Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Pan gyhoeddasom ein canfyddiadau am y tro cyntaf, ymhell yn ôl ym mis Chwefror, ni allai neb fod wedi rhagweld sut y byddai'r pandemig a oedd yn datblygu yn rhwygo drwy'r economi, na sut y byddai ein canfyddiad a'n gwerthfawrogiad o gyflogaeth yn newid, a gweithwyr allweddol mewn sectorau sylfaenol yn y rheng flaen. Hwy oedd y bobl na allent weithio gartref. Roeddent yn rhan o'r economi na ellid ei chau. Roeddent yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol a oedd yn cadw olwynion bywyd bob dydd i droi pan ddaeth stop ar gymaint o bethau eraill—yn ein siopau bwyd, cyfleusterau gofal plant, safleoedd adeiladu ac yn y blaen. Ac eto, maent yn aml ar y cyflogau isaf. Felly, nawr, yn fwy nag erioed, ac wrth symud ymlaen, rhaid defnyddio caffael cyhoeddus fel catalydd ar gyfer newid, er mwyn helpu i feithrin cyfoeth a chadernid cymunedol drwy gadwyni cyflenwi lleol cryf.
Mae Aelodau eraill wedi sôn am yr hyn y mae 'lleol' yn ei wneud a beth y mae 'lleol' yn ei olygu, ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau hynny, ond edrychaf ymlaen at ateb y Gweinidog. Rwy'n mynd i ganolbwyntio yma ar ofal plant, ac rwyf hefyd yn mynd i ailffocysu'r ddadl o gwmpas y model cymdeithasol a'r parch a'r graddfeydd cyflog y dylai pobl eu cael, a sut y mae'n rhaid cynnwys hynny mewn caffael lleol. Nid oedd hyn yn amlwg yn ein hymchwiliad, ond fel y dywedais, mae'r pandemig wedi ail-lunio'r ddadl ac mae gofal plant yn rhan o'r ddadl honno. Prif rôl caffael cyhoeddus yw sicrhau nwyddau a gwasanaethau i bob dinesydd—a dyma'r rhan bwysig—mewn ffordd gyfrifol yn gymdeithasol, ac os nad oeddem eisoes yn sylweddoli hynny, mae'r pandemig wedi datgelu nwydd cyhoeddus mor hanfodol yw gofal plant, yr un mor hanfodol â'n seilwaith ffisegol a thelathrebu.
Ym mis Awst, dyrannodd Llywodraeth Cymru £4 miliwn tuag at y grant darparwyr gofal plant, a helpodd hynny fwy o feithrinfeydd i aros ar agor. Yn yr un mis, canfu arolwg gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol fod un o bob wyth gweithiwr gofal plant yn y DU yn ennill llai na £5 yr awr, ac mai £7.42 yw'r cyflog cyfartalog yr awr yn y sector, ac mae hynny'n llai, wrth gwrs, na'r cyflog byw o £8.72. Ond er bod staff meithrin ymhlith y gweithwyr sy'n ennill y cyflogau isaf, os ydych yn cyferbynnu hynny, rhieni'r DU sy'n dal i wynebu'r costau gofal plant uchaf yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gan wario traean ar gyfartaledd o'u henillion ar ofal plant. Felly, os yw caffael yn gwneud unrhyw beth, rhaid iddo godi'r anghysondebau i'r un lefel. Ar yr un pryd, bydd llawer o deuluoedd wedi teimlo ergyd talu'r ffioedd meithrinfa hynny ymlaen llaw dim ond i'w plant golli dyddiau neu wythnosau tra'n hunanynysu neu'n aros am ganlyniadau profion coronafeirws. Felly, wrth gwrs, mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn achubiaeth i deuluoedd ledled Cymru, a dim ond cyfartaledd yw cyfartaledd y DU: mae polisi Cymru'n llawer mwy hael na rhannau eraill o'r DU.
Ond wrth symud ymlaen ac edrych ar yr hyn sy'n bwysig o fewn cymuned, mae'n amlwg fod yn rhaid i gaffael edrych ar brofiad ehangach y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau y gwerir y bunt Gymreig arnynt, a rhaid iddo sicrhau cydraddoldeb o fewn y ffrwd honno o ran graddfeydd cyflog y bobl sy'n darparu'r hyn rydym i gyd yn cydnabod erbyn hyn yw'r swyddi rheng flaen a gadwodd yr economi, ac a gadwodd Gymru i fynd ar adeg o argyfwng.