Grŵp 2: System bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol (Gwelliannau 152, 88, 89, 153, 154, 90, 91, 92, 94, 93, 95, 96, , 97, 155, 98, 156, 100, 157, 145, 176, 146, 63, 177, 83, 151, 148, 168, 137, 169, 170, 171, 144)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:54, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn ceisio dileu gallu awdurdodau lleol unigol i newid eu system bleidleisio o system y cyntaf i'r felin i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nid yw hyn i fod yn groes, mae hyn er mwyn adlewyrchu'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth leol yng Nghyfnod 1, a gefnogwyd gan yr Aelodau, lle nad oedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cefnogi'r darpariaethau i alluogi prif gynghorau i ddewis pa systemau pleidleisio i'w defnyddio. Er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen system bleidleisio glir a chyson ar draws pob awdurdod lleol er mwyn osgoi cymhlethdod a'r peryg o ddryswch ymhlith pleidleiswyr, gan ychwanegu y gallai'r cymhlethdod wrth ganiatáu i brif gynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain fod yn 'eithaf erchyll', gyda'r perygl o anhrefn yn bryder gwirioneddol.

Mynegwyd pryderon a gwrthwynebiad tebyg i'r ddarpariaeth gan holl brif gynghorau a chynrychiolwyr cynghorau tref a chymuned a ymatebodd i ymgynghoriad y pwyllgor. Cydnabu Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol y gallai fod manteision tybiedig o ganiatáu dewis i brif gynghorau, ond dywedodd y gallai'r perygl o gymhlethdod a dryswch o gael dwy system bleidleisio ddifreinio pleidleiswyr o bosib a'r sefyllfa waethaf fyddai cael effaith ar y nifer sy'n pleidleisio.

Er bod y Comisiwn Etholiadol yn cydnabod mai mater i Lywodraeth Cymru a'r Senedd yw penderfynu pa system etholiadol i'w defnyddio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, roedd yn cytuno bod risgiau a heriau'n gysylltiedig â'r cynnig. Mae hyn yn cynnwys mwy o berygl o ddryswch i bleidleiswyr a heriau gweinyddol. Nododd y comisiwn y byddai'n ofynnol iddo gyhoeddi dwy gyfres o ganllawiau, un ar bob system bleidleisio ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, ar gyfer pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantau, ac yna rhedeg ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ar wahân.

Cyfeiriodd y Comisiwn Etholiadol hefyd at yr ethos o gysondeb mewn cynllunio etholiadol sydd wedi datblygu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a dywedodd y byddai'n siomedig pe bai'r gweithgarwch cydgysylltu hwnnw'n cael ei danseilio gan systemau gwahanol yn gweithredu mewn gwahanol siroedd. Fel y dywedais yn ystod y ddadl yng Nghyfnod 1, roedd 33 o'r 35 ymatebydd i ymgynghoriad y Papur Gwyn yn anghytuno ac roedd yn well ganddyn nhw gadw un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. At hynny, fel y dywed adroddiad ein pwyllgor, mae'r

'rhan fwyaf o’r dystiolaeth a gafwyd yn gwrthwynebu’r darpariaethau sy’n caniatáu i brif gynghorau ddewis eu system

bleidleisio eu hunain.'

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi y bydd costau ychwanegol pe bai prif gyngor yn dewis newid ei system bleidleisio, ond nid yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau cysondeb â hyn, mae gwelliant 137 yn ceisio dileu'r pŵer i awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu pa system bleidleisio sydd i'w defnyddio yn etholiad cyffredin cyntaf cynghorwyr i'r prif gyngor ar gyfer prif ardal newydd. Mae system bleidleisio adran 125 yn caniatáu i reoliadau uno bennu pa system etholiadol—system y cyntaf i'r felin neu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy—sydd i'w defnyddio ar gyfer etholiadau cyntaf ar gyfer prif gyngor sydd newydd ei greu. Mae'r gwelliant hwn yn dileu'r dewis hwn, gan sicrhau cysondeb o ran systemau etholiadol llywodraeth leol ledled Cymru.

Mae gwelliant 94 yn gwneud darpariaethau i'w gwneud hi'n ofynnol cynnal refferendwm cyn i brif gyngor arfer ei bŵer i newid systemau pleidleisio. Mae hwn yn welliant cyfaddawd. Drwy nifer o welliannau, rydym yn ceisio dileu gallu prif gynghorau i newid eu system bleidleisio'n unochrog er mwyn sicrhau cysondeb systemau etholiadol llywodraeth leol ledled Cymru ac osgoi cymhlethdod a dryswch ymhlith pleidleiswyr. Fodd bynnag, bydd y gwelliant hwn yn golygu, os na fydd ein gwelliannau'n mynd rhagddynt, mai pobl leol fydd â'r penderfyniad i newid y system bleidleisio wrth ethol prif gyngor yn hytrach na'r cyngor ei hun, drwy refferendwm. Bydd gwelliant o'r fath yn helpu i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn penderfyniadau lleol, sydd i fod yn un o brif amcanion y Bil hwn.

Mae gwelliannau 83, 92 a 148 yn ganlyniadol i welliant 94. Diolch.