Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol ac am ei chefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr bwyd yn ei rhanbarth. Rydym wedi dadlau’r achos yn gyson i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau masnach rhyngwladol o ran pa mor bwysig yw cynnal safonau bwyd er mwyn amddiffyn ein cynhyrchwyr bwyd yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig, mewn gwirionedd, nid yn unig o'r sicrwydd a roddwn i ddefnyddwyr yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ond hefyd o frand Cymru yn rhyngwladol, wrth inni geisio manteisio ar gyfleoedd pellach i allforio yn y dyfodol. Felly, rydym yn bryderus iawn ynghylch unrhyw bosibilrwydd o ostwng safonau a'r tandorri prisiau y gallai hynny ei olygu o bosibl. Mae'n rhaid inni beidio â rhoi ein cynhyrchwyr mewn sefyllfa lle maent yn wynebu cystadleuaeth annheg. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn parhau i ddadlau’r achos hwnnw i Weinidogion Llywodraeth y DU. Fe fydd hi hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y bygythiad o safonau is, yn anuniongyrchol o bosibl o ganlyniad i fewnforion o rannau eraill o'r byd, yn un o'r rhesymau pam ein bod wedi bod mor bryderus ynghylch cynigion Llywodraeth y DU yn y Bil marchnad fewnol, sydd, fel y gŵyr, wedi’i gynllunio i raddau helaeth i sicrhau mai'r safonau isaf a fydd i'w gweld ar draws unrhyw ran o'r DU. Gwn y bydd yn rhannu ein pryderon difrifol ynglŷn ag effaith y Bil hwnnw a'n gwrthwynebiad i'w ddarpariaethau.