Grŵp 3: Safonau’r Gymraeg (Gwelliannau 158, 159, 165, 166)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 10 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:27, 10 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cefnogi egwyddorion gwelliannau 158 a 159 yn llwyr, ac rwy'n cytuno bod angen gwaith pellach gyda'r gymuned etholiadol gyfan ynghylch sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal drwy gydol y broses etholiadau. 

Mae'r Bil eisoes yn cynnwys darpariaeth i wella hygyrchedd dogfennau etholiadol, gan gynnwys yn Gymraeg, ac, ar wahân, rwy'n cyflwyno rheoliadau i eithrio costau cyfieithu Cymraeg a Saesneg o derfynau gwariant ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y gwelliant hwn yn rhan o ddarn llawer ehangach o waith sydd eisoes ar y gweill, sy'n ymwneud â'r Bil gweinyddu etholiadol technegol y bydd angen ei gyflwyno yn y Senedd nesaf. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i drafod gyda swyddogion canlyniadau, Comisiynydd y Gymraeg a'r gymuned etholiadol i sicrhau bod profiad cyfan yr ymgeisydd a phleidleiswyr ar gyfer etholiadau datganoledig yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rwyf eisiau sicrhau ein bod ni'n cael hyn yn gywir drwy roi'r amser i sicrhau bod yr holl faterion angenrheidiol yn cael eu hystyried cyn inni ddechrau gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol. Yn y cyfamser, ar gyfer etholiadau 2021, gofynnaf i fy swyddogion godi'r mater yn ystod eu trafodaethau rheolaidd â'r gymuned etholiadol.

Rwyf hefyd yn cydnabod ac yn cytuno â'r bwriad y tu ôl i welliannau 165 a 166 o ran cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau hyn yn angenrheidiol nac yn unol â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio yn yr achos hwn. Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig; bydd y manylion sy'n cefnogi eu gweithredu yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Amlinellir y dull hwn yn yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft sy'n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig, a gafodd eu lansio fis diwethaf.

Rwyf eisoes yn bwriadu sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig, lle y bo'n briodol, i'r un rheolau a gweithdrefnau â phrif gynghorau a'm bwriad yw cymhwyso'r un safonau iaith Gymraeg i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ag sy'n berthnasol i brif gynghorau. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod y rheoliadau'n cyflawni hyn.

Rhoddir sylw i safonau'r Gymraeg yn rhan o'r rheoliadau cyffredinol y cyfeiriwyd atyn nhw yn ymgynghoriad y cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu'r rheoliadau hyn, a'm bwriad i yw sicrhau eu bod ar waith cyn y bydd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig gyfarfod am y tro cyntaf. Ar y sail hon, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch.