Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, mae ein pecyn presennol o £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn agored i geisiadau, ac mae £40 miliwn eisoes wedi'i dalu i fwy na 14,000 o fusnesau ledled Cymru ers dechrau'r cyfnod atal byr.