2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ofyn rhai cwestiynau mewn perthynas â'ch cyfrifoldebau adfer COVID, os yw hynny'n iawn, Weinidog? Ers inni siarad ddiwethaf, mae ein cenedl gyfan, a'r rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi bod dan ryw fath o gyfyngiadau, ac maent bellach wedi dod i ben. A allwch chi ddweud wrthym pa effaith y mae'r cyfyngiadau hynny wedi'i chael ar strategaeth adfer COVID hirdymor Llywodraeth Cymru?
Wel, mae fy nghyfrifoldebau mewn perthynas ag adfer COVID wedi dod i ben gyda chyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ddechrau mis Hydref. Felly, rwy'n hapus iawn i gyfeirio ei gwestiwn at y cyd-Weinidog perthnasol a fydd yn gallu rhoi ateb iddo.
Felly, nid oes yna Weinidog adfer COVID ar hyn o bryd, Weinidog? Nid oeddwn yn ymwybodol fod eich cyfrifoldebau adfer COVID wedi dod i ben. Ond mae'n ddefnyddiol iawn cael o leiaf ryw fath o gadarnhad o hynny i Aelodau'r Senedd hon. Byddwn wedi meddwl y dylem fod wedi cael gwybod hynny ymhell cyn i chi ymddangos ger ein bron heddiw.
Mewn perthynas â'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych, felly, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gafwyd gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ailadeiladu Cymru ar ôl y pandemig? Yn amlwg, rwyf wedi bod yn bryderus iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, o weld bod lefel diweithdra yng Nghymru wedi bod yn codi, a hynny'n gyflymach nag y gwnaeth mewn rhannau eraill o'r DU. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i benderfynu a oes cysylltiad rhwng hynny a hyd a llymder y cyfyngiadau lleol, ar y cyd â'r cyfnod atal rydym newydd fod drwyddo gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol ledled Cymru?
Wel, rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach, Lywydd. Bydd y cwestiwn ar y papur trefn yn dangos yn gwbl glir yn rhinwedd pa swyddogaeth rwy'n ateb y cwestiynau heddiw, a chyfeiriaf yr Aelod at sylwadau'r Prif Weinidog mewn perthynas â hyn yn y pwyllgor y gwnaethom ein dau fynychu yn ddiweddar iawn.
Ond y pwynt y mae'n ei wneud, mewn perthynas â'r ddogfen ei hun—rwy'n credu bod y ddogfen yn amlinellu rhai o'r risgiau sylweddol y mae economi Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID ac mae'n rhagweld y bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli, yn enwedig ymhlith carfannau penodol o bobl yng Nghymru. A dyna'n union pam fod un o'r blaenoriaethau a nodwyd ynddi'n ymwneud â sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith lle mae ganddynt waith, neu yn y sefyllfa orau i gael gwaith newydd, os mai dyna'r llwybr sydd ar gael iddynt. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â buddsoddiad sylweddol mewn swyddi a chyflogadwyedd o'r math y mae Gweinidog yr economi eisoes wedi'i gyhoeddi. Mae rhywfaint ohono'n ymwneud ag ysgogi'r economi drwy fentrau sydd â chanlyniadau cadarnhaol eraill yng nghyd-destun COVID. Felly, bydd rhai o'r ymyriadau sy'n ymwneud â thai gwyrdd ac adeiladu tai yn digwydd yn y fan honno. Ac mae'r edefyn hwnnw, rwy'n credu, yn rhedeg drwy'r ddogfen i gyd mewn ffordd sy'n dangos, rwy'n credu, fod effaith COVID ar ein cymdeithas yn amlweddog iawn, yn anffodus.
Mae'n amlweddog yn wir, ac rwy'n falch fod y ddogfen honno wedi'i llunio. Fel y gwyddoch, roedd gennyf bryderon am rai elfennau nad oeddent yn cael sylw helaeth yn y ddogfen honno, yn enwedig mewn perthynas ag absenoldeb ymgysylltiad â phobl hŷn a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y cyfnod cyn ei chyhoeddi. A allwch chi ddweud wrthyf pa drafodaethau a fu ers ei chyhoeddi er mwyn rhoi sicrwydd i'r Aelodau o'r Senedd fod y comisiynydd pobl hŷn a rhanddeiliaid a grwpiau pobl hŷn eraill bellach wedi bod yn rhan o drafodaeth ar adfer ar ôl y pandemig COVID?
Wel, fel pan ofynnodd yr Aelod y cwestiwn hwn ddiwethaf yn y Siambr, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod y rhagdybiaeth sy'n sail i'w gwestiwn. Mae'r ddogfen yn disgrifio, mewn ffordd ymarferol iawn, cyfres o fesurau sylweddol iawn, y bydd llawer ohonynt yn cael effaith hynod o fuddiol, yn enwedig ar fywydau pobl hŷn, ac yn wir, rwy'n credu bod y comisiynydd pobl hŷn yn amlinellu rhai o'r rheini yn ei gohebiaeth â mi. Rwy'n credu'n bendant fod y comisiynydd, ac yn sicr y grwpiau sydd wedi bod mewn cysylltiad, a'r Aelod hefyd, byddwn yn gobeithio, yn canolbwyntio llawer mwy ar effaith sylweddol y strategaeth honno nag ar gyfeiriadau penodol o'i mewn. Fel y gŵyr—soniodd wrthyf o'r blaen nad oedd unrhyw gyfeiriadau at bobl hŷn yn y ddogfen. Rwy'n siŵr y bydd yn gwybod erbyn hyn, ar ôl cael cyfle i ddarllen y ddogfen, nad yw hynny'n wir. Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn—[Torri ar draws.]—Rwyf wedi cael dwy sgwrs gynhyrchiol iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn mewn perthynas â'r ddogfen, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch o wybod bod eu buddiannau'n cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y ddogfen, mewn ffordd nad wyf yn credu sy'n digwydd, efallai, yn ei bolisi ei hun mewn perthynas â'r ymateb i COVID.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Llywydd. [Anghlywadwy.]—yn dod rownd i feddwl na allai pethau fynd yn waeth efo'r trafodaethau Brexit, dyma ni'n cael Bil y farchnad fewnol, sy'n torri deddfwriaeth ryngwladol ynglŷn â Gogledd Iwerddon, yn ogystal â llwyr danseilio datganoli, a'r Senedd yn colli pwerau drwyddi draw. Mae'r Bil ar ei daith drwy San Steffan ar hyn o bryd, fel rydych chi'n gwybod, ond os bydd eich gwelliannau fel Llywodraeth Cymru yn ffaelu, fel y disgwyl, beth fydd ymateb Llywodraeth Cymru i ddinistr datganoli, ac i'r sarhad diweddaraf yma i'n Senedd a'n cenedl?
Wel, rŷch chi'n gwybod, fel mae Dai Lloyd yn gwybod, rŷn ni wedi gosod gwelliannau, ac mae'r Arglwyddi wedi cymryd yr awenau ar gyflwyno rhai o'r gwelliannau hynny, ond rwy'n credu, ar y cyfan, fod pob un wedi cael ei gyflwyno mewn rhyw ffordd. Mae'r memorandwm rŷn ni wedi gosod o flaen y Senedd ynglŷn â'r cydsyniad yn disgrifio yn fanwl, rwy'n credu, ein gofidiau ni yng nghyd-destun y Bil. Rŷn ni'n disgwyl i bob un o'r rheini gael eu delio â nhw. Os na ddigwyddith hynny, bydd dim newid ar y cyngor rŷn ni'n ei roi i'r Senedd i wrthod cydsyniad i'r Bil fel mae e wedi'i gyflwyno, ac rwy'n gobeithio, ac yn disgwyl, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddim yn parhau gyda'r Bil yn wyneb gwrthwynebiad y Seneddau.
Diolch am hynna, Gweinidog. Nawr, i droi at faterion a heriau diwedd y cyfnod pontio, ac, wrth gwrs, rydyn ni gyd wedi darllen yr ymateb rydych chi wedi ei gyflwyno heddiw yn y 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020'—. Nawr, yn benodol ynghylch Brexit a phorthladdoedd Cymru, mae porthladd Dulyn wedi buddsoddi €30 miliwn i ddatblygu adnoddau tollau yno. Mewn cymhariaeth, bychan iawn ydy'r datblygiadau angenrheidiol yng Nghaergybi ac Abergwaun. Felly, pam fod trefniadau Brexit porthladdoedd Cymru gymaint ar ei hôl hi o gymharu efo'n cefndryd Gwyddelig?
Mae'r newidiadau sy'n digwydd yn y porthladdoedd yn dod yn sgil penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i chwilio am y math o gytundeb sy'n mynd i greu rhwystredigaethau i allforion a mewnforion yn ein porthladdoedd ni. Rŷn ni wedi bod yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i'n cynnwys ni yn y trafodaethau maen nhw wedi bod yn cael ers dechrau'r flwyddyn. Dim ond yn ddiweddar iawn mae hynny wedi digwydd, er mae e wedi digwydd erbyn hyn. Ond rŷn ni wedi colli'r cyfnod yna o amser. Rŷn ni fel Llywodraeth yn awyddus i gydweithio â'r Llywodraeth yn San Steffan, wrth gwrs, ynglŷn â hyn.
Mae rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r isadeiledd sydd ei angen ger y porthladdoedd i ddelio â'r gwirio fydd ei angen o fis Ionawr o safbwynt y Llywodraeth yn San Steffan, a mis Gorffennaf o'n safbwynt ni. Dyna pryd fydd ein cyfrifoldebau ni fel Llywodraeth yn dod i rym, yng nghanol y flwyddyn nesaf. Rŷn ni'n dal yn aros am eglurder, gyda 50 o ddiwrnodau i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio. Mae'r lleoliadau posib yn y gogledd wedi cael eu cyfyngu nawr i un neu ddau, ond does dim penderfyniad yn y pen draw wedi'i wneud gan y Llywodraeth yn San Steffan am hynny, felly rŷn ni'n dal yn aros am eglurder am hynny.
Mae hyn wrth gwrs yn cael effaith ar rai o'n cyfrifoldebau ni o ran cefnogi cymunedau, a hefyd o ran delio gyda thraffig at ati. Dwi wedi codi'r pethau yma mewn cyfarfodydd gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, yn cynnwys y bore yma, ac rwy'n disgwyl gwneud hynny eto mewn cyfarfod penodol wythnos nesaf sy'n delio â'r porthladdoedd yma yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna. Dwi'n gweld beth rydych chi'n ei ddisgrifio fel tipyn bach llai o gydweithredu na fuasai'n ddelfrydol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, nid fy mod i'n eich beio chi yn y mater yna, Gweinidog. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod porthladdoedd Iwerddon wedi bod yn buddsoddi'n drwm mewn llwybrau gwahanol i'w llongau i gyrraedd y cyfandir, drwy osgoi porthladdoedd y Deyrnas Unedig, gan osgoi llefydd fel Caergybi. A allaf i ofyn felly, pa asesiad ydych chi fel Llywodraeth Cymru nawr wedi ei wneud ar effaith unrhyw ostyngiad yn y traffig drwy borthladdoedd Cymru?
Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud, ac mae'r risg o arallgyfeirio masnach yn un lle mae lot o gonsyrn gyda ni fel Llywodraeth. Mae dau gwestiwn mawr ar hyn o bryd rŷn ni'n dal yn aros am eglurder ynglŷn â nhw, sy'n deillio'n rhannol o'r gweithgaredd ynglŷn â'r protocol yng Ngogledd Iwerddon. Hynny yw, y cwestiwn cyntaf yw nwyddau o Ogledd Iwerddon—maen nhw'n cael mynd i Loegr a'r Alban yn uniongyrchol, felly heb wirio. Ond os ydyn nhw'n dod trwy'r Weriniaeth, byddan nhw'n cael eu gwirio yn ein porthladdoedd ni yng Nghymru. Felly, mae risg yn fan yna o ran arallgyfeirio. A hefyd, ar nwyddau o'r Weriniaeth i Gymru, bydd checks fan yna, ond os ânt trwy Ogledd Iwerddon, mae'n debygol y bydd llai o checks, felly mae'r ddau gwestiwn hynny'n awgrymu bod y risg o arallgyfeirio yn risg go iawn. Rŷn ni'n dal i aros am eglurder, am ddadansoddiad o impact y rheini o'r Llywodraeth yn San Steffan, ac mae pwyllgor yn gweithio ar hyn o bryd i edrych ar yr impact ar fasnach. Rŷn ni'n dal i aros am ganlyniadau'r gwaith hynny.