Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Rydyn ni'n croesawu casgliadau ac argymhellion yr adroddiad yma, ac yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, er bod yna lawer iawn o waith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Does dim amheuaeth bod y diwydiannau creadigol wedi cael eu taro'n galed iawn gan COVID-19 a bod yn rhaid i'r Llywodraeth helpu'r sector i ailadeiladu. Dwi, felly, yn croesawu'r datganiad gawson ni yn gynharach heddiw yn amlinellu rhagor o gymorth i'r sector. Dyma ni ddiwydiant cyflog uchel sydd wedi'i wreiddio yn ein cymunedau ni. Mae'r diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, efo throsiant blynyddol o £1.9 biliwn, ac mae'n bwysig cofio'r cyfraniad aruthrol mae'r sector yn ei wneud i fywyd ac economi ein gwlad ni.
A gaf i jest droi at dair agwedd benodol y prynhawn yma? I ddechrau, yr agwedd o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yn sicr, mae'r argyfwng wedi dangos eu gwerth nhw, fel y mae eraill wedi sôn yn barod. Er hyn, maen nhw'n wynebu heriau digynsail wrth iddyn nhw weld lleihad incwm a refeniw, ac mae angen ymdrech enfawr i sicrhau bod y sefydliadau yma ar gyfer y dyfodol. Dwi yn croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth yn union fydd yn yr ymateb yna. Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen i ddatganoli darlledu. Mae yna lawer o ddadleuon dros hynny, ac mae lles iechyd cyhoeddus wedi dod i'r amlwg fel un o'r dadleuon—dadl na chafodd lawer o sylw tan yr argyfwng presennol.
I droi at y cyfryngau digidol, hoffwn i sôn am Golwg360. Dyma chi wefan sy'n cael ei hariannu drwy'r cyngor llyfrau, gyda swm o £200,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd. Mae'r swm yma wedi aros yn gyson, ar yr un lefel, ers cychwyn y gwasanaeth yn ôl yn 2009—dim cynnydd yn y grant, er, yn amlwg, bod costau wedi cynyddu ac mae yna ddisgwyliad iddyn nhw wneud mwy wrth i dechnoleg a'r tirlun newyddiadurol newid a datblygu. Dwi yn credu bod angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael iddyn nhw wrth symud ymlaen a chofio am eu cyfraniad annibynnol amhrisiadwy at newyddiaduraeth yng Nghymru.
Rwy'n troi, yn olaf, at un agwedd arall sydd yn peri pryder ar hyn o bryd. Mae'n siomedig iawn clywed unwaith eto, tra bod sinemâu, neuaddau bingo, amgueddfeydd ac orielau yn gallu agor, dydy'n theatrau ni ddim yn gallu gwneud—maen nhw'n parhau i fod ar gau. Mae angen cynllun clir arnom ni ar frys gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ein theatrau yng Nghymru, a hynny mewn ffordd ddiogel, wrth gwrs. Mi gawson ni ddigwyddiadau awyr agored, arbrofol llwyddiannus iawn, fel yr un gan Theatr Clwyd dros yr haf, ac mae'r sector yn teimlo ei bod hi'n bwysig cadw'r momentwm yma i fynd dros y misoedd nesaf a chwblhau'r fframwaith llawn ar gyfer ailagor. Dydy hi ddim yn bosibl aros tan y gwanwyn i ailgychwyn digwyddiadau arbrofol.
Rydyn ni'n gwybod bod hawl i 15 unigolyn gwrdd tu fewn, a 30 tu allan, am ddigwyddiad sydd wedi ei gynllunio, ac mae staff proffesiynol theatrau'n ymwybodol iawn o'r canllawiau. Gellid dadlau bod theatrau mewn safle da i allu rheoli'n effeithiol ddigwyddiad tu fewn neu tu allan, ac mae yna chwant yna ar gyfer hyn. Mae yna arolwg yn dangos y buasai 67 y cant o bobl sy'n arfer mynd i'r theatr yn ystyried mynychu digwyddiadau pe bai lleoliadau'n ailagor efo ymbellhau cymdeithasol, a 94 y cant wedi dangos diddordeb mewn digwyddiadau'n cael eu cynnal y tu allan, hyd yn oed yn y gaeaf. Felly, mae'n amlwg bod yna alw i ailagor ein theatrau, a hoffwn i gael eich sylwadau chi ar hynny y prynhawn yma os ydy hynny'n bosib.
Does yna ddim dwywaith bod yna waith ardderchog yn digwydd. Mae yna waith positif yn digwydd. Mae Dawns i Bawb yn un enghraifft o hwnnw sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Mae yna gymaint o gwmnïau ac unigolion yn cyfrannu'n egnïol i gynnal ein bywyd diwylliannol ni er gwaethaf yr heriau di-ri, ac mae angen cofio hynny.