Cytundeb Masnach â'r UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:54, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae ethol Joe Biden yn ei gwneud yn llai tebygol y gall Llywodraeth y DU ddibynnu ar gefnogaeth Donald Trump i strategaeth liwt-ei-hun, ond rydym wedi gweld yn y gorffennol pa mor anodd yw negodi gyda'r Unol Daleithiau gyda'r cytundeb partneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig aflwyddiannus, a gymerodd dros dair blynedd a hynny'n bennaf oherwydd ein pryder fod yr Unol Daleithiau eisiau gallu cymryd rheolaeth ar ein gwasanaeth iechyd gwladol. Heddiw, mae'n amlwg ein bod yn poeni mwy am danseilio ein safonau bwyd a lles anifeiliaid. Ond rwy'n credu mai un o'r prif rwystrau i unrhyw gytundeb gyda 27 gwlad yr UE bellach, mae'n ymddangos, yw'r Bil marchnad fewnol, oherwydd yr elfennau cymorth gwladwriaethol o fewn y Bil marchnad fewnol, a ddylai fod yn achos pryder enfawr i unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig ac unrhyw un sy'n pryderu am gyflwr yr undeb yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd Joe Biden yn nodi hyn yn glir, yn enwedig yng nghyswllt cytundeb Gwener y Groglith. Ond beth, os unrhyw beth, y gallwn ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU i roi'r gorau i'r ddeddfwriaeth hynod o niweidiol hon, sydd bron â bod yn gwarantu 'dim cytundeb'?