Part of the debate – Senedd Cymru am 7:40 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am ei haraith a'i dewis o ddadl heno.
Mae mynediad amserol at wasanaethau'r GIG wedi bod ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. O 2015 ymlaen, gwnaethom fuddsoddiad blynyddol ychwanegol sylweddol mewn gofal a gynlluniwyd. Arweiniodd hyn at bedair blynedd o ostyngiad parhaus yn nifer y cleifion a oedd yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth. Erbyn mis Mawrth 2019, o'i gymharu â mis Mawrth 2015, roedd dros 36 wythnos wedi gwella 53 y cant, roedd amseroedd diagnostig wyth wythnos wedi gwella 75 y cant, ac roedd amseroedd therapi 14 wythnos wedi gwella 100 y cant. Roedd cyfanswm yr achosion brys lle ceid amheuaeth o ganser a gafodd eu trin yn y flwyddyn rhwng mis Medi 2019 a mis Awst 2020 16 y cant yn uwch na phum mlynedd yn ôl.
Ein cynlluniau GIG Cymru ar gyfer 2019-20 oedd parhau â'r gwelliannau blynyddol hynny. Fodd bynnag, o ganlyniad i effaith ddiymwad y newidiadau a orfodwyd gan Lywodraeth y DU i dreth a phensiynau staff y GIG, ni ellir cyflawni cynlluniau'r GIG. Arweiniodd effaith gychwynnol COVID ym mis Mawrth eleni, ynghyd â'r llanastr treth a phensiynau, at dros 28,000 o bobl yn aros dros 36 wythnos—mae hynny deirgwaith yn uwch nag ym mis Mawrth 2019.
Yn ystod misoedd cyntaf 2020, roedd y pandemig COVID-19 yn dechrau cael effaith ar draws systemau iechyd cyhoeddus y byd. Gan ddysgu o'r gwersi a welwyd yn Ewrop, ein blaenoriaeth strategol oedd cefnogi ein GIG i helpu i achub bywydau yma yng Nghymru. Ar 13 Mawrth, gwneuthum y penderfyniad anodd iawn i atal gofal a gynlluniwyd nad yw'n ofal brys. Cefnogwyd y penderfyniad hwn gan gyngor clinigol a'i nod oedd diogelu ein GIG fel y gallai helpu i achub bywydau'n well. Yn fuan ar ôl ein penderfyniad beiddgar yma yng Nghymru, gwnaeth gweddill y DU yr un peth. Parhaodd y gwaith o ddarparu gofal brys a gofal brys nad yw'n COVID, gan gynnwys ar gyfer canserau, lle roedd hi'n glinigol ddiogel i wneud hynny, drwy gydol yr haf. Yn ystod y misoedd diwethaf, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, mae rhywfaint o weithgarwch rheolaidd hefyd wedi dechrau cael ei ddarparu.
Roedd gweithgarwch dewisol i gleifion mewnol rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf eleni wedi gostwng 55 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â mis Mawrth i fis Gorffennaf yn 2019. Mae gwybodaeth reoli wedi dangos bod gweithgarwch gofal a gynlluniwyd i gleifion mewnol ac achosion dydd wedi cynyddu 56 y cant rhwng mis Mehefin 2020 a mis Medi 2020. Yn y Llywodraeth, rwyf wedi cydnabod bod rhaid inni gydbwyso'r risg o niwed o bedwar maes, a dyma sy'n sail i'n dull gweithredu eang ar draws y Llywodraeth: niwed uniongyrchol COVID ei hun, niwed gan system GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi'i gorlethu, niwed o ostyngiadau mewn gweithgarwch nad yw'n COVID, a niwed o gamau gweithredu cymdeithasol ehangach, gan gynnwys cyfyngiadau symud. Mae ein penderfyniad i atal gweithgarwch rheolaidd ym mis Mawrth i leihau niwed COVID ei hun wedi arwain at godi'r risg o niwed o leihau gweithgarwch nad yw'n COVID. Mae hyn wedi arwain at dwf digynsail yn y rhestr aros am ofal a gynlluniwyd.
Gwelir y nifer sylweddol sy'n aros ym mis Awst 2020 yn y GIG yn Lloegr hefyd, yn ogystal ag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ddiwedd mis Awst 2020, cofnododd GIG Lloegr eu nifer fwyaf erioed o gleifion sy'n aros dros 18, 36 a 52 wythnos. Yn ddi-os, bydd cyflwr rhai o'r cleifion hyn yn gwaethygu a byddant yn wynebu niwed mewn rhai achosion. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i gadw rheolaeth ar ledaeniad coronafeirws. Os bydd y feirws yn dechrau lledaenu'n eang eto, bydd tarfu ar wasanaethau nad ydynt yn rhai COVID a bydd mwy o niwed yn cael ei achosi—yn uniongyrchol o COVID, ond hefyd o niwed anuniongyrchol yn sgil lleihau gweithgarwch nad yw'n COVID. Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd newid y ffordd rydym i gyd yn byw ein bywydau. Rhaid inni beidio â cholli'r enillion yr ymladdwyd yn galed i'w cael o'r cyfnod atal byr a dychwelyd at y ffordd roedd pethau cyn inni ddechrau'r cyfnod diwethaf o ddwy wythnos a hanner.
Fodd bynnag, rydym wedi blaenoriaethu cleifion canser a chleifion gofal brys eraill. Rwy'n falch o ddweud ein bod, ym mis Awst 2020, wedi trin 623 o gleifion ar y llwybr brys i gleifion yr amheuir bod ganddynt ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 13 y cant ar yr un cyfnod yn 2019, ond mae hefyd yn welliant o 13 y cant ers pum mlynedd yn ôl. O fis Mehefin eleni, fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer chwarter 2, mae'r GIG wedi dechrau darparu mwy o weithgarwch gofal wedi'i gynllunio. Bu hyn yn her i'w weithredu ochr yn ochr â gofal COVID, gan fod angen ailgynllunio gwasanaethau ac adleoli staff i weithredu o fewn parthau gwarchodedig.
Mae'r mesurau diogelwch ychwanegol sydd eu hangen i ddiogelu cleifion a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, gan fod nifer y cleifion COVID yn parhau i godi unwaith eto yn ein cymunedau. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael yn ogystal â'u nifer. Lle roedd rhestrau llawdriniaethau cyn COVID yn cynllunio i gyflawni pedair llawdriniaeth er enghraifft, mae'r gofynion iechyd a diogelwch sy'n cynnwys cyfarpar diogelu personol a chadw pellter cymdeithasol wedi lleihau cynhyrchiant i ddau. Mae'r gwaith o gynnal adolygiadau wyneb yn wyneb yn ein hadrannau cleifion allanol, canolbwynt llawer o ysbytai, wedi lleihau 40 y cant i 50 y cant ar y gweithgarwch a gyflawnwyd yn flaenorol. Rwy'n falch o nodi, fodd bynnag, fod gweithgarwch rhithwir wedi cymryd lle rhywfaint o'r gweithgarwch a gollwyd. Mae tua 36 y cant o weithgarwch cleifion allanol bellach yn rhithwir. Bu modd gwneud hyn oherwydd ymroddiad parhaus ein staff, sydd wedi gallu cynyddu ein gweithgarwch rheolaidd yn y misoedd diwethaf, ac rwy'n dal i fod yn hynod ddiolchgar i'n GIG a'n staff gofal cymdeithasol. Maent wedi parhau i ddangos eu hymrwymiad proffesiynol a'u tosturi drwy gydol y cyfnod digynsail hwn.
Rydym wedi gweithredu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer cefnogi cleifion mewn gwahanol ffyrdd. Fodd bynnag, ni fydd y ffyrdd hynny ar eu pen eu hunain yn ddigon i atal y twf parhaus yn ein hamseroedd aros. Byddwn yn ailddechrau cyhoeddi amseroedd aros cenedlaethol y GIG eto, gan ddechrau ar 19 Tachwedd. Bydd hyn yn rhoi darlun llwm o'r realiti sy'n ein hwynebu. Fel y dywedais o'r blaen, nid yw hyn yn unigryw i Gymru; mae'n broblem yn y DU ac mewn gwirionedd, mae'n broblem fyd-eang.
Mae'n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth, a'r cyhoedd, yn sylweddoli maint yr her. Bydd angen inni gydweithio, ac mae gan bob un ohonom—y Llywodraeth, y GIG a'r cyhoedd—rôl i'w chwarae. Bydd y GIG yn cefnogi'r cyhoedd drwy addysg ac offer ar sut i chwarae mwy o ran yn eu gofal a'u hunanofal eu hunain. Ond nid oes ateb cyflym. Bydd yn cymryd blynyddoedd i bob gwlad yn y DU gael amseroedd aros yn ôl i ble roeddent, ac yma yng Nghymru, i barhau'n ôl ar ein llwybr gwella. Nawr, nid dyma'r sefyllfa y byddai'r GIG, y Llywodraeth, fi nac unrhyw un yng Nghymru ei heisiau. Rydym yn gwbl ymwybodol o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar unigolion sy'n aros hyd yn oed yn hwy am eu triniaeth. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chlinigwyr ar draws ein GIG i ddeall pa gymorth arall y gellid ei roi i gleifion wrth iddynt aros.
Mae ein fframwaith adsefydlu cenedlaethol yn cydnabod y rôl allweddol y gall adsefydlu ei chwarae yn cynorthwyo pobl i gadw'n iach wrth iddynt aros. Mae byrddau iechyd yn dechrau datblygu gwasanaethau rhagsefydlu i gynorthwyo cleifion i gadw'n iach wrth iddynt aros ar restrau aros. Er y gallai hyn leihau'r angen am lawdriniaeth mewn rhai achosion, mewn achosion eraill, bydd angen llawdriniaeth o hyd. Rwy'n glir fod y Llywodraeth yn dal i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r elfen bwysig hon. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda chlinigwyr i ddeall yr opsiynau sydd angen inni eu hystyried i fynd i'r afael â'r effaith a welwn. Bydd angen i'r opsiynau fod yn sylweddol er mwyn ymdrin â maint y broblem. Ond fel ym mhob gwlad ym mhob cwr o'r byd ac yma yn y DU, byddwn yn byw gyda chanlyniadau effeithiau COVID am flynyddoedd lawer, hyd yn oed ar ôl i ni gael y feirws dan reolaeth. Rydym i gyd yn wynebu tasg sylweddol o'n blaenau. Diolch, Ddirprwy Lywydd.