Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud pa mor falch yr oeddwn o weld bod Joe Biden wedi'i ethol yn arlywydd gyda chanlyniad mor ysgubol. Mae'n fuddugoliaeth i ryngwladoliaeth, egwyddor a rheswm. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y drafodaeth hon yn y cyd-destun hwnnw.
Mae'n llygad ei lle i ddweud bod y rhagolygon ar gyfer cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd wedi cymryd cam yn ôl yn sgil cyflwyno'r Bil marchnad fewnol, oherwydd ei fod yn codi mater ymddiriedaeth. Ac os ydych ynghanol y broses o negodi cytundeb rhyngwladol, mae cael un parti'n dangos yn ddigamsyniol iawn ei bod yn gwbl barod i dorri cytundebau rhyngwladol yn amlwg yn niweidiol i ymddiriedaeth yn y negodiadau hynny. A chredaf fod hynny wedi cael effaith sylweddol ar drafodaethau.
Fel finnau, fe fydd hi wedi dilyn y trafodaethau yn Nhŷ'r Arglwyddi, sydd wedi dangos bod yna gynghrair eang a dwfn iawn o wrthwynebiad i'r Bil, am y rhesymau y mae'n eu rhoi. A chredaf y byddwn yn parhau—. Rydym wedi trafod gyda chymheiriaid y dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn ac rydym wedi cefnogi'r dull hwnnw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf y byddai Llywodraeth ddoeth yn ymateb i hynny drwy ddiwygio'r ddeddfwriaeth, mewn nifer fawr iawn o ffyrdd, gyda llaw. Ac rwy'n annog Llywodraeth y DU i fanteisio ar y cyfle i ymateb i gynghrair mor eang a dwfn o wrthwynebiad a chymryd camau i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yn y ffordd y mae ei chwestiwn yn ei awgrymu.