Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:38, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, fel pan ofynnodd yr Aelod y cwestiwn hwn ddiwethaf yn y Siambr, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod y rhagdybiaeth sy'n sail i'w gwestiwn. Mae'r ddogfen yn disgrifio, mewn ffordd ymarferol iawn, cyfres o fesurau sylweddol iawn, y bydd llawer ohonynt yn cael effaith hynod o fuddiol, yn enwedig ar fywydau pobl hŷn, ac yn wir, rwy'n credu bod y comisiynydd pobl hŷn yn amlinellu rhai o'r rheini yn ei gohebiaeth â mi. Rwy'n credu'n bendant fod y comisiynydd, ac yn sicr y grwpiau sydd wedi bod mewn cysylltiad, a'r Aelod hefyd, byddwn yn gobeithio, yn canolbwyntio llawer mwy ar effaith sylweddol y strategaeth honno nag ar gyfeiriadau penodol o'i mewn. Fel y gŵyr—soniodd wrthyf o'r blaen nad oedd unrhyw gyfeiriadau at bobl hŷn yn y ddogfen. Rwy'n siŵr y bydd yn gwybod erbyn hyn, ar ôl cael cyfle i ddarllen y ddogfen, nad yw hynny'n wir. Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn—[Torri ar draws.]—Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn mewn perthynas â'r ddogfen, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o wybod bod eu buddiannau'n cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y ddogfen, mewn ffordd nad wyf yn credu sy'n digwydd, efallai, yn ei bolisi ei hun mewn perthynas â'r ymateb i COVID.