Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Gwnsler Cyffredinol, mae'n ymddangos eich bod wedi dweud yn eich ateb i Joyce Watson mai Llywodraeth y DU a ddylai fod yn arwain ar negodiadau masnach gyda pha barti bynnag sy'n cymryd rhan. Yn y gorffennol, rydych wedi cwyno nad yw Cymru'n gallu cyflwyno ei rheolau a'i rheoliadau gwahanol i rai'r DU yn gyffredinol. Onid ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y DU yn dangos safbwynt unedig yn y negodiadau hyn, yn enwedig gyda'r rheolau a'r rheoliadau mewn perthynas â mewnforio ac allforio nwyddau, a gwasanaethau yn wir? Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod llawer o achosion wedi bod o gynhyrchion bwyd gwael iawn yn dod o'r UE dros y blynyddoedd.