10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:40, 11 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed dydd ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg, bu i bawb dawelu, fel ar y Dydd Cadoediad cyntaf. Wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi.

Bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf ym 1916 ac, yn rhyfeddol, bu iddo oroesi, neu buaswn i ddim yma yn naturiol, ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn, tan ei farwolaeth gynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Wrth gwrs, mae aeolau a chyn aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll ac mae'n anodd iawn fyth ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth yn wastadol ac mae yna lu o fudiadau yn darparu hynna, achos mae pobl wedi eu creithio am oes.

Wrth gofio taid, rhaid cael cynnydd hefyd ar waith heddwch. Rydym ni'n croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, sef testun ein gwelliant, a gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth mewn ysbryd trawsbleidiol, a dwi'n croesawu cefnogaeth Mark Isherwood.

Mae Dydd y Cadoediad eleni yn dra wahanol—y cofio yn digwydd ar wahân, y fintai fechan o'r rhai sy'n goroesi yn lleihau bob blwyddyn, a'r cofio yng nghanol unigrwydd didostur y pandemig. Mae'n dyled yn enfawr i genhedlaeth taid a chenedlaethau mwy diweddar, eu haberth yn ingol.

Collwyd y bardd Hedd Wyn ym 1917, a'i eiriau iasol am ryfel, fel dwi wedi eu hadrodd o'r blaen mewn sawl gwasanaeth cadoediad:

'Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'

Felly, i gloi, yn ein dagrau, Dirprwy Lywydd, ac fel cyd-gyflwynwyr y cynnig, yn naturiol yr ydym yn cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd heddiw ac yn diolch i bawb fu ynghlwm yn ei gyflwyno gerbron. Yn dechnegol, er mwyn cael pleidlais ar ein gwelliant ni, byddwn yn ymatal ar y cynnig cychwynnol, a dwi yn diolch yn fawr iawn am arweiniad Mark Isherwood, fel y byddan nhw hefyd yn cefnogi ein gwelliant. Mi fyddwn ni'n mynd am bleidlais ar ein gwelliant cyn cefnogi yn frwd y cynnig terfynol wedi ei wella. Diolch yn fawr.