Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae economi ein rhanbarth yn dibynnu’n fawr ar dwristiaeth a’r sector lletygarwch, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud hefyd. Diolch i waith caled y sector lletygarwch, mae data profi ac olrhain yn awgrymu mai 1 y cant yn unig o’r bobl sydd wedi dal COVID-19 a’i daliodd mewn tafarndai, bwytai neu gaffis. Felly, ymddengys i mi fod risg eithriadol o isel ynghlwm wrth dafarndai a bwytai. Rwy'n eu llongyfarch ar eu dewrder a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Weinidog, a wnewch chi ddadlau y dylai unrhyw gyfyngiadau pellach, gan gynnwys cyrffyw, fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o drosglwyddiadau? Awgrymaf fod eich Llywodraeth yn canolbwyntio ei sylw lle mae angen gwneud hynny ac nid ar fusnesau sydd o ddifrif yn gwneud popeth a allant i gefnogi eich nodau a gwneud bywoliaeth onest. Diolch.