Busnesau yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Gwnaf wrth gwrs. Rydym yn gwneud popeth posibl i gefnogi busnesau ar draws pob rhan o Gymru. Ym Mro Morgannwg, er enghraifft, mae 612 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint wedi cael arian drwy'r gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, gan sicrhau miloedd o swyddi, ac wrth gwrs, mae ein pecyn gwerth £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn dal ar agor i geisiadau.