amrywiol; rydym ni i gyd yn ymlafnio gyda'r un problemau dybryd, ac, fel y dywedais, nid oes atebion hawdd. Maen nhw wedi cymryd eu llwybrau eu hunain, ac rwyf innau wedi gwneud y penderfyniad yn y ffordd yr wyf i'n teimlo sydd er lles gorau ein system addysg ni ein hunain. Ond rydym yn dal i siarad â'n gilydd am sut y gallwn ddysgu gwersi oddi wrth ein gilydd, a sut y gallwn ni weithredu'r syniadau gorau o ran polisi, os ydyn nhw er budd ein plant ni ein hunain. Ac rydym ni'n gwneud hynny o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhan o'n haelodaeth ni o'r Atlantic Rim Collaboratory, lle rydym ni'n edrych o safbwynt rhyngwladol ar brofiadau mewn rhannau eraill o'r byd, i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu, nid yn unig o ran arholiadau, ond o ran sut yr ydym ni am redeg system addysg yng nghanol pandemig byd-eang.
A gaf i achub ar y cyfle i groesawu eich cyhoeddiad chi, a'r holl waith a wnaethoch fel Gweinidog Addysg hefyd? Ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2016 rwyf wedi eistedd yma droeon yn rhyfeddu at y gwaith a wnaethoch, ac rydym yn falch iawn o'ch cael chi yn rhan o'r Siambr hon.
O ran y penderfyniad hwn, a gaf i bwyso arnoch ryw ychydig bach ynglŷn â'r hyn a ofynnodd David Rees? Ac efallai y gwnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y broses gymedroli a sut fydd y cymedroli'n digwydd mewn ffordd a fydd yn ennyn hyder ymysg y boblogaeth addysg. Ac un peth arall ar ben hynny, onid oes modd cyflwyno proses o adolygu gan gymheiriaid ar lefel leol ymhlith clystyrau o ysgolion er mwyn ychwanegu haen ychwanegol o drylwyredd? Rwy'n deall efallai y byddai hynny'n reit uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond onid yw hon yn ffordd o ailgodi'n gryfach efallai yn y dyfodol hefyd?
A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gwestiynau a'i sylwadau caredig? Rwy'n credu bod gennyf i'r swydd orau yn y byd, hyd yn oed yng nghanol pandemig byd-eang, felly diolch am eich geiriau caredig. Y caredigrwydd sydd wastad yn eich llethu chi, onid e, Dirprwy Lywydd? Ond diolch yn fawr am hynny.
O ran cymedroli, manylion y broses gymedroli yw prif waith y grŵp dylunio a chyflawni. Nid wyf yn cyfyngu ar hynny mewn unrhyw fodd, ac eithrio'r egwyddorion cyffredinol eu bod yn deg ac yn gyfiawn ac yn magu hyder. A byddwn ni'n ceisio gwirio prosesau cymedroli, boed hynny ar lefel ysgol neu boed hynny ar lefel clwstwr, ond fe hoffwn ni wirio'n genedlaethol bod gan yr ysgol—y ganolfan unigol—bopeth sydd ei angen arni i fod yn ffyddiog bod ei phrosesau cymedroli yn deg ac yn gadarn. Rwy'n ymwybodol o'r llwyth gwaith, fel bob amser, yn hyn i gyd, ac, wrth gwrs, wrth inni hawlio mwy o amser athrawon a'u cymryd nhw o'u dosbarthiadau i ymdrin â'r mathau hyn o faterion, rydym ni yn eu tynnu nhw oddi wrth eu gwaith o ddysgu eu plant a'u myfyrwyr. Ond, yn amlwg, bydd hynny'n ystyriaeth i'r grŵp dylunio a chyflawni, ond mae'n sicr yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn ofalus.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am fynd i'r afael â'r broblem, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n llesol iawn, nid yn unig i ddysgwyr, ond hefyd i athrawon gael rhywfaint o sicrwydd ynghylch sut y byddwn yn gweithredu ar y mater pwysig hwn, oherwydd fel arall mae'r hen athrawon druan yn poeni'n fawr am sut y byddant yn tywys myfyrwyr drwy hyn i gyd pan fydd yn rhaid iddyn nhw ynysu carfan benodol o fyfyrwyr am ychydig wythnosau, neu hyd yn oed am ail gyfnod. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad defnyddiol iawn.
Mae tegwch yn ddyhead ond, a dweud y gwir, yn y sefyllfa hon, mae'n anodd iawn gweld sut y byddwn yn sicrhau tegwch, oherwydd mae'n dibynnu ar ba mor drylwyr y mae uwch dimau rheoli yn rhedeg eu hysgolion i sicrhau ein bod yn cyfyngu unrhyw achosion o'r haint y mae myfyriwr neu athro yn eu trosglwyddo o'r gymuned i gyn lleied o athrawon â phosib, ac mae hefyd yn dibynnu ar ein hamgylchiadau personol. Nid athrawon ydym ni. Efallai y gallem ni gael hwyl pur dda ar wleidyddiaeth Safon Uwch, ond oni bai mai Dai Lloyd yw ein henw ni, ni fyddem yn gallu dysgu bioleg i'n myfyrwyr. Byddem ar goll yn llwyr. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall, os nad yw disgyblion yn yr ysgol, mae'n debyg na fyddant yn dysgu i'r safon â phe baen nhw yn yr ysgol.
Felly, i ddechrau, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n gwbl dderbyniol i fyfyrwyr fod eisiau ail-wneud blwyddyn, oherwydd os ydyn nhw wedi colli llawer iawn o ddysgu ac nad ydynt nhw wedi gallu cael y graddau Safon Uwch sydd eu heisiau arnyn nhw er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf, dyweder, er enghraifft, prifysgol, mae angen iddyn nhw gael ail gyfle er mwyn dangos bod ganddyn nhw y cymhwysedd hwnnw. Ond, yn yr un modd, ni allwn ni fod yn rhoi graddau i fyfyrwyr o ran caredigrwydd yn unig os nad oes ganddyn nhw'r sylfaen sydd ei hangen i ddilyn cwrs addysg uwch, ac mae prifysgolion yn llygad eu lle i bwysleisio hynny.
Felly, rwy'n cefnogi'n gryf y syniad hwn o grŵp o randdeiliaid, o grŵp cynghori dylunio a darparu a wnaiff eich helpu i benderfynu pa mor drylwyr fyddwn ni o ran sicrhau y bydd safonau yng Nghaernarfon, Caersws a Chaerdydd yr un fath i sicrhau y caiff bobl gymwysterau penodol. Ond, fel y dywedwch chi, bydd trylwyredd y broses hon yn galluogi prifysgolion, i fod yn ffyddiog eu bod yn sicr y gallan nhw gynnig lleoedd i bobl, oherwydd maen nhw wedi hen arfer â derbyn cymwysterau gwahanol, oherwydd addysg prifysgol yw un o'n hallforion mwyaf llwyddiannus ac mae'n amlwg eu bod yn asesu pobl sydd—
Allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—ag ystod eang o gymwysterau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut ydych chi'n credu y bydd prifysgolion yn ymroi yn frwdfrydig i hyn, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddweud nad oes a wnelo hyn o gwbl â ni yn bod yn garedig neu yn glên wrth fyfyrwyr yn y garfan hon? Mae'n fater o fod yn deg â nhw. Effeithiwyd ar eu haddysg mewn ffordd na allai'r un ohonom ni fod wedi'i dychmygu ym mis Chwefror y llynedd, felly nid yw hyn yn fater o fod yn glên nac yn garedig; mae a wnelo hyn â chreu system drylwyr sy'n caniatáu iddyn nhw gael gradd ac yn caniatáu iddyn nhw wneud cynnydd. Ac mae athrawon yn gwybod, mae athrawon yn gwybod yn iawn nad ydyn nhw yn gwneud unrhyw gymwynas o gwbl os ydyn nhw yn gorbwysleisio gallu'r myfyriwr hwnnw mewn pwnc. Nid yw hynny ond yn arwain at fethiant o bosib yn ddiweddarach a llawer iawn o drallod, ac rwy'n gwybod nad yw ein gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc eisiau i hynny ddigwydd. Byddant yn rhoi asesiad teg, a byddant yn cael cymorth i roi asesiad teg gan y dull cenedlaethol hwnnw o fod â thasgau y gallan nhw gyfeirio atyn nhw yn rhan o'r system hon.
Ac o ran prifysgolion, a gaf i ddweud, fel y dywedais, eu bod yn glir iawn bod arnyn nhw eisiau rhywfaint o ddilysu allanol? Buon nhw hefyd yn glir iawn gyda mi eu bod yn disgwyl i'n rheoleiddiwr cymwysterau gadarnhau fod y cymwysterau hyn yn rhai cadarn. Ond mae ganddyn nhw rywbeth arall y gallan nhw fod yn sicr ohono hefyd pan fyddant yn ystyried myfyrwyr Cymru: roedd ein cyfradd basio, ar y lefelau uchaf un o Safon Uwch cyn y pandemig, yn tyfu bob blwyddyn. Yn 2019, cawsom y ganran uchaf o fyfyrwyr a gafodd A* ac A yn eu harholiadau Safon Uwch. Dyna oedd ansawdd ein haddysg ôl-16 yng Nghymru cyn y pandemig. Deallaf fod carfannau'n newid o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'r ansawdd hwnnw yno o hyd. Mae'n dal yno yn ein system, caiff hynny ei ddarparu o ddydd i ddydd, boed hynny drwy addysgu wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu drwy athrawon yn gweithio gartref, neu drwy fyfyrwyr yn dysgu gartref. Mae'r ansawdd hwnnw yno o hyd a gallant fod yn sicr o ansawdd ymgeisydd sy'n dod o Gymru, y bydd wedi cael gradd deg am ei waith ac fe allan nhw gynnig lle iddo yn y brifysgol yn gwbl, gwbl ffyddiog.
Ac yn olaf, Mark Reckless.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe allwch chi honni'r ansawdd hwnnw, ond penderfyniad prifysgolion yw derbyn hynny neu ddod i'w casgliad eu hunain a allai fod yn wahanol, ac, yn yr un modd, cyflogwyr. Fe wnaethoch chi ddweud mai'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw sicrhau cysondeb cenedlaethol, felly bydd A yn Llandudno yn golygu'r un peth ag A yng Nghaerdydd, ond ni fydd yn golygu bod A yn Llandudno yn golygu'r un peth ag A yn Lerpwl neu A yn Llundain. Does dim rhyfedd bod Plaid Cymru yn cefnogi'r polisi hwn: rydych chi wedi creu rhaniad arall eto rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y canlyniadau a gaiff myfyrwyr Cymru, oherwydd y dull gwahanol iawn o asesu o'i gymharu â sut y caiff plant yn Lloegr eu hasesu eleni, yn her, boed hynny gyda phrifysgolion neu ynglŷn â darbwyllo cyflogwyr bod barn eu hathrawon amdanyn nhw'n cyfateb i arholiad cystadleuol allanol y bydd llawer o'r bobl y maen nhw'n cystadlu yn eu herbyn wedi'u cyflawni yn Lloegr, gyda phenderfyniadau Llywodraeth y DU. Felly, mae'n siŵr y bydd y penderfyniad hwnnw i'n gwneud yn wahanol, er ei bod yn gwybod am y penderfyniadau a wnaed mewn mannau eraill, yn ei gwneud hi'n anoddach i'r rhai yma yr effeithir arnyn nhw, gystadlu, boed hynny mewn prifysgol neu yn y farchnad gyflogaeth. Oni wnaeth Andrew Adonis, Gweinidog ysgolion Tony Blair, daro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd yn gynharach heddiw, mewn ymateb i ddatgelu eich cyhoeddiad a'ch datganiad,
Rwy'n cefnogi'n gryf bod myfyrwyr yn Lloegr yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf ac ni fyddwn yn dymuno i'r llywodraeth efelychu polisi Cymru yn eu hatal, sy'n gam yn ôl yn gymdeithasol'?
Mr Reckless, dywedwch a fynnoch chi i ddifrïo athrawon Cymru, myfyrwyr Cymru a system addysg Cymru; rwy'n anghytuno, syr. Mae gennyf bob ffydd yn ein pobl ifanc, ein plant, ein darlithwyr, ein hathrawon, ein bwrdd arholi a'n rheoleiddiwr annibynnol i sicrhau y bydd gan fyfyrwyr sy'n gadael ein system addysg eleni gymwysterau a gaiff eu hystyried yn gyfwerth â rhai o unrhyw le arall, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig hon, yr ydych chi'n treulio llawer o'ch amser yn siarad amdani, ond, yn wir, y byd.
Wn i ddim pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â thiwtor derbyn, ond mae'r system brifysgol yn ymdrin â chymwysterau myfyrwyr o bedwar ban byd. Cânt eu hasesu mewn amryfal ffyrdd gwahanol, maen nhw'n derbyn y myfyrwyr hynny i'w prifysgolion, ac nid oes dim byd gwahanol eleni. Yn wir, cyfeiliornus braidd yw meddwl bod arholiadau Safon Uwch ar draws y Deyrnas Unedig a'r arholiadau uwch yn Yr Alban yn cyfateb yn union iddyn nhw; dydyn nhw ddim. Mae gwahaniaethau eisoes yn ein systemau.
Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn yn awr er lles ein plant a lles ein system addysg. Rwy'n gobeithio'n fawr y gall myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig fwrw ymlaen yn y ffordd y mae eu Llywodraethau wedi amlinellu hyd yma, ond nid wyf yn fodlon mentro felly gyda'n myfyrwyr ni a newid meddwl yn hwyr yn y dydd. Rwy'n egluro nawr i'r bobl ifanc hynny, ac rwy'n neilltuo'r amser fel y gallan nhw gael profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol ac y gallwn ninnau gynllunio math gwahanol o system asesu eleni sy'n gadarn.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.