Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Rwy'n credu y gellid gwneud mwy bob amser o ran bod yn ymatebol ac yn gyfrifol. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy cyfrifol ac ymatebol i anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd, i'r bobl sy'n parhau i ddisgyn trwy'r rhwyd nad ydynt eto wedi cael cymorth yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i nodi. Ac yma yng Nghymru, rydym wedi cau llawer o'r bylchau hynny, fel y nodwyd eisoes, drwy greu’r gronfa adferiad diwylliannol, cronfa i weithwyr llawrydd. Mae'r gronfa cymorth dewisol wedi cael cymorth ariannol ychwanegol, ac wrth gwrs, rydym wedi sefydlu dyfarniadau dewisol i awdurdodau lleol, sy'n werth cyfanswm o £25 miliwn. Ac mae'r grantiau hynny ar gael i unig fasnachwyr, ac yn amodol ar feini prawf penodol wrth gwrs. Ond mae hyn yn dangos sut rydym yn camu i’r adwy, gan gau bylchau a grëwyd gan gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU. Ond rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael ag anghenion pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd.