Busnesau yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:39, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn anffodus wrth gwrs, caewyd un edefyn o gymorth—y grant datblygu busnes—ar ôl 24 awr. Dywedai un neges fod hynny wedi digwydd er mwyn asesu'r ceisiadau, a dywedai neges arall nad oedd rhagor o arian ar gyfer ceisiadau pellach. A all y Gweinidog roi unrhyw hyder heddiw i'r ddadl y dylid ailagor y gronfa hon, os yw'n denu cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, ac y bydd y rhai a wnaeth gais aflwyddiannus yn cael ail gyfle os caiff y gronfa ei hailagor?